Lleoliad: Via Microsoft Teams / Hybrid in Council Chamber
Cyswllt: Chloe Plowman
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion:
|
|||
Penodi Dirprwy Gadeirydd Cofnodion:
|
|||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y Datganiad o Fuddiannau canlynol yn
ystod y drafodaeth am yr eitem agenda berthnasol:
|
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad
cynnydd i'r Pwyllgor gan Archwilio Cymru ar drefniadau'r cyngor ar gyfer ymateb
i ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Eglurwyd bod y
gwaith wedi'i wneud yn gynharach eleni, ac roedd y canfyddiadau o'r darn hwnnw
o waith wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniwyd bod Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi dod â newid sylweddol o ran y
gofynion llywodraethu a pherfformiad. Hysbyswyd yr Aelodau fod y cyngor wedi
bod yn gwneud cynnydd da dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig o gofio bod y
cyngor yn dal i ymateb i'r pandemig. Tynnodd Swyddogion sylw
at y pwyntiau canlynol o ran cynnydd: -
Roedd yr holl wasanaethau wedi datblygu eu cynlluniau
adfer gwasanaethau eu hunain, gan nodi’u blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn
sydd i ddod; roedd dros 80 o gynlluniau adfer gwasanaethau ar waith. -
Gwnaed cynnydd wrth ddatblygu hunanasesiad corfforaethol
cyntaf y cyngor; roedd hyn yn ofyniad newydd o dan y Ddeddf. Ychwanegwyd y bydd
yr Aelodau'n cael gweld hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol, gan mai rôl y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio oedd adolygu hunanasesiad drafft y cyngor. -
Roedd cynnydd yn cael ei wneud wrth ddatblygu Strategaeth
Cyfranogiad y cyngor. Eglurodd Archwilio
Cymru eu bod wedi cyflawni'r gwaith esbonio hwn ar draws yr holl gynghorau yng
Nghymru, fel rhan o'u hasesiad sicrwydd a risg parhaus; roeddent yn falch o
glywed y diweddariadau gan Swyddogion, a byddent yn gwirio gyda chynghorau i
ddeall sut yr oeddent yn symud ymlaen gyda'r gwaith hwn dros y flwyddyn
nesaf. O ran y Strategaeth
Cyfranogiad, nododd Archwilio Cymru, o ystyried y diddordeb yr oedd cynghorau
eraill wedi’i ddangos wrth ddysgu o arfer da gan gynghorau eraill, y byddent yn
mynd â'r diddordeb hwn yn ôl i Archwilio Cymru i weld a fyddai modd hwyluso'r
dysgu hwn a sut byddai modd gwneud hynny.
|
|||
Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2022/2023 PDF 788 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Archwilio
Cymru eu Cynllun Archwilio a oedd yn cynnwys manylion y gwaith yr oeddent yn
bwriadu’i wneud yn ystod 2022/23; er mwyn cyflawni’u cyfrifoldebau statudol,
hysbysir y cyngor pryd y bydd y gwaith yn cael ei wneud, faint y bydd yn ei gostio
a phwy fydd yn ymgymryd â'r gwaith. Nodwyd y cyfrifoldebau
a'r datganiadau ariannol ym mharagraff wyth o'r cynllun a ddosbarthwyd.
Amlinellwyd y canlynol o Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Castell-nedd
Port Talbot: -
Roedd yn rhaid i Archwilio Cymru
roi barn ar wirionedd a thegwch datganiadau ariannol y cyngor; ac asesu a oedd
yr adroddiad naratif a'r datganiad llywodraethu blynyddol, a luniwyd yn unol â
chanllawiau, yn gyson â'r cyfrifon a gwybodaeth Archwilio Cymru am y cyngor. -
Wrth archwilio'r cyfrifon,
mabwysiadodd Archwilio Cymru gysyniad o fateroldeb wrth gyflawni’u gwaith;
edrychon nhw ar gamddatganiadau a allai arwain at gamarwain y sawl sy’n darllen y cyfrifon. -
Adroddodd Archwilio Cymru
lefel yr hyn a farnwyd ganddynt yn gamddatganiadau, sy'n berthnasol i'r cyngor,
yn eu datganiadau ariannol. Nodwyd bod hyn tua £5.5 miliwn. -
Roedd yr ymagwedd archwilio’n
seiliedig ar asesiad Archwilio Cymru o beryglon camddatganiadau perthnasol; yng
ngham cynllunio'r archwiliad, roeddent wedi nodi tair risg a grynhowyd yn
Arddangosyn Un yn y cynllun a ddosbarthwyd. Soniwyd bod yr elfen hon hefyd yn
nodi'r gwaith roedd Archwilio Cymru yn bwriadu’i wneud i fynd i'r afael â'r
risgiau hynny. Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r gwaith archwilio perfformiad a wnaed; gellid dod o hyd i fanylion
y gwaith hwn ar dudalen 21 o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Eglurwyd bod
archwiliad perfformiad yn seiliedig ar y pum ffordd o weithio, ynghyd â'r tair
E, Economi, Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd; Roedd hi'n ddyletswydd ar
Archwilio Cymru i seilio'u gwaith o gwmpas y meysydd allweddol hyn. Hysbyswyd y Pwyllgor
fod Archwilio Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd hyblyg ar draws eu harchwiliadau
perfformiad gyda chynghorau ledled Cymru yn ystod y pandemig; roeddent wedi
sicrhau eu bod yn ymgynghori â chynghorau, fel maent yn ei wneud bob blwyddyn,
yn ogystal â llywio’u gwaith yn y dyfodol. Nodwyd bod Archwilio
Cymru wedi cynnal gweithdai blynyddol gyda chynghorau er mwyn trafod syniadau
cychwynnol o ran y risgiau a nodwyd, a'r hyn yr oedd cynghorau’n gweithio arno
ar hyn o bryd o ran y risgiau hynny; yn dilyn hyn, lluniodd Archwilio Cymru
raglen o waith archwilio a oedd yn cwmpasu elfennau lleol, rhanbarthol a
chenedlaethol. Soniwyd bod y cynllun yn nodi'r tair lefel o waith ar gyfer
Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gyda phwyslais arbennig ar y gwaith
perfformiad lleol, y gellid dod o hyd i fanylion yn eu cylch yn Arddangosyn Dau
o'r cynllun a ddosbarthwyd. Tynnodd Archwilio
Cymru sylw at raglen archwilio perfformiad Castell-nedd Port Talbot ar gyfer
2022/2023. Yr elfen gyntaf a nodwyd yn y tabl oedd sicrwydd ac asesiad risg;
rhestrwyd y meysydd a nodwyd i'r cyngor ganolbwyntio arnynt fel sefyllfa
ariannol, rheoli rhaglenni cyfalaf, llywodraethu, y defnydd o wybodaeth am
berfformiad gan ganolbwyntio ar adborth a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, a
gosod amcanion lles. Cadarnhawyd bod Archwilio ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||
Archwilio Cymru - Rhaglen Waith ac Amserlen PDF 377 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd yr Aelodau
o’r gwaith a wnaed gan Archwilio Cymru hyd at 30 Mehefin 2022. Eglurwyd bod Archwilio
Cymru wedi bod yn rhannu eu rhaglen waith a diweddariadau i amserlenni gyda'r
cyngor bob chwarter; roedd y ddogfen yn grynodeb o'r gwaith a wnaed gan
reolyddion ac arolygiaethau allanol. Nodwyd bod diweddariadau'r rhaglen waith
a'r amserlen yn cynnwys dolenni gwefannau i'r adroddiadau perthnasol er mwyn
i'r Pwyllgor ganfod a darllen gwybodaeth ynghylch darnau o waith terfynol yn
hawdd. Tynnodd Archwilio
Cymru sylw at y ffaith bod y gwaith ar gyfer 2021/2022 bron â’i gwblhau, ac
roeddent yn bwrw ymlaen â'r rhaglen 2022/2023; roedd y ddogfen hefyd yn manylu
ar yr astudiaethau cenedlaethol a gynlluniwyd neu a oedd ar y gweill, yn
ogystal â'r rheini a gyhoeddwyd.
|
|||
Datganiad o Gyfrifon PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor o ran Datganiad o Gyfrifon y cyngor ar gyfer
2021/2022. Dywedodd Prif Swyddog
Cyllid y cyngor fod yr archwiliad wedi'i gwblhau'n sylweddol, fodd bynnag nid
oedd Archwilio Cymru'n gallu’i gymeradwyo ar hyn o bryd oherwydd mater
cenedlaethol parhaus mewn perthynas â chyfrif am asedau isadeiledd; ar y sail y
byddai'r mater yn cael ei ddatrys yn fuan, roedd Swyddogion yn gobeithio
cyflwyno'r fersiwn derfynol i'r Pwyllgor ym mis Tachwedd, ynghyd ag adroddiad
cysylltiedig y gofynnwyd amdano i gymeradwyo'r cyfrifon.
|
|||
Archwilio Mewnol - Adroddiad Blynyddol 2021/2022 PDF 551 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddogion
Farn Flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar y rheolaethau mewnol, trefniadau
llywodraethu a phrosesau rheoli risg sy'n gweithredu o fewn y cyngor yn ystod y
flwyddyn ariannol 2021/22. Nodwyd mai prif
bennawd yr adroddiad oedd y gwaith a wnaed gan yr archwiliad mewnol a'r
rheolyddion allanol; yn dilyn y gwaith hwn, roedd Swyddogion mewn sefyllfa i
roi sicrwydd rhesymol nad oedd gwendidau sylweddol yn yr amgylchedd rheoli
cyffredinol sy'n gweithredu ar draws y cyngor. Fodd bynnag, nodwyd na
chydymffurfiwyd yn llawn â'r polisi rheoli risg cyfredol yn ystod y flwyddyn
ariannol flaenorol. Sicrhawyd yr Aelodau fod risgiau'n cael eu rheoli yn y
ffordd arferol, a bod y problemau’n ymwneud ag adrodd am y risgiau a’u
diweddaru; roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddiwygio'r polisi, a
fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgorau priodol maes o law. Pwysleisiodd
Swyddogion, wrth roi'r farn flynyddol, na allant roi sicrwydd llwyr ar unrhyw
adeg; ni ellid profi pob system sy’n gweithredu yn yr awdurdod bob blwyddyn,
felly dim ond sicrwydd rhesymol y gallai Swyddogion ei roi i'r Pwyllgor ar sail
y gwaith a wnaed. Cyfeiriwyd at Atodiad Un
a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn rhoi manylion y
cyflawniad yn erbyn y cynllun archwilio mewnol; fel y nodwyd yng nghorff yr
adroddiad, collwyd nifer sylweddol o ddyddiau'r llynedd oherwydd salwch yn y
tîm. Nodwyd bod cynllun diwygiedig wedi’i gyflwyno i gyfarfod blaenorol o'r
Pwyllgor, a oedd yn dileu rhai o'r meysydd risg is, a oedd yn caniatáu i
Swyddogion ganolbwyntio ar y meysydd risg uwch.
Soniwyd bod Atodiad 2
o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn rhoi manylion cynllun sicrwydd ansawdd a gwella
parhaus y Tîm Archwilio Mewnol. Gofynnodd yr Aelodau
am ragor o wybodaeth ynghylch y ffaith na chydymffurfiwyd yn llawn â'r polisi
rheoli risgiau. Esboniodd y Swyddogion fod disgwyl i'r polisi gael ei adolygu
bob 3 blynedd, gyda'r dyddiad adolygu wedi'i bennu ar gyfer 2021; cafodd yr
adolygiad hwnnw ei ohirio ychydig, fodd bynnag roedd cynnydd da bellach yn cael
ei wneud ar yr adolygiad. Nodwyd bod oedi o ran adrodd am y risgiau a'r
sefyllfa ddiweddaraf wrth y Pwyllgor priodol; Nid oedd Swyddogion yn gallu cadw
at yr amlder adrodd am nifer o resymau gan gynnwys newid yn y weinyddiaeth ac
oedi cyn cynnal cyfarfodydd. Hysbyswyd yr Aelodau fod y cyngor wedi cryfhau'r
personél a oedd yn ymdrin â'r polisi rheoli risgiau, a dylai hynny olygu gwelliant
sylweddol yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at
ddatrysiad system RhCC (Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid) a oedd wedi'i drafod yn
flaenorol yn sesiwn hyfforddi'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Gofynnwyd a
oedd cynnydd wedi'i wneud wrth roi'r datrysiad digidol ar waith. Tynnodd
Swyddogion sylw at y ffaith bod gwaith wedi'i wneud i symud y gofrestr risgiau
strategol ar ddatrysiad sy'n seiliedig ar Microsoft Excel; roedd yn
barod i'w weithredu, yn dilyn trafodaethau yn y Grŵp Cyfarwyddwyr
Corfforaethol a chyfarfod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol. Yn dilyn yr uchod, holwyd a fyddai rhai elfennau o'r system RhCC yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9. |
|||
Archwilio Mewnol - Strategaeth a Chynllun sy'n Seiliedig ar Risg ar gyfer 2022/2023 PDF 784 KB Cofnodion: Cyflwynwyd manylion y
Strategaeth Archwilio Mewnol Ddrafft a Chynllun sy'n Seiliedig ar Risg ar gyfer
y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 a'r Siarter Fewnol bresennol, i'r
Pwyllgor. Tynnodd Swyddogion
sylw at y ffaith bod y Strategaeth Archwilio Mewnol Ddrafft, a gynhwyswyd yn
Atodiad Un o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn darparu manylion am y canlynol: ·
Diffiniad a diben archwilio
mewnol ·
Y strwythur staffio presennol ·
Y gofynion cyfreithiol ·
Sut y datblygwyd y cynllun ·
Manylion yr adnoddau sydd ar gael ·
Sut bydd y cynllun yn cael ei
gyflawni Trafodwyd y Cynllun
Archwilio Mewnol Drafft, a gynhwyswyd yn Atodiad Dau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Dywedwyd y gofynnir i'r Pwyllgor, fel arfer, i ystyried
cymeradwyo'r cynllun yn gynharach yn y flwyddyn ariannol; fodd bynnag, oherwydd
yr Etholiad Llywodraeth Leol ddiweddar a'r newidiadau yn yr awdurdod, hwn oedd
cyfarfod cyntaf y Pwyllgor. Nodwyd, er i'r cynllun gael ei gyflwyno i'r
Pwyllgor ar ffurf ddrafft a bod angen ei gymeradwyo, y bu'n rhaid i Swyddogion
ddechrau ar rai o'r eitemau sydd wedi’u cynnwys ynddo. Cyfeiriwyd at y golofn
graddio risgiau a geir yn y cynllun; pennir y raddfa risgiau gan fformiwla, gan gymryd y newidynnau canlynol i ystyriaeth:
·
Maint y gweithgaredd sy'n cael ei archwilio yn seiliedig ar incwm
blynyddol, gwariant neu faint y gyllideb, nifer y gweithwyr dan sylw, yr
effaith bosib ar yr awdurdod os bydd rhywbeth yn mynd o'i le o fewn y
gwasanaeth hwnnw, amlder trafodion, neu ryngweithiadau â defnyddwyr gwasanaeth. ·
Y rheolaethau sy’n gweithredu o fewn y gwasanaeth hwnnw, gan gynnwys
effaith rheolaeth a staff, sensitifrwydd trydydd parti (os oedd methiant o fewn
y gwasanaeth hwnnw, a fyddai'n effeithio ar fannau eraill o fewn yr awdurdod
neu'n allanol), safonau rheolaeth fewnol a'r tebygolrwydd y bydd rhywbeth yn
mynd o'i le ·
Canfod unrhyw broblemau gan gynnwys cyfyngiadau effeithiolrwydd yr
archwiliad, parhad y gwaith archwilio a'r tro diwethaf y cynhaliwyd archwiliad,
ac effeithiolrwydd unrhyw ddarparwyr sicrwydd eraill neu orchmynion blaenorol Nodwyd bod yr wybodaeth berthnasol wedi'i rhoi mewn
taenlen; byddai'r fformiwla wedyn yn pennu ffigur yn seiliedig ar yr wybodaeth
a dderbyniwyd. Nodwyd y ffigurau a'u graddfeydd risgiau fel a ganlyn: ·
Risg uchel - 50+ ·
Risg ganolig – 21 i 49 ·
Risg isel - hyd at 20 Tynnodd Swyddogion sylw at yr amrediad o raddfeydd
risgiau a fanylwyd yn y cynllun cyfredol; a oedd yn cynnwys sylw digonol ar
draws holl feysydd busnes y cyngor. Hysbyswyd yr Aelodau fod y cynllun wedi'i
lunio gan gyfeirio at gofrestr risgiau’r cyngor, trafodaethau â phob un o'r
Uwch-dimau Rheoli Corfforaethol, y profiad gan Swyddogion sy'n gweithio yn y
Timau Archwilio, ac unrhyw beth a nodwyd ar unrhyw adroddiadau rheoleiddiol
eraill. Darparwyd trosolwg byr o'r Siarter Archwilio Mewnol i'r Pwyllgor, a gynhwyswyd yn Atodiad Tri o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Dywedwyd mai diben y Siarter oedd dweud beth yw archwiliad mewnol, beth mae archwiliad mewnol yn ei wneud a'r hyn y gall cleientiaid ei ddisgwyl gan archwiliad mewnol; roedd yn ofynnol i safonau archwilio mewnol y sector cyhoeddus gael Siarter, adolygu'r Siarter honno ac iddi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|||
Archwilio Mewnol - Adroddiad Diweddaru PDF 988 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddogion yr Adroddiad
Diweddaru Archwilio Mewnol a oedd yn cynnwys manylion am y gwaith a wnaed ers
cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; roedd hwn yn adroddiad
chwarterol a oedd yn hysbysu Aelodau o'r sefyllfa bresennol a'r hyn a gwblhawyd
ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys manylion yr archwiliadau a gynhaliwyd a'u
graddfeydd sicrwydd. Roedd un o'r prif bwyntiau a
amlygwyd mewn perthynas â phroblemau staffio; ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, roedd lefel uchel iawn o salwch wedi
effeithio ar y tîm eto, gyda dau aelod o staff ar salwch tymor hir. Fodd
bynnag, soniwyd bod y salwch yn cael ei reoli’n unol â pholisïau a
gweithdrefnau'r cyngor. Problem staffio arall a godwyd oedd y broblem hirsefydlog o ran swyddi
Archwilwyr Cynorthwyol. Nodwyd ei bod yn anodd recriwtio ar gyfer y swyddi hyn
yn draddodiadol, hyd yn oed pan fyddai rhywun yn cael ei recriwtio, byddai'n
gadael yn ddieithriad ar ôl blwyddyn neu ddwy i weithio yn yr adran gyfrifon
neu rywle arall o fewn y cyngor; roedd hyn yn rhan o broblem ehangach o ran
recriwtio mewn Timau Archwilio mewn amryw o gynghorau. Oherwydd y broblem hon,
esboniodd Swyddogion eu bod wedi cynnal adolygiad o'r strwythur staffio;
cytunwyd i ddileu'r swydd Archwilydd Cynorthwyol a rhoi swydd Archwilydd yn ei
lle. Cadarnhawyd bod hyn wedi ei gwblhau, a bod y swydd wag yn cael ei
hysbysebu ar hyn o bryd ar fwletin swyddi gwag y cyngor, gyda dyddiad cau o 6
Hydref 2022. Hysbyswyd yr Aelodau fod un
aelod o staff wedi cwblhau rhan un a dau o'i gymhwyster proffesiynol yn
ddiweddar, ac roedd aelod arall o staff wedi cwblhau rhan un ac roedd disgwyl y
byddai'n sefyll rhan 2 o'r arholiad ddechrau mis Hydref. Diolchodd y Pwyllgor i'r ddau
aelod o staff am sefyll eu harholiadau cymwysterau proffesiynol. Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r effaith ar adnoddau oherwydd salwch staff, yn enwedig o ran
cyflwyno'r Cynllun Archwilio Mewnol. Esboniodd Swyddogion fod y ffocws ar
gwblhau'r meysydd risg uchel, a bod y meysydd risg uchel na chawsant eu
cwblhau’n cael eu cyflwyno yn y flwyddyn gyfredol; yna, cynhaliwyd sgyrsiau â'r Uwch-dimau
Rheoli i benderfynu a oedd angen cynnwys y meysydd nad oeddent wedi'u cynnwys o
hyd, neu os oedd angen i'r tîm gyfeirio’u hadnoddau i feysydd eraill. Dywedodd Swyddogion fod
Atodiad Un o'r adroddiad a ddosbarthwyd yn darparu manylion yr adroddiadau a
gyhoeddwyd, a'r graddfeydd
sicrwydd a gymhwyswyd ar ddiwedd yr archwiliad. Nodwyd bod y raddfa sicrwydd
wedi’i derbyn trwy gyfrifiad; o ystyried nifer yr argymhellion a wnaed yn yr
adroddiad, gallai methiant i weithredu'r argymhellion o fewn chwe mis arwain at
fethiant sylweddol yn y system, ac effaith methiant sylweddol yn y system.
Cadarnhawyd bod yr wybodaeth hon wedyn yn cael ei nodi mewn taenlen, byddai
fformiwla'n cael ei chymhwyso, a byddai un o'r categorïau canlynol yn cael ei
gymhwyso i'r adroddiad: ·
Categori Un, Sicrwydd Sylweddol - canfu profion y cynhaliwyd rheolaethau da
ac yn gyffredinol, mân argymhellion yn unig sydd eu hangen. · Categori Dau, Sicrwydd Rhesymol - ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11. |
|||
Eitemau brys Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|||
Cofnodion: Cadarnhawyd y byddai cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei drefnu ar gyfer 25 Tachwedd 2022, er mwyn
i Aelodau ystyried adroddiadau sensitif o ran amser. Nodwyd y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12, 13
ac 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|||
Archwilio Mewnol - Ymchwiliadau Arbennig Cofnodion: Rhoddodd Swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf am bob
adroddiad ymchwiliad arbennig a gyhoeddwyd ers y cyfarfod diwethaf; gan gynnwys
manylion yr holl ymchwiliadau arbennig cyfredol. Gofynnodd y Pwyllgor i gael gwybod am gynnydd a
chasgliadau'r ymchwiliadau arbennig a drafodwyd.
|