Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Lynch i'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 28 Gorffennaf 2021. |
||
Adroddiadau ac Argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru/Estyn/Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r broses arfaethedig
a ddilynir i roi sicrwydd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod y cyngor
wrthi'n ystyried canfyddiadau'r adroddiadau a roddwyd i'r cyngor gan Archwilio
Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Esboniodd swyddogion fod y diagram sydd ynghlwm yn
Adendwm 3 yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r broses arfaethedig i roi
sicrwydd i'r Pwyllgor fod y cyngor wrthi'n ystyried canfyddiadau'r adroddiadau
a roddwyd i'r cyngor gan Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Aeth swyddogion ymlaen i esbonio y byddai'r
Gofrestr Adroddiadau ac Argymhellion Rheoleiddiwr, sef dogfen allweddol y
cyngor i ddangos sut mae'r cyngor yn mynd i'r afael â chynigion derbyniol ar
gyfer gwella/argymhellion y cytunwyd arnynt gan reoleiddwyr, yn cael ei
chyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bob chwarter (mae'r templed
wedi'i atodi yn Adendwm 4 yr adroddiad a ddosbarthwyd). Nodwyd y byddai'r gofrestr yn cael ei diweddaru
gyda'r wybodaeth angenrheidiol o fis Ebrill 2021 (hyd yma) a'i chyflwyno i
gyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 26 Tachwedd 2021. Nodwyd
y byddai swyddogion yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio i gyflwyno cofrestr wedi'i diweddaru.
Esboniodd swyddogion y byddai'r Gyfarwyddiaeth, yr
Uwch-dîm Rheoli a'r Swyddogion, ar ôl derbyn adroddiad gan reoleiddiwr, yn
ystyried yr adroddiad, ac os cytunir arno byddai adroddiad a chynllun
gweithredu yn cael eu llunio a'u cyflwyno yn Flaenraglen Waith Bwrdd y Cabinet. The
Director of Finance and
Corporate Services explained that the report from the relevant
inspectorate will be provided with the relevant papers from each meeting and
the responsibility for managing improvements and recommendations would be with
be with Cabinet and overviewed by the relevant Scrutiny Committee, and the
responsibility of the Governance and Audit Committee was to ensure that
progress and arrangements were in place for monitoring and managing responses
to the external audit inspections. It
was noted that good assurance was required and the Governance and Audit
Committee along with statutory Officers have the responsibility of ensuring
best practice and arrangements are in place for delivery of the services that
have been inspected. Cadarnhaodd Swyddogion nad oedd dyddiad targed i
roi hyn ar waith, a chadarnhaodd Archwilio Cymru y byddent yn
gweithio gyda'r Swyddogion a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i ddatblygu'r
broses ymhellach. PENDERFYNWYD: Nodi Adroddiadau ac
Argymhellion Archwilio Cymru/ Estyn/Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). |
||
Adroddiad Diweddaru Archwilio Mewnol PDF 458 KB Cofnodion:
Esboniodd
Swyddogion, mewn perthynas â gwiriadau staff mewn ysgolion y Gwasanaeth Datgelu
a Gwahardd (GDG), cyhoeddwyd adroddiad dros dro ym mis Mai 2021 ac fe'i
hadroddwyd i'r Aelodau ym mis Mehefin 2021, ond ar adeg cyhoeddi'r adroddiad
interim, ni fu'n bosib cadarnhau a oedd y gwiriad GDG priodol wedi'i roi yn
achos naw deg naw o weithwyr mewn ysgolion. Cadarnhaodd gwaith archwilio
pellach fod yr ardystiad GDG priodol bellach wedi'i roi i bob un o'r naw deg
naw aelod o staff, a chydymffurfiwyd â holl ofynion y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd. Aeth swyddogion ymlaen i esbonio, o ran staff
asiantaeth sy'n mynd i ysgolion Castell-nedd Port Talbot, fod yr asiantaeth yn
cynnal yr holl wiriadau angenrheidiol cyn i staff fynd i mewn i ysgolion. Byddai'r Rheolwr Archwilio a'r Pennaeth
Cyfranogiad yn cyfarfod i drafod sut i reoli'r archwiliadau ysgol y bydd angen
eu cynnal tra bod mynediad i ysgolion yn gyfyngedig oherwydd y pandemig. PENDERFYNWYD:
Nodi'r Adroddiad Diweddaru'r Archwiliad Mewnol. |
||
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau
posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4
Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Gwahardd y cyhoedd, yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn
debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
Mharagraffau 12, 13 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf uchod. |
||
Ymchwiliadau Arbennig Cofnodion: Derbyniodd
yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiadau preifat a gyhoeddwyd ers
cyfarfod diwethaf y pwyllgor ynghyd â manylion yr holl ymchwiliadau arbennig
cyfredol. PENDERFYNWYD: Dylid nodi'r adroddiad. |