Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naidine Jones E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2025 fel cofnod gwir a chywir. Ar dudalen 6, o dan y pennawd Blaenraglen Waith,
tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith y dylai ddarllen ‘programmed in’ yn hytrach
na ‘programme in’. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Flaenraglen Waith. Gofynnodd yr aelodau a fyddai adroddiadau am ganfyddiadau, canlyniadau a
gwaith gan ddarparwyr sicrwydd ail reng eraill yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Esboniodd y swyddogion fod y cylch ar gyfer 2025/2026 yn
cael ei ystyried ar hyn o bryd ac y bydd y sicrwydd ail reng yn cael ei
ychwanegu ar ôl iddo gael ei gadarnhau. Crybwyllodd y swyddogion hefyd fod
grŵp ymarfer ansawdd a strategol a oedd yn ymdrin â sicrwydd ail reng ac y
byddai hynny'n thema bosib. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Amlygodd Archwilio Cymru nad oes gan y cyngor weledigaeth a chynllun ar hyn
o bryd ar gyfer rheoli ei asedau na threfniadau
monitro amserol a chynhwysfawr. Daethpwyd i'r casgliad hwn gan nad oedd y
cyngor, ar adeg y gwaith, wedi nodi gweledigaeth ac uchelgais newydd ar gyfer
defnyddio ei asedau'n strategol. Dylai'r cynllun gweithredu o ran darparu
asedau gyfuno graddau cyflwr gwael ei asedau a’r costau sy’n gysylltiedig â’u
cynnal, a chyflwyno risgiau sylweddol. Amlygodd Archwilio Cymru ei fod wedi cyflwyno tri argymhelliad i'r cyngor i fynd i'r afael â rhai o'r gwendidau hyn a oedd
wedi cael eu nodi.
Roedd yr ail argymhelliad yn trafod sut
byddai’r broses o reoli asedau'n strategol yn cael ei chynllunio a'i chyflawni,
ac ar ôl i’r cyngor gytuno ar ei strategaeth gorfforaethol ar gyfer rheoli
asedau, dylai ddatblygu'r trefniadau ategol i sicrhau bod ganddo oruchwyliaeth
gorfforaethol ac ymagwedd gyson at gyflawni ei amcan o ran asedau ym mhob rhan
o'r sefydliad.
Mae angen i'r cyngor ddatblygu a rhannu
adroddiadau monitro cynnydd rheolaidd, datblygu set ehangach o fesurau sy'n
gysylltiedig ag asedau, a chwilio am gyfleoedd i feincnodi ei hun yn erbyn
sefydliadau eraill. O ran yr argymhelliad cyntaf, crybwyllodd
swyddogion y cyngor fod y cynllun rheoli asedau diwygiedig wedi'i gwblhau ym
mis Ebrill 2024, ar ôl oedi am sawl rheswm, gan gynnwys Covid, lle cafodd staff
eu dargyfeirio o'r gwaith strategol i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau eraill. Bu ambell broblem recriwtio yn y maes gwasanaeth dros y
blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran recriwtio yn unol â'r bandiau cyflog
presennol, a'r capasiti o ran syrfewyr oedd 66%. Cafodd y gwaith ar y
strategaeth ei gwblhau ym mis Ebrill 2024 ac fe'i pennwyd ar gyfer y pum
mlynedd nesaf. O ran yr ail argymhelliad, crybwyllodd y swyddogion fod y Bwrdd Datblygu Sefydliadol ar waith ar hyn o bryd a’i fod yn ystyried ymagwedd gyfannol at y ffordd y mae'r awdurdod yn rheoli ei holl asedau, sy'n cynnwys eiddo, technoleg gwybodaeth ac adnoddau dynol. Crybwyllodd y swyddogion fod y grŵp yn cwrdd bob chwarter ac yn ymdrin â'r problemau eiddo gweithredol. Yn ogystal, crybwyllodd y swyddogion y caiff grŵp ei sefydlu mewn perthynas â rheoli asedau'n strategol. O ran yr eiddo ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Amlygodd y swyddogion fod rheolwyr y cyngor
wedi ymateb i argymhellion. Esboniodd y swyddogion fod tir llwyd yn dir a
ddatblygwyd yn flaenorol. Roedd cynghorau Cymru'n cefnogi'r gwaith o addasu ac
adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd at ddibenion tai ac asedau eraill. Nodwyd pum argymhelliad yn yr adroddiad; roedd
tri ohonynt ar gyfer cynghorau lleol a dau ohonynt ar gyfer Llywodraeth Cymru. Holodd yr aelodau am yr ail argymhelliad ac
ymateb y cyngor oedd bod y sefydliad ymgynghori The Urbanists wedi cael ei
gyflogi i ddarparu cynlluniau ar gyfer canol trefi allweddol, a fydd yn
llywio'r strategaeth adfywio drwy fapiau o ffyrdd. Gofynnodd yr aelodau am
amserlen. Nododd y swyddogion fod y tri phrif gynllun ar
gyfer canol trefi wedi'u cwblhau. Bu rhywfaint o oedi er mwyn ymgynghori â'r
aelodau a rhanddeiliaid yn yr ardal i sicrhau y byddai The Urbanists yn
darparu’r gwaith a oedd yn ofynnol, yn unol â dymuniadau lleol.
PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Archwilio Cymru - 'Craciau yn y Sylfeini' - Diogelwch Adeiladau yng Nghymru Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd gan Archwilio Cymru. Crybwyllodd y
swyddogion fod yr adroddiad yn astudiaeth genedlaethol o lywodraeth leol, heb
fod yn benodol i Gastell-nedd Port Talbot, ond roedd yr argymhellion yn
berthnasol i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod pob un o'r 22 o
gynghorau wedi'u hystyried, yn ogystal â’r casgliadau a wnaed. Nid oedd y cyrff
cyfrifol wedi datblygu cynlluniau cynhwysfawr eto sy'n nodi sut ymdrinnir â'r
cyfrifoldebau newydd a diwygiedig a gyflwynwyd gan y Ddeddf Diogelwch
Adeiladau. Oherwydd problemau o ran adnoddau, mae'n annhebygol y
gall awdurdodau lleol roi'r drefn diogelwch adeiladau newydd ar waith yn
llwyddiannus neu fod gwasanaethau'n addas at y diben. Nid oedd fawr o waith
gwerthuso gwasanaethau rheoli adeiladau ledled Cymru ac nid oedd unrhyw system
gynhwysfawr genedlaethol o sicrhau diogelwch adeiladau. Crybwyllodd yr aelodau fod wyth argymhelliad wedi'u
cyhoeddi yn yr adroddiad a bod pedwar ohonynt ar gyfer Llywodraeth Cymru a
phedwar ohonynt ar gyfer awdurdodau lleol. Crybwyllodd y swyddogion fod yr argymhelliad cyntaf yn
ymwneud â datblygu cynllun gweithredu, ac er nad oedd cynllun gweithredu
pwrpasol ar waith, roedd llawer o waith yn cael ei wneud, ochr yn ochr â'r
systemau a oedd ar waith, ac y gellid ei gynnwys mewn cynllun gweithredu i bob
pwrpas. Roedd y swyddogion wedi adolygu'r strwythur Rheoli
Adeiladau sydd ar waith ac roeddent yn fodlon bod y strwythur yn addas at y
diben, er y nodwyd bod heriau sylweddol o ran recriwtio. Amlygodd y swyddogion yr ail argymhelliad sy'n gysylltiedig
â'r ffaith bod angen i awdurdodau lleol adolygu eu rheolaeth ariannol i sicrhau
bod y swyddogaeth rheoli adeiladau'n cydymffurfio â'r rheoliadau. Crybwyllodd y
swyddogion eu bod yn adolygu strwythurau ffïoedd yn rheolaidd, gan ystyried
cyfraddau swyddogion fesul awr, a bod y cyngor eisoes yn cyhoeddi ei
ddatganiadau ariannol bob blwyddyn. Roedd y trydydd argymhelliad yn ymwneud â'r ffaith bod
angen i awdurdodau lleol archwilio'r angen i gydweithredu o bosib ac i
weithredu ar sail ranbarthol er mwyn cryfhau'r cadernid hwnnw yng nghyd-destun
yr heriau cyffredinol i'r proffesiwn. Crybwyllodd y swyddogion fod gan Gyngor Sir Caerfyrddin
dîm ar waith sy'n darparu'r gwasanaeth cynllunio ar gyfer mwynau a gwastraff
dan gytundebau lefel gwasanaeth ag awdurdodau, a bod hynny'n swyddogaeth
arbenigol ym maes cynllunio. Efallai y bydd angen i awdurdodau lleol ystyried
model rhanbarthol posib tebyg yn y dyfodol. Esboniodd y swyddogion hefyd ein bod yn gweithio gyda'r
corff Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol i ddatblygu model ar gyfer gweithio
cydweithredol ar draws ffiniau. Mae'r pedwerydd argymhelliad yn ymwneud â'r angen i
awdurdodau lleol barhau i adolygu eu prosesau rheoli risgiau ac ystyried yn
benodol sut i liniaru'r risgiau hynny. Crybwyllodd y
swyddogion fod y risgiau eisoes yn
cael eu nodi yng nghofrestr risgiau'r gyfarwyddiaeth. Os oes angen uwchgyfeirio
ymhellach, mae gan y cyngor gofrestr risgiau strategol ehangach, y gellid
ychwanegu ati yn y dyfodol. Gofynnodd y Cadeirydd am y sefyllfa cyfraddau fesul awr o safbwynt rheolaeth ariannol. Nododd y swyddogion na fu'n bosib codi'r gyfradd fesul awr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru - Y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Crybwyllodd y swyddogion eu bod yn adolygu rhestr wirio hunanarfarnu Menter Twyll
Genedlaethol Archwilio Cymru a byddai'r canlyniad yn cael eu cyflwyno i'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Canmoliaethau a Chwynion 2023-2024 Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Nododd y swyddogion y
bu gwall ar dudalen 271 lle
rhestrir y dadansoddiad rhwng cyfarwyddiaethau ar y cwynion a gadarnhawyd ac a
gadarnhawyd yn rhannol yn hytrach na'r cyfanswm. Dywedodd y swyddogion y
byddent yn dosbarthu'r tablau diwygiedig sy'n dangos y dadansoddiad cywir ar
draws y cyfarwyddiaethau i'r aelodau. Roedd yr aelodau'n falch o weld bod y cyngor wedi cael
llawer o ganmoliaeth. Mewn perthynas â thudalen 269, nodwyd bod dau awdurdod yn unig yn cael llai o adroddiadau na Chastell-nedd Port
Talbot ledled Cymru. Gofynnodd yr aelodau a oedd hynny mewn perthynas â
chwynion.
Gofynnodd yr aelod am y gwahaniaeth rhwng cadarnhau
cwyn a chadarnhau cwyn yn rhannol. Esboniodd y swyddogion
fod cadarnhau'n rhannol yn golygu bod y swyddogion wedi cymryd cyfrifoldeb am
ran o'r gŵyn a ddaeth i law, ond heb dderbyn yn llawn yr holl gŵyn. Amlygodd yr aelodau yr
hoffent i'r swyddogion gyfeirio'r
penawdau o ran perfformiad, canmoliaeth a chwynion, er mwyn cyfeirio'r aelodau
i ystyried y materion hyn yn fwy manwl. PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad.
|
|
Y berthynas rhwng y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Tynnodd
yr aelodau sylw at y paragraff ar dudalen 279, sef Hyfforddiant a Datblygiad a
Rennir, ynghylch trefnu sesiynau hyfforddi ar y cyd fel y gall aelodau'r ddau
bwyllgor wella eu dealltwriaeth o'u rolau a'u rhyngddibyniaethau. Crybwyllodd
yr aelodau fod hyfforddiant ar gael i'r Panel Apeliadau a'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Crybwyllodd
y swyddogion y byddai hyfforddiant yn cael ei ystyried a'i drefnu i alluogi
aelodau'r pwyllgor i gymryd rhan ynddo. PENDERFYNWYD: Bod
aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cymeradwyo'r cynigion yn yr
adroddiad hwn o gam 1 i gam 4. |
|
Diweddariad ar Safonau Archwilio Mewnol Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Yr Adroddiad Diweddaraf am Archwilio Mewnol 2024/25 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Gofynnodd yr
aelodau a oedd y swyddogion yn hyderus y byddai'r holl waith yn cael ei gwblhau
ac y byddai’n cyflwyno gwybodaeth ystyrlon i roi barn flynyddol am sicrwydd. Cadarnhaodd y swyddogion fod y Cynllun Archwilio Mewnol
yn seiliedig ar risgiau ac yn ystwyth a bod newidiadau'n digwydd yn ystod y
flwyddyn, fel yr adroddwyd i'r pwyllgor hyd yn hyn. Esboniodd y swyddogion mai
targed y gwasanaeth oedd cyflawni oddeutu 85% o'r cynllun diwygiedig erbyn
diwedd y flwyddyn. Nododd y Rheolwr Archwilio y dylai'r gwaith a gyflawnwyd yn
ystod 2024/25 gefnogi a hwyluso barn flynyddol y Rheolwr Archwilio ar gyfer
2024/25. PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol
a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran
100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y cyhoedd o'r
eitemau busnes canlynol, a oedd yn debygol o ddatgan gwybodaeth eithriedig, fel
y'i diffinnir ym mharagraffau 12, 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Yr Adroddiad Diweddaraf am Archwilio Mewnol 2024/25 - Atodiad 4 (Yn eithriedig dan baragraff 14) Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Yr Adroddiad Diweddaraf am Ymchwiliadau Arbennig (Yn eithriedig dan baragraff 14) Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Nodi'r adroddiad. |
|
Private Report of the Head of Legal Services. |
|
Report of the Head of Legal Services. |
|
- Committee Resolved into Open Session - |