Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Alison Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 238 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Hunan-asesiad drafft PDF 394 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd trosolwg a chrynodeb o'r hunanasesiad i
aelodau'r pwyllgor. Cyfeiriodd swyddogion at feysydd penodol o'r
asesiad gan ddarparu esboniad i aelodau o ran sut casglwyd yr wybodaeth o
amrywiaeth o ffynonellau. Hysbyswyd yr aelodau fod yr asesiad wedi'i ddylunio
ar lefel Gorfforaethol gyda thri chwestiwn canolog yn cael eu hystyried. Lluniwyd tystiolaeth o'r defnydd o dystiolaeth
fewnol, adroddiadau rheoleiddio ac adborth cyfansoddiadol o fewn blwyddyn
ariannol 21/22. Mae gwybodaeth o fewn yr asesiad hefyd yn
berthnasol i Adroddiad Blynyddol Cynllun Corfforaethol yr awdurdod ar gyfer
2021/22. Hysbyswyd yr aelodau hefyd am yr wyth gweithgaredd craidd a aseswyd yn
erbyn pecyn cymorth CLlLC, y datblygwyd pob un ohonynt gan Benaethiaid
Gwasanaeth. Amlinellodd swyddogion y camau gweithredu a
restrwyd, fodd bynnag, nodwyd i'r aelodau nad oedd y camau gweithredu wedi'u
creu'n ddiweddar a gellid dod o hyd iddynt gyda'r Cynllun Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 21/22 a Chynllun Corfforaethol presennol y cyngor. Roedd aelodau'n awyddus i dynnu sylw at nifer o
wallau teipograffyddol o fewn yr adroddiad ac argymhellwyd y canlynol. T.12 'Beth allwn ni ei wneud yn well a sut' i'w
adolygu a'i gadarnhau. T.21 Dylai Llywodraeth ddweud Llywodraethu T.42 Nodi 'o'r' rhwng ‘ystyriol' ac 'asesiad'. T.52 Nodi 'it' rhwng 'is'. T. 44, 48 yn y pecyn adroddiadau (tudalen 30 yr
asesiad) - caiff y dyddiad ei gadarnhau fel naill ai mis Mawrth 2024 neu fis
Mawrth 2023. T. 49 Gwall teipograffyddol, sef MaR Holodd yr aelodau a gynhaliwyd archwiliad diweddar
o’r Fframwaith Rheoli Risgiau. Dywedodd swyddogion na gynhaliwyd archwiliad
mewnol yn ddiweddar. Fodd bynnag, yn unol â'r polisi a'r fframwaith newydd
arfaethedig, gwnaed darpariaethau yn y cynllun archwilio ar gyfer y flwyddyn
nesaf i gynnal archwiliad o gydymffurfiaeth â'r polisi a'r weithdrefn newydd, a
chaiff y canlyniadau eu hadrodd mewn cyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol. Gofynnodd yr aelodau am gopi o'r Gofrestr Risgiau
ddiweddaraf a dywedwyd wrthynt fod yr adroddiad wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod
Bwrdd y Cabinet ar 22 Chwefror, ac ar ôl iddo gael ei brosesu byddai copïau'n
cael eu hanfon ymlaen. Darparodd yr aelodau adborth cadarnhaol ar yr
asesiad yn ei gyfanrwydd a diolchwyd i’r swyddogion. Penderfyniad: Cytunodd y pwyllgor i gefnogi'r asesiad a chaiff ei
gyflwyno i Fwrdd y Cabinet am benderfyniad yn ystod cyfarfod a drefnwyd ar
gyfer 22 Chwefror 2023.
|
|
Adolygiad Llywodraethu Allanol Annibynnol - Adroddiad Diweddaru PDF 819 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd i
aelodau'r Pwyllgor. Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am y cynllun
gweithredu fel a argymhellwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol. Roedd y swyddogion
yn gallu egluro bod yr holl gamau gweithredu y cytunwyd arnynt wedi'u rhoi ar
waith, a pha rai fyddai'n cael eu defnyddio mewn unrhyw sefyllfaoedd
llywodraethu yn y dyfodol. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mae hynny'n unol ag Adran
100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac eithrio'r cyhoedd am yr
eitemau canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i
heithrio'n debygol fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen
12A o'r Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD:Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn
cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 12, 13 ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Adroddiad Preifat gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol. |
|
Report of the Head of Legal Services. |
|
- Committee Resolved into Open Session - |
|
Atodiad 1 – Adroddiad diweddaru Adolygiad Llywodraethu Allanol Annibynnol Cofnodion: Dosbarthwyd Atodiad 1 fel eitem breifat er mwyn
ychwanegu at a chefnogi eitem rhif 5 ar yr agenda - Adolygiad Llywodraethu
Allanol Annibynnol - adroddiad diweddaru. Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o'r ddogfen. Penderfynwyd: Nodi atodiad 1, ar y cyd ag eitem rhif 5 ar yr
agenda er gwybodaeth.
|