Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naidine Jones E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Soniodd y Cadeirydd fod swydd wag fel Aelod Lleyg
ar gael ac y cynhelir cyfweliadau am y swydd ar 6 Rhagfyr 2024. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2024 fel cofnod gwir a chywir. Roedd camgymeriad yn y cofnodion, a chyfeiriwyd at
Joanna Jenkins a Mark Owen fel cynghorwyr yn lle aelodau lleyg. |
|
Cofnodion: Penderfyniad: Bod Blaenraglen Waith 2024/2025 yn cael ei nodi. |
|
Cau Cyfrifon 2023/2024 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Diolchodd swyddogion i Archwilio Cymru a swyddogion
o Gyngor Castell-nedd Port Talbot am yr holl waith maent wedi'i wneud wrth
baratoi'r cyfrifon. |
|
Archwilio Cymru - Cau Cyfrifon 2023/2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd swyddogion Archwilio Cymru drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Soniodd swyddogion eu bod yn bwriadu cyhoeddi barn
archwilio amodol, unwaith y byddant wedi derbyn y llythyr cynrychiolaeth wedi'i
lofnodi. Yn ystod yr archwiliad, nodwyd dwy risg arall yr
oedd yn ofynnol i Archwilio Cymru roi gwybod i'r pwyllgor amdanynt. Roedd y
risg gyntaf yn ymwneud â thaliadau mewnol a wnaed drwy gydol y flwyddyn.
Ymgymerodd y tîm Cyllid â gwaith a nodwyd y cyfrifon yn gywir. Mae Archwilio
Cymru wedi cyflwyno argymhelliad y dylai'r Cyngor adolygu'r polisïau a'r
gweithdrefnau perthnasol i sicrhau bod staff yn dilyn y dull cywir yn y
dyfodol. Roedd yr ail risg a nodwyd yn risg yn ymwneud â
dosbarthu asedau dros ben. Canfu'r profion cychwynnol fod ased wedi'i ddyblygu,
dan asedau dros ben a dan dir ac adeiladau eraill. Roedd camgymeriadau eraill a
nodwyd yn yr adroddiad, ac argymhellwyd y dylai'r Cyngor adolygu'r balans sy'n
weddill yn ystod 2024/2025. Roedd dau gamgymeriad heb eu diwygio ac roedd y
rheolwyr wedi cytuno i ddiwygio'r rhain yn 2024/25. |
|
Archwilio Cymru - Rhaglen ac Amserlen - Diweddariad 2il Chwarter, Ebrill - Medi 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Eglurodd y swyddogion mai dyma'r amserlen ar gyfer
gwaith Archwilio Cymru. Mae'r ail chwarter wedi'i ddisodli gan ddiweddariad i'r
chwarter cyntaf, a gyflwynwyd gerbron y cyfarfod ym mis Hydref 2024. Gohiriwyd
hyn. Gofynnodd yr aelodau am ystyr yr acronym AOLE.
Esboniodd swyddogion ei fod yn golygu meysydd dysgu a phrofiad. |
|
Trefniadau Rheoli Risgiau Corfforaethol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Eglurodd swyddogion fod gwelliannau sylweddol wedi
eu gwneud i'r Gofrestr Risg Strategol, sydd wedi ei gwneud yn fwy derbyniol.
Mae awydd risg wedi'i ychwanegu at hyn hefyd, sef gwaith ar y gweill. Esboniodd y swyddogion eu bod wedi gwella ar y sgôr
risg gynhenid a'r sgôr risg weddilliol. P'un a oedd yn risg uchel, ganolig neu
isel (coch, oren neu wyrdd). Gofynnodd yr aelodau mewn perthynas ag SR21 – llety
mewn gwestai. Cyfeiriwyd at y posibilrwydd y bydd her gyfreithiol a gofynnodd
yr aelodau beth oedd ffynhonnell yr her gyfreithiol. Eglurodd y swyddogion, o safbwynt cynllunio, fod y
rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu cydbwyso o ran llety mewn gwestai, yn erbyn
yr angen llethol ar hyn o bryd i ddarparu'r llety dros dro, oherwydd y
cyfrifoldebau ychwanegol a osodwyd ar awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru. Pe
bai her lle roedd llety dros dro yn cael ei ddefnyddio ac na chydymffurfiwyd
â'r elfennau cynllunio priodol, lle defnyddir hawliau datblygu a ganiateir,
byddai rhai cyfleoedd i egluro a thrafod hynny.
O ran 'a fu unrhyw newid i'r sgôr risg ers yr
adroddiad diwethaf', gofynnodd yr aelodau pam mae'r blwch wedi'i dicio. Mewn perthynas ag Atodiad 3, esboniodd y swyddogion
ei fod yn dangos ar ffurf graffig a yw'r risg weddilliol wedi lleihau neu wedi
aros yr un peth, ac mae'r blwch yn nodi a yw wedi newid ers yr adroddiad
diwethaf. Mae’r swyddogion yn derbyn na allant weld a yw wedi cynyddu neu wedi
gostwng, felly dywedodd swyddogion y gallant gryfhau'r ochr weledol i'r
Pwyllgor yn y dyfodol. Mewn perthynas â'r risg sydd wedi'i thargedu,
gofynnodd yr aelodau pryd y bydd yn cael ei llenwi. Esboniodd y swyddogion pan edrychir ar y
sgorau risg gweddilliol a'r sgorau risg cynhenid, a yw'r sgôr risg yn ddigon
isel neu a ddylai fod hyd yn oed yn is. Byddai’r swyddogion yn cael eu herio i
weld beth arall y gellid ei wneud i leihau'r risg. Dywedodd y swyddogion y bydd yr adroddiad hwn yn
cael ei gyflwyno eto ymhen chwe mis. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Argymhelliad un - soniodd y swyddogion fod yr
adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 12
Gorffennaf 2024.O ran atodiad y ffurflen
ymateb rheolwyr a gyflwynwyd i Archwilio Cymru ynghyd â sylwadau, mae'r gwaith
wedi bod yn mynd rhagddo ers i adroddiad Archwilio Cymru ddod i law i ystyried
ymgorffori safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau ar draws y Cynllun Corfforaethol
a'r gwaith monitro perfformiad drwy gydol y flwyddyn. Argymhelliad dau - esboniodd y swyddogion eu bod yn
gwneud cynnydd da, maent wedi cyflwyno'r grŵp perfformiad cynllunio
strategol, lle mae uwch-swyddogion yn cyfrannu at y grŵp hwnnw, a bod y
ddau’n llywio cyfarfodydd timau uwch-reolwyr ac yn cyfathrebu â rheolwyr a
swyddogion perfformiad atebol. Argymhelliad tri - mewn perthynas â chywirdeb data,
mae’n rhan o’r cynllun archwilio mewnol wrth symud ymlaen ac mae'r data sy'n
cael ei ddefnyddio'n gywir. Gofynnodd yr aelodau a oedd dyddiad cwblhau ar
gyfer y tri argymhelliad. Esboniodd y swyddogion fod y gwaith ar y gweill a'r
gobaith yw y caiff y Fframwaith Rheoli Perfformiad Corfforaethol ei gymeradwyo
yn y flwyddyn newydd. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae swyddogion yn bwriadu
sicrhau safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau sy'n fwy cadarn. |
|
Cofrestr o Adroddiadau ac Argymhellion Rheolyddion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Ers i'r adroddiad hwn gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
yn flaenorol, roedd pedwar adroddiad cenedlaethol wedi eu llunio gan Archwilio
Cymru. Soniodd y swyddogion y cyflwynir adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol
Castell-nedd Port Talbot yn ogystal â'r adroddiad Digidol o Fwriad i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar 21 Chwefror 2025. |
|
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023/2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Mewn perthynas â gwybodaeth Atodiad G am Gynghorau
Tref a Chymuned, gofynnodd yr aelodau pam nad oedd Castell-nedd wedi'i nodi. Soniodd y swyddogion na chyfeiriwyd unrhyw gwynion
mewn perthynas ag aelodau o Gyngor Castell-nedd i swyddfa'r ombwdsmon. Mae 16 o
Gynghorau Tref a Chymuned yn ardal Castell-nedd Port Talbot. |
|
Adroddiad Diweddaru Archwilio Mewnol 2024/25 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Gofynnodd yr aelodau am ymateb mwy cyflawn yn y dyfodol o ran y llythyrau. Gwnaeth y swyddogion ddiolch i'r aelodau am yr adborth a rhoi sicrwydd i'r
aelodau y bydd rhagor o wybodaeth a manylion yn y templed i ddarparu cyd-destun
i'r pwyllgor, a fydd yn cynnwys dyddiad gwreiddiol yr adroddiad archwilio, sgôr
sicrwydd, nifer yr argymhellion a godwyd a dyddiadau'r adolygiad ar ôl
archwilio. Soniodd y swyddogion fod aelodau o'r tîm wedi bod ar absenoldeb salwch ac y
byddant yn sicrhau y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau archwilio ym
mhecyn y pwyllgor. Mae'r tîm wedi cyflawni cynlluniau ar lefel gref hyd yn hyn. Gofynnodd yr aelodau am hyfforddiant gorfodol gwasanaethau peirianneg. Mae
wedi cynyddu o 33% i 73.4%, ond mae llawer o staff heb gael yr hyfforddiant
gorfodol eto. Eglurodd y swyddogion fod gan y cynllun archwilio ddull gwirio
dirybudd fesul cyfarwyddiaeth, i edrych ar y maes hwn i asesu'r gyfradd gwblhau
ar gyfer timau penodol. Maent yn cael eu hadolygu a'u rheoli gan uwch-dimau
rheoli perthnasol ar gyfer cynnydd ac i gyflawni'r gyfradd gwblhau. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol
a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes
canlynol a oedd yn cynnwys y tebygolrwydd
o ddatgelu wybodaeth eithriedig, fel y'i diffinnir ym
mharagraffau 12, 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen
12A y Ddeddf uchod. |
|
Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Ymchwiliadau Arbennig Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. |