Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 104 KB Cofnodion: Cytunwyd y dylid cymeradwyo cofnodion 15 Medi 2021
fel cofnod gwir a chywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif
Weithredwr, Karen Jones, yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad allanol.
Tynnwyd sylw at dri phwynt o'r adroddiad a ddarparwyd. Ar dudalen 15, nododd y Prif Weithredwr nad oedd y gwaith i ddod â mwy o
eglurder i weithdrefnau gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â gwaith cyfalaf
wedi'i gwblhau o fewn y dyddiad a ragwelwyd. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Prif
Weithredwr fod gwaith bellach wedi'i gwblhau a bydd yn mynd gerbron y Cabinet
ar 15 Rhagfyr. Roedd yr ail
elfen a amlinellwyd ar dudalen 17 yn ymwneud â'r domen sbwriel. Bu cryn dipyn o
gynnydd o ran opsiynau i ymdrin â'r domen sbwriel. Cynhaliwyd cyfarfod
cyhoeddus a chytunwyd y byddai rhagor o ymgysylltu â'r cyhoedd cyn cyflwyno'r
adroddiadau opsiynau i'r aelodau. Dylai'r adroddiad nesaf fod gerbron aelodau
cyn diwedd y flwyddyn. Roedd yr elfen
olaf ar dudalen 19 yn ymwneud â hyfforddiant. Cyflogwyd hyfforddwr allanol ac
mae hyfforddiant swyddogion wedi'i gwblhau. Mae Aelodau'r Cabinet hefyd wedi
cwblhau'r hyfforddiant. Ar ôl ymgynghori ag arweinwyr grwpiau, disgwylir i
hyfforddiant gyda gweddill yr aelodau gael ei drefnu fel rhan o'r broses
sefydlu aelodau ar ôl yr etholiadau yn 2022. Nododd yr Aelodau
fod yr holl gamau gweithredu eraill yn yr adroddiad wedi'u cwblhau. Byddai Archwilio
Mewnol yn parhau i brofi'r gweithdrefnau gwneud penderfyniadau fel rhan o'u
gwaith adolygu mewnol parhaus. Penderfynwyd:Cymeradwyo'r ddau
argymhelliad a geir yn yr adroddiad. |
|
Diweddariad ar y Siarter Archwilio Mewnol PDF 424 KB Cofnodion: Aeth Huw Jones, y
Prif Swyddog Cyllid, drwy'r adroddiad. Mae Safonau Archwilio Mewnol y Sector
Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael pennaeth archwilio
mewnol. Yn dilyn ymddeoliad y Pennaeth Cyllid, mae angen ailddynodi'r rôl hon
yn awr. Nid oes unrhyw newidiadau gweithredol o ganlyniad i'r ailddynodi hwn. Penderfynwyd:Cymeradwyo'r
argymhelliad a gynhwysir gyda'r adroddiad. |
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 791 KB Cofnodion: Aeth Anne-Marie O'Donnell
drwy'r adroddiad. Cyflwynir yr adroddiad hwn bob chwarter. Cafwyd rhai
newidiadau yn sgîl materion staffio ac effeithiau COVID-19. Cadarnhawyd bod swyddi gwag cyfredol a fydd yn parhau wrth i adolygiad o'r
strwythur staffio gael ei gynnal. Mae'r gwaith
blwyddyn ariannol hwn wedi'i gwtogi oherwydd lefel uwch na'r arfer o salwch o
fewn y tîm a hefyd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad i COVID-19. Mae rhai
archwiliadau wedi'u dileu'n llwyr ac mae eraill wedi'u trosglwyddo i'r flwyddyn
ariannol newydd. Manylir ar y cynllun newydd yn yr adroddiad. Mae'n anochel y
bydd y penderfyniad i ddiwygio cynllun eleni yn cael effaith yn 22/23. Mae
swyddogion yn fodlon bod angen cynnal yr archwiliadau sy'n cael eu cyflwyno.
Maent yn feysydd risg uchel ac yn cysylltu'n uniongyrchol â blaenoriaethau
corfforaethol y cyngor. Yn y flwyddyn newydd bydd cyfarfodydd gyda'r gwahanol
dimau uwch-reolwyr ar draws y cyngor. Hyd nes y cynhelir y cyfarfodydd hyn
mae'n anodd mesur effaith y newidiadau. Yn debyg i weddill yr awdurdod, bydd yr
effaith a achosir gan y pandemig yn parhau am nifer o flynyddoedd. Penderfynwyd: Cymeradwyo'r argymhelliad a geir yn yr adroddiad. |
|
Cofrestr o Adroddiadau ac Argymhellion Rheolyddion PDF 580 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aeth Caryn
Furlow-Harris drwy'r adroddiad. Roedd yr adroddiad yn darparu’r diweddariad
cyntaf i'r pwyllgor ar adroddiadau a dderbyniwyd gan reoleiddwyr allanol. Mae
hyn yn darparu proses i'r pwyllgor er mwyn monitro unrhyw argymhellion allanol
a geir yn yr adroddiadau. Rhestrwyd yr adroddiadau a dderbyniwyd ers mis Ebrill 2021 ynghyd â
chrynodeb byr o bob adroddiad ac roeddent yn cadarnhau nad oedd unrhyw
argymhellion wedi'u cynnwys yn yr adroddiadau. Cyhoeddwyd dau
adroddiad hefyd ym mis Medi. Yn gyntaf, adroddiad cenedlaethol a gyhoeddwyd gan
Archwilio Cymru ar Adfywio Canol Trefi. Roedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer
Llywodraeth Cymru a dau argymhelliad ar gyfer awdurdodau lleol hefyd. Mae
swyddogion Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd bellach yn ystyried yr argymhellion a
bydd adroddiad yn mynd gerbron Bwrdd y Cabinet Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ym
mis Ionawr a fydd yn nodi'r camau y bwriedir eu cymryd i fynd i'r afael â'r
argymhellion. Derbyniwyd yr ail
adroddiad yn dilyn yr Arolygiad ar y Cyd ar Drefniadau Amddiffyn Plant. Mae
ganddo nifer o ganfyddiadau gyda chynllun gweithredu ar y cyd yn cael ei ddatblygu.
Bydd hyn yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet ym
mis Rhagfyr. Penderfynwyd:Cymeradwyo'r
argymhelliad yn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru PDF 198 KB Cofnodion: Nododd aelodau'r
adroddiad. |
|
Cynaladwyedd Ariannol Llywodraeth Leol PDF 431 KB Cofnodion: Tynnwyd sylw'r
aelodau at un neu ddau o bwyntiau. Mae'r adroddiad yn adeiladu ar yr adroddiad
a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020. Mae cwpl o themâu allweddol sy'n gyffredin ym mhob un o'r cynghorau.
Darparwyd cyllid ychwanegol i'r cyngor i liniaru cost y pandemig. O ganlyniad,
mae sefyllfa ariannol holl weithgareddau'r cyngor wedi gwella. Mae pob cyngor
wedi cynyddu eu lefelau cronfeydd wrth gefn. Canfu'r adroddiad hefyd fod rhai
meysydd o orwariant sylweddol gan rai cynghorau a bod pwysau o ganlyniad i
alw’n parhau i gynyddu. Mae'r adroddiad
yn nodi pedwar cam y gall cynghorau eu cymryd i wella cynaliadwyedd ariannol,
mewn perthynas â strategaeth ariannol, cronfeydd wrth gefn, perfformiad yn
erbyn y gyllideb a chyflawni arbedion Nododd aelodau'r
adroddiad. |
|
Asesiad o Gynaladwyedd Ariannol PDF 849 KB Cofnodion: Mae'r adroddiad
lleol hwn yn adeiladu ar waith yn 2019/2020. Mae'r themâu a nodwyd yn yr
adroddiad yn dilyn y rheini yn yr adroddiad cenedlaethol a chanfuwyd bod y
cyngor mewn sefyllfa dda i gynnal cynaladwyedd ariannol. Llwyddodd cyllid
ychwanegol ar gyfer Cymru i liniaru'r effaith uniongyrchol ar gynaladwyedd
ariannol. Cydnabu'r
adroddiad fod lefel y cronfeydd wrth gefn wedi cynyddu. Hefyd, mae gan y cyngor
hanes da o ddarparu gwasanaethau o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt a
chyflawni'r rhan fwyaf o'i arbedion arfaethedig. Nododd aelodau'r adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Lleol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag
Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r
eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth
eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y
Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD:Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn
cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 12, 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu'n eithriedig) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd) Cofnodion: Derbyniodd
yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiadau preifat a gyhoeddwyd ers
cyfarfod diwethaf y pwyllgor gyda'i gilydd yn rhoi manylion yr holl ymchwiliadau
arbennig cyfredol. PENDERFYNWYD: Dylid nodi'r adroddiad. |