Lleoliad: MULTI-LOCATION MEETING - COUNCIL CHAMBER, PORT TALBOT & MICROSOFT TEAMS
Cyswllt: Alison Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
PENODI CADEIRYDD A DIRPRWY GADEIRYDD AR GYFER BLWYDDYN DDINESIG 2024/25 Cofnodion: PENDERFYNWYD: · Penodi'r Aelod Lleyg, Joanna Jenkins, yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2024/25. · Penodi'r Aelod Lleyg, Mark Owens, yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2024/25. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 151 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2024 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd swyddogion Archwilio Cymru drosolwg o'r
adroddiad a gylchredwyd. Dywedodd Swyddogion Archwilio Cymru wrth y pwyllgor
fod yr archwiliad wedi'i gynnal mewn 22 o gynghorau yng Nghymru yn ogystal â
Chastell-nedd Port Talbot, a'u bod yn bwriadu cyhoeddi crynodeb cenedlaethol
o'r gwaith erbyn diwedd yr haf. Rhannwyd yr archwiliad drafft â Swyddogion y
Cyngor, a chyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Ionawr 2024. Soniodd Swyddogion Archwilio Cymru nad oedd yr
wybodaeth am berfformiad a ddarperir yn yr adroddiadau chwarterol yn cael ei
hadlewyrchu yn yr adroddiad a theimlant fod cyfle wedi'i golli yma i roi
gwybodaeth i uwch-arweinwyr a fyddai'n eu helpu i ddeall barn defnyddwyr
gwasanaeth. Argymhellodd Swyddogion y dylai'r Cyngor sicrhau bod yr wybodaeth a
ddarperir i uwch-arweinwyr yn eu galluogi i ddeall safbwynt defnyddwyr
gwasanaeth ar ystod ehangach o wasanaethau a pholisïau. Dylai'r Cyngor sicrhau
bod yr wybodaeth hon yn dod o amrywiaeth o ddefnyddwyr gwasanaeth. Amlygodd Swyddogion Archwilio Cymru fod yr
wybodaeth am berfformiad y mae'r Cyngor yn ei darparu i uwch-arweinwyr yn
canolbwyntio ar weithgareddau ac allbynnau, yn hytrach na gwerthuso eu
heffaith. Yn Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol (2021-2022), mae'r
Cyngor yn darparu rhai enghreifftiau o astudiaethau achos i ddangos y
canlyniadau a gyflawnir o dan bob un o'r tri amcan llesiant. Mae adroddiadau
perfformiad chwarterol y Cyngor yn disgrifio gweithgareddau ac allbynnau, yn
hytrach nag asesiad o gynnydd yn erbyn y canlyniadau y mae'r Cyngor yn ceisio
eu cyflawni. Argymhellodd Swyddogion y dylai'r Cyngor gryfhau'r wybodaeth y
mae'n ei darparu i uwch-arweinwyr i'w helpu i werthuso a yw'r Cyngor yn
cyflawni ei amcanion a'i ganlyniadau arfaethedig. Amlygodd Swyddogion Archwilio Cymru fod gan y
Cyngor drefniadau cyfyngedig i sicrhau bod yr wybodaeth y mae'n ei darparu i'r
uwch-arweinwyr ar safbwynt a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth yn gywir.
Argymhellodd Swyddogion fod angen i'r Cyngor sicrhau bod ganddo drefniadau
cadarn i wirio ansawdd a chywirdeb yr wybodaeth y mae'n ei darparu i
uwch-arweinwyr, sy'n ymwneud â safbwynt a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth. Esboniodd Swyddogion CNPT wrth y pwyllgor eu bod yn cydnabod bod gwaith
iddynt ei wneud a bod angen iddynt sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hadrodd i
uwch- arweinwyr. Dywedodd Swyddogion fod yr ymateb wedi’i gyflwyno tua diwedd y
llynedd. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod y papurau yn cynnwys ffurflen
ymateb ar gyfer y sefydliad, ac ymatebwyd i'r argymhellion. Ychwanegodd
Swyddogion hefyd y bydd y Cynllun Corfforaethol yn mynd gerbron y Cabinet
ddiwedd Gorffennaf i'w gymeradwyo ac er mwyn i'r Cyngor ei fabwysiadu. Dywedodd
Swyddogion hefyd fod y model newydd o graffu bellach wedi'i sefydlu. Gofynnodd yr aelodau, mewn perthynas ag ansawdd y data, a yw'r rheolwyr wedi ystyried effaith modelau a defnyddio taenlenni yn y broses adrodd. Soniodd Swyddogion fod ganddynt system berfformio gorfforaethol yn flaenorol nad oedd ganddynt bellach ond eu bod yn edrych ar system a fydd yn eu helpu yn y dyfodol. Bydd diweddariad yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf, ac mae Swyddog Gwasanaethau Digidol wedi'i benodi ac yn arwain ar y gwaith o ran data. Bydd gwahoddiad yn cael ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Crynodeb archwilio blynyddol archwiliad cymru 2023 PDF 383 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd swyddogion Archwilio Cymru drosolwg o'r
adroddiad a gylchredwyd. Rhoddodd Swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i’r
Pwyllgor sef bydd y crynodeb yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 6 Medi 2024. Soniodd Swyddogion y bydd diweddariad ar gyfer y
Fframwaith Rheoli Perfformiad Corfforaethol yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod
nesaf. Penderfynwyd bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Archwilio Cymru - Rhaglen ac Amserlen - Diweddariad Chwarter 4 PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd swyddogion Archwilio Cymru drosolwg o'r
adroddiad a gylchredwyd. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
ARCHWILIO CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO 2024 CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT PDF 392 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd swyddogion Archwilio Cymru drosolwg o'r
adroddiad a gylchredwyd. Eglurodd Swyddogion, mewn perthynas â pherfformiad,
fod ganddynt ddarn safonol o waith y maent yn ei wneud bob blwyddyn ym mhob
Cyngor a elwir yn 'Ein Sicrwydd mewn Gwaith Asesu Risg’. Bob blwyddyn, mae
Swyddogion yn cwrdd â Thîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor (ym mis
Ionawr/Chwefror), i drafod y sicrwydd o ran risgiau a darganfod pa feysydd y
gellir eu cefnogi. Mae Swyddogion yn ystyried barn y Cyngor ac yn rhoi'r holl
wybodaeth mewn Cynllun Archwilio. Eglurodd Swyddogion y bydd adolygiad ar
drefniadau Seiberddiogelwch ac mae cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer mis Medi
2024. Dywedodd Swyddogion wrth y Pwyllgor eu bod yn
cynnal adolygiad thematig (gwybodaeth am ddefnyddwyr y gwasanaeth) ar gyfer y
Rhaglen Archwiliad o Berfformiad. Maent yn ddau ddarn o waith sy'n mynd
rhagddo, un mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol a'r llall ar gomisiynu.
Rhoddodd y Swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gan nodi y bydd
archwiliad i bwysau gwaith y gweithlu llywodraeth leol yn cael ei ohirio i
raglen waith 2025/26 yn hytrach na rhaglen waith 24/25. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd iddynt gael
rhestr o'r archwiliadau a gynhaliwyd mewn perthynas â seiberddiogelwch. Bydd
Swyddogion yn rhoi'r wybodaeth i'r Pwyllgor. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Adroddiad Archwiliad Mewnol 2023/24 PDF 393 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Diweddarodd swyddogion yr aelodau y bydd yr
adroddiad hwn yn mynd gerbron y Cabinet ar 24 Gorffennaf 2024. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Archwilio Cymru - Crynodeb o'r Archwiliad Blynyddol PDF 296 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Cytunodd y swyddogion a'r aelodau y byddai
adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL BLYNYDDOL 2023/24 PDF 653 KB Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Ymddiheurodd y swyddogion mewn perthynas â fformat
yr adroddiad eglurhaol a bydd yn cael ei gywiro y tro nesaf y bydd yn cael ei
gyflwyno i'r pwyllgor. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cau Cyfrifon 2023/24 PDF 647 KB Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i’r
pwyllgor sef y bydd Pennaeth Archwilio Mewnol newydd yn cael ei benodi o fis
Medi 2024. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cofrestr o Adroddiadau ac Argymhellion Rheolyddion PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cofnodion: Mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol,
gofynnodd yr aelodau am wybodaeth am ddangosyddion perfformiad mewn perthynas â
defnyddwyr gwasanaeth. Soniodd Swyddogion y gallant fynd i gyfarfod
Pwyllgor Craffu y Gwasanaethau Cymdeithasol i gael yr wybodaeth hon, ond
byddant hefyd yn gwirio a all yr wybodaeth hon gael ei chyflwyno i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Gofynnodd yr aelodau a oes unrhyw waith yn cael ei
wneud mewn perthynas â chanlyniadau tlodi. Soniodd Swyddogion fod ganddynt weithgor atal
tlodi, awgrymodd Swyddogion fod aelodau'n edrych ar gofnodion/adroddiadau gan y
grŵp hwnnw. Bydd Swyddogion yn gofyn i gadeirydd y grŵp siarad ag
aelodau sydd â mwy o wybodaeth. Gofynnodd yr aelodau a allent gyflwyno'r wybodaeth
ddiweddaraf mewn perthynas â Chofrestrau Risg yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Dywedodd Swyddogion fod Grŵp Cyfarwyddwyr
Corfforaethol yn cynnal gweithdy ar ddiwedd mis Awst. Bydd Swyddogion yn
cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyfarfod nesaf gyda'r canlyniadau. Penderfynwyd: Bod Blaenraglen Waith 2024/2025 yn
cael ei nodi. |
|
Private Report of the Head of Legal Services. |
|
Report of the Head of Legal Services. |
|
- Committee Resolved into Open Session - |