Agenda a Chofnodion

Special, Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Dydd Mercher, 15fed Chwefror, 2023 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Alison Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023 fel cofnod cywir.

 

4.

Hunan-asesiad drafft pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd trosolwg a chrynodeb o'r hunanasesiad i aelodau'r pwyllgor.

Cyfeiriodd swyddogion at feysydd penodol o'r asesiad gan ddarparu esboniad i aelodau o ran sut casglwyd yr wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Hysbyswyd yr aelodau fod yr asesiad wedi'i ddylunio ar lefel Gorfforaethol gyda thri chwestiwn canolog yn cael eu hystyried.

 

Lluniwyd tystiolaeth o'r defnydd o dystiolaeth fewnol, adroddiadau rheoleiddio ac adborth cyfansoddiadol o fewn blwyddyn ariannol 21/22.

Mae gwybodaeth o fewn yr asesiad hefyd yn berthnasol i Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol yr awdurdod ar gyfer 2021/22. Hysbyswyd yr aelodau hefyd am yr wyth gweithgaredd craidd a aseswyd yn erbyn pecyn cymorth CLlLC, y datblygwyd pob un ohonynt gan Benaethiaid Gwasanaeth.

Amlinellodd swyddogion y camau gweithredu a restrwyd, fodd bynnag, nodwyd i'r aelodau nad oedd y camau gweithredu wedi'u creu'n ddiweddar a gellid dod o hyd iddynt gyda'r Cynllun Datganiad Llywodraethu Blynyddol 21/22 a Chynllun Corfforaethol presennol y cyngor.

 

Roedd aelodau'n awyddus i dynnu sylw at nifer o wallau teipograffyddol o fewn yr adroddiad ac argymhellwyd y canlynol.

 

T.12 'Beth allwn ni ei wneud yn well a sut' i'w adolygu a'i gadarnhau.

T.21 Dylai Llywodraeth ddweud Llywodraethu

T.42 Nodi 'o'r' rhwng ‘ystyriol' ac 'asesiad'.

T.52 Nodi 'it' rhwng 'is'.

T. 44, 48 yn y pecyn adroddiadau (tudalen 30 yr asesiad) - caiff y dyddiad ei gadarnhau fel naill ai mis Mawrth 2024 neu fis Mawrth 2023.

T. 49 Gwall teipograffyddol, sef MaR

 

Holodd yr aelodau a gynhaliwyd archwiliad diweddar o’r Fframwaith Rheoli Risgiau. Dywedodd swyddogion na gynhaliwyd archwiliad mewnol yn ddiweddar. Fodd bynnag, yn unol â'r polisi a'r fframwaith newydd arfaethedig, gwnaed darpariaethau yn y cynllun archwilio ar gyfer y flwyddyn nesaf i gynnal archwiliad o gydymffurfiaeth â'r polisi a'r weithdrefn newydd, a chaiff y canlyniadau eu hadrodd mewn cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol. 

 

Gofynnodd yr aelodau am gopi o'r Gofrestr Risgiau ddiweddaraf a dywedwyd wrthynt fod yr adroddiad wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod Bwrdd y Cabinet ar 22 Chwefror, ac ar ôl iddo gael ei brosesu byddai copïau'n cael eu hanfon ymlaen.

 

Darparodd yr aelodau adborth cadarnhaol ar yr asesiad yn ei gyfanrwydd a diolchwyd i’r swyddogion.

 

Penderfyniad: Cytunodd y pwyllgor i gefnogi'r asesiad a chaiff ei gyflwyno i Fwrdd y Cabinet am benderfyniad yn ystod cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 22 Chwefror 2023.  

 

 

5.

Adolygiad Llywodraethu Allanol Annibynnol - Adroddiad Diweddaru pdf eicon PDF 819 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd i aelodau'r Pwyllgor.

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am y cynllun gweithredu fel a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol. Roedd y swyddogion yn gallu egluro bod yr holl gamau gweithredu y cytunwyd arnynt wedi'u rhoi ar waith, a pha rai fyddai'n cael eu defnyddio mewn unrhyw sefyllfaoedd llywodraethu yn y dyfodol.

 

Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Mae hynny'n unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac eithrio'r cyhoedd am yr eitemau canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio'n debygol fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12, 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol.

Report of the Head of Legal Services.

- Committee Resolved into Open Session -

8.

Atodiad 1 – Adroddiad diweddaru Adolygiad Llywodraethu Allanol Annibynnol

Cofnodion:

Dosbarthwyd Atodiad 1 fel eitem breifat er mwyn ychwanegu at a chefnogi eitem rhif 5 ar yr agenda - Adolygiad Llywodraethu Allanol Annibynnol - adroddiad diweddaru.

Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o'r ddogfen.

 

Penderfynwyd: Nodi atodiad 1, ar y cyd ag eitem rhif 5 ar yr agenda er gwybodaeth.