Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023/24 Cofnodion: PENDERFYNWYD: · Bod yr Aelod Lleyg, Joanna Jenkins, yn cael ei phenodi'n Gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023/24 · Bod yr Aelod Lleyg, Helen Griffiths, yn cael ei benodi'n Ddirprwy Gadeirydd
y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023/24 |
|||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y Datganiadau o Fuddiannau canlynol yn
ystod y drafodaeth am yr eitem agenda berthnasol:
|
|||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 253 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2023 fel cofnod cywir. |
|||||
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|||||
Cofrestr Swyddfa Archwilio Cymru o Adroddiadau ac Argymhellion Rheolyddion PDF 464 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd fersiwn wedi'i diweddaru i'r aelodau o
Gofrestr Adroddiadau ac Argymhellion y Rheoleiddwyr. Amlygwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn manylu
ar drosolwg o'r Adroddiadau Rheoleiddwyr a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; a lle, os o gwbl, y cymerwyd camau
gweithredu ar argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiadau hynny. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2022-2023 PDF 392 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft
y cyngor ar gyfer 2022-2023 i'r Pwyllgor. Eglurwyd y tynnwyd sylw'r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio at yr adroddiad er mwyn i'r Pwyllgor adolygu'r wybodaeth, ac i
sicrhau bod gan y cyngor weithdrefnau llywodraethu cadarn ar waith. Holodd yr Aelodau pam fod y Cynllun Gweithredu
Gwella Llywodraethu ar gyfer 2023/24 wedi'i lofnodi gan y Prif Weithredwr ac
Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ond heb ei ddyddio. Cadarnhaodd
swyddogion fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn fersiwn ddrafft i'w hadolygu; a
bydd yn cael ei dyddio ar ôl iddo gael ei chymeradwyo gan y Cabinet. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
|
|||||
Polisi Rheoli Risgiau Corfforedig PDF 377 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd swyddogion y Polisi Rheoli Risgiau
Corfforedig i'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer 2022/23 PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer
2022/23 i'r Aelodau. Amlygwyd bod y Datganiad Cyfrifon Drafft wedi'i
ddarparu i Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn iddynt ddechrau ar eu gwaith
archwilio; bydd y cyfrifon yn cael eu cyflwyno eto i'r Pwyllgor unwaith y bydd
y gwaith hwn wedi'i gwblhau. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Strategaeth Gwrth-dwyll a Gwrth-lygredd Ddiwygiedig PDF 571 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd fersiwn ddiwygiedig y Strategaeth
Gwrth-Dwyll a Llygredd gerbron y Pwyllgor, er mwyn i'r Aelodau gynorthwyo i
gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â gwasanaethau archwilio. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Adroddiad Diweddaru Archwilio Mewnol PDF 783 KB Cofnodion: Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn rhoi manylion
am y gwaith archwilio mewnol a wnaed ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar 17 Mawrth 2023. Cadarnhawyd mai dim ond un adroddiad a gyhoeddwyd
gyda sicrwydd cyfyngedig allan o'r holl adroddiadau a gyhoeddwyd, a manylwyd
arno yn yr adroddiad a ddosbarthwyd fel 'Adeiladau'r Cyngor'. Soniodd
swyddogion fod y rhan fwyaf o'r gwiriadau adeiladu angenrheidiol yn cael eu
cynnal a bod sicrwydd cyfyngedig wedi'i roi yn seiliedig ar weinyddiaeth. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol 2022/23 PDF 562 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Archwilio
Mewnol 2022/23. Nodwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn rhoi
sicrwydd o ran y gwaith archwilio a wnaed a'r trefniadau llywodraethu.
Cadarnhaodd swyddogion fod y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi rhoi sgôr sicrwydd
rhesymol eleni; ni all sicrwydd byth fod yn absoliwt, a'r sgôr hon yw'r uchaf y
gellid ei darparu. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23 PDF 784 KB Cofnodion: Cyflwynwyd fersiwn ddrafft Adroddiad Blynyddol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23 i'r Aelodau; lluniwyd yr adroddiad a
ddosbarthwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor. PENDERFYNWYD: Bod adroddiad blynyddol drafft y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio 2022-23 yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan
Aelodau, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn. |
|||||
Eitemau brys Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||||
Mynediad i gyfarfodydd Mae hynny'n unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac eithrio'r cyhoedd am yr eitemau canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio'n debygol fel y'i diffinnir
ym Mharagraff 12 a 15 o Ran
4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD:Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12, 13
ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|||||
Archwilio Mewnol - Ymchwiliadau Arbennig (yn eithriedig dan baragraff 14) Cofnodion: Rhoddodd Swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am bob
adroddiad ymchwiliad arbennig a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf; gan gynnwys
manylion yr holl ymchwiliadau arbennig cyfredol. PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |