Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naidine Jones E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Mewn perthynas ag Eitem 6 Archwilio Cymru - Cau
Cyfrifon, tynnodd yr aelodau sylw at y rhan a oedd yn nodi bod angen gwneud gwaith
ychwanegol gan y tîm Cyllid. Canfuwyd yma fod y cyfrifon yn gywir. Gwnaeth
Archwilio Cymru argymhelliad i'r cyngor fod angen adolygu'r polisïau a'r
gweithdrefnau perthnasol ynghylch cyflwyno taliadau mewnol. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai canlyniad y gwaith hwn yn cael ei ailgyflwyno i'r pwyllgor
erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Holodd yr Aelodau ynghylch y broses o ran
cofnodion cyfarfodydd. Eglurwyd bod proses safonedig ar draws y cyngor ar gyfer
pob cofnod. Roedd y cofnodion yn gofnod
cyhoeddus o'r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod, nid cofnod air am air. Mae cofnod llawn o'r cyfarfod ar gael ar
wefan CNPT. Mae'r cofnodion hyn yn cael
eu cadw ar y wefan heb ddyddiad dod i ben.
Cafodd yr aelodau gyfle i gyflwyno unrhyw faterion ar gywirdeb y
cofnodion hynny pan godwyd hwy yn y cyfarfod dilynol. Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 9, Adroddiad Dilynol Archwilio Mewnol
2024/25 , a gofynnwyd a fyddai ymateb mwy manwl yn cael ei ddarparu yn y
dyfodol o ran "Ymatebion gan Gyfarwyddwyr/Benaethiaid
Gwasanaeth/Penaethiaid i Adroddiadau Archwilio Mewnol Cyfyngedig/Dim
Sicrwydd". |
|
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. Nododd yr aelodau y byddai adroddiad pellach ar y
berthynas rhwng y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn
cael ei roi ar yr agenda ar gyfer cyfarfod y pwyllgor hwn ym mis Chwefror.
Roedd yr adroddiad eisoes wedi'i ystyried a'i gymeradwyo yng nghyfarfod
diwethaf y Pwyllgor Safonau. Yn ogystal, cytunwyd y byddai Swyddogion yn rhan o
gyfarfodydd Pwyllgorau'r Flaenraglen Waith er mwyn i aelodau ymgymryd â
hunanasesiad o ran pa mor effeithiol a chynhyrchiol yr oeddent yn teimlo oedd y
Pwyllgor. Cynhaliwyd trafodaeth ar nifer yr eitemau i'w
hystyried mewn cyfarfodydd ac a oedd cyfle i fwy o gyfarfodydd gael eu
rhaglennu. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd swyddogion Archwilio Cymru drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad
‘Digidol o fwriad? Gwersi o'n hadolygiad o strategaethau digidol ar draws
cynghorau yng Nghymru’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fel a nodir yn y papurau a
ddosbarthwyd. Eglurwyd bod yr adroddiad thematig wedi’i lunio yn dilyn adolygiad
strategaeth ddigidol yn 2023 o drefniadau Strategaeth Ddigidol unigol pob un
o’r 22 awdurdod lleol i sicrhau gwerth am arian ac i alinio â’r egwyddorion
datblygu cynaliadwy. Yn flaenorol, derbyniodd y pwyllgor ganlyniad adolygiad
Cyngor Castell-nedd Port Talbot ym mis Ionawr 2024. Mae'r adroddiad thematig wedi nodi pum gwers allweddol sy'n ymwneud â
thystiolaeth, cydweithio, adnoddau, effaith a dysgu. Maent yn cael eu hystyried fel meysydd
cyffredin i'w gwella ac maent yn cynrychioli'r prif gyfleoedd i gynghorau
gryfhau eu defnydd o'r egwyddorion datblygu cynaliadwy a sicrhau gwerth am
arian. O dan y pum gwers allweddol a nodwyd yn yr adroddiad, mae Archwilio Cymru
wedi cynnwys nifer o enghreifftiau o arfer da i'r cyngor eu nodi. Amlygodd swyddogion fod Castell-nedd Port Talbot wedi’i nodi fel enghraifft
o arfer mewn tri o’r pum maes gwers allweddol, a phan gyflwynwyd canfyddiadau
archwiliad Castell-nedd Port Talbot ym mis Ionawr 2024, dim ond un argymhelliad
a amlygwyd mewn adroddiad cadarnhaol cyffredinol. Roedd yr aelodau'n falch o weld bod CNPT yn cael cydnabyddiaeth fel
enghraifft o arfer da a nodwyd y cynnydd a wnaed drwy strategaeth Ddigidol, Data a
Thechnoleg CNPT, yr adroddir arni yn flynyddol i'r Cabinet, gan fynd i'r afael
â'r argymhelliad a amlygwyd uchod. Yn dilyn hynny, gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas â
deallusrwydd artiffisial. Eglurodd swyddogion fod seminar ar gyfer yr holl aelodau wedi'i chynnal y
llynedd ar y Strategaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg a oedd yn cynnwys elfennau
ar ddeallusrwydd artiffisial. Mae swyddogion wrthi'n trefnu seminar ar gyfer yr holl aelodau gyda'r
Gwasanaethau Democrataidd ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng Nghyngor
CNPT a throsolwg o gyfrif newydd fyCNPT ar gyfer preswylwyr. Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am eu holl waith caled. |
|
Hunanasesiad 2023/2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau drosolwg o Hunanasesiad 2023/2024, fel a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniwyd bod y ddogfen yn hawdd ei defnyddio ac mae'r cynnwys wedi'i
ysgrifennu mewn ffordd sy'n sicrhau bod swyddogion yn cael eu dwyn i gyfrif am
yr wybodaeth y maent yn ei hychwanegu at yr adroddiad. Dywedodd swyddogion fod gallu o fewn y tîm bellach wedi'i gryfhau. Y nod yw
cyflwyno'r adroddiad blynyddol i'r pwyllgor erbyn mis Medi 2025. Amlygodd yr aelodau ei fod yn anodd darllen y ddogfen os ydych yn edrych
arni ar ffôn symudol, neu ar iPad. Gofynnodd yr aelodau, mewn perthynas ag arweinyddiaeth a rheolaeth, a yw
swyddogion yn cael arfarniadau rheolaidd gyda staff ac a ydyn nhw'n cael eu
cynnal. Dywedodd swyddogion fod gwaith i'w wneud i gryfhau'r broses arfarnu. Mae
swyddogion wedi gweld yr arolwg staff a gynhaliwyd y llynedd ac nid yw canran y
staff sy'n credu eu bod wedi cael arfarniad mor uchel â'r disgwyl. Soniodd
swyddogion y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio maes o law. Gofynnodd yr aelodau a oedd y strategaeth gaffael wedi'i chymeradwyo yn
2024. Dywedodd swyddogion ei bod wedi’i chymeradwyo yn ystod haf 2024. Mewn perthynas â'r 'crynodeb o berfformiad 23/24', meddai'r aelodau ei fod
yn nodi bod ganddo 63 nod ar y cyfan, mae 42 ar y trywydd iawn ac mae 3 nad
ydynt ar y trywydd iawn, felly beth sydd wedi digwydd i'r nodau eraill. Soniodd
yr aelodau hefyd ei bod yn dweud bod mwy o waith i'w wneud, a yw hynny'n golygu
nad yw pethau ar y trywydd iawn? Soniodd yr aelodau am fanylion yr elfennau ac ni chanfuwyd bod y naratif yn
gymhellol i gefnogi'r newid. Gofynnodd yr aelodau i'r Swyddogion egluro hyn. Gofynnodd yr aelodau mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu Gwella, a fydd
adroddiadau dros dro am gynnydd yn erbyn y camau gweithredu unigol, gan y
byddai'n ddefnyddiol gweld y cynnydd hwn. Dywedodd swyddogion, o ran y dangosfyrddau, mae angen iddynt wella ar y
darn o waith hwnnw a chynnal gweithdai unigol ar gyfer pob cyfarwyddiaeth. O ran y Cynllun Corfforaethol, mae swyddogion wedi symud o fersiwn
2022-2027 ac maent bellach yn gweithio ar fersiwn 2024-2027, gan barhau drwy'r
Cynllun Corfforaethol. Roedd nodau pum mlynedd i ddechrau, ac mae swyddogion yn
cyflawni'r nodau hynny drwy'r Cynllun Corfforaethol i gyflawni'r amcanion lles.
Mae'r blaenoriaethau strategol yn ategu'r nodau. Esboniodd swyddogion eu bod am
sicrhau bod ganddynt ddulliau ar waith mewn pryd ar gyfer 2027. Mewn perthynas â'r 63 o nodau, esboniodd swyddogion eu bod yn edrych ar hyn
dros gyfnod o flwyddyn, a bod llawer o'r blaenoriaethau i'w cwblhau dros 3-4
blynedd. Soniodd swyddogion fod angen iddynt fod yn gliriach o ran yr hyn sydd
ar y trywydd iawn, yr hyn sydd i'w wneud a'r hyn nad yw ar y trywydd iawn. Mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu Gwella, cyfeiriodd yr aelodau at y disgrifiad o'r camau gweithredu, a oedd yn datgan bod angen datblygu Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2021/2022, a chwblhau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Private Report of the Head of Legal Services. |
|
Report of the Head of Legal Services. |
|
- Committee Resolved into Open Session - |