Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd R.Wood yn
Gadeirydd a phenodi'r Cynghorydd S.Paddison yn Is-gadeirydd ar gyfer y
cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau Cadeirydd Cofnodion: Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd wedi helpu a
rhoi eu cefnogaeth yn ystod y llifogydd diweddar yn ward Sgiwen y Fwrdeistref
Sirol. |
|
Cynllun Argyfwng Bysus 2 Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r
Pwyllgor mewn perthynas â'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) 2;
roedd yr adroddiad yn nodi cyd-destun ehangach y cynllun a gyflwynwyd o
ganlyniad i'r pandemig. Esboniwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi cynnig newidiadau i'r ffordd y byddai gwasanaethau bysiau'n cael eu
darparu yng Nghymru cyn y pandemig; roedd Bil Gwasanaethau Bysiau i fod i gael
ei gyflwyno yn ystod tymor presennol y Senedd, ond roedd y pwysau sy'n
gysylltiedig â COVID-19 wedi golygu bod llawer o waith cyfreithiol, ynghyd â
phontio Brexit, wedi arwain at oedi'r bil hwnnw. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod cymaint o arian cyhoeddus mewn gwasanaethau bysiau, gan fod
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol am i'r sector cyhoeddus gael mwy o
ddylanwad dros feysydd fel y rhwydweithiau a'r gwasanaethau bysiau y maent yn
eu darparu, tocynnau ac integreiddio cyffredinol ac ar draws y gwasanaethau
rheilffyrdd. Hysbyswyd yr Aelodau bod
Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru, sydd bellach yn
cynnwys bysiau; roeddent wedi darparu llawer o gefnogaeth, yn gyntaf gyda
Chynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau 1 ac yna’r Cynllun Brys ar gyfer y
Sector Bysiau 1.5. Nodwyd bod gan bob cynllun yn ei dro set o feini prawf i'w
dilyn, i'w wneud yn fwy atebol am yr arian cyhoeddus yr oedd yn ei dderbyn i
gefnogi ei sefydliadau gan ei fod yn darparu'r gwasanaethau. Soniodd swyddogion
fod y cynllun newydd yn fwy arwyddocaol na'r cytundeb blaenorol gan ei fod yn
cynnwys llawer mwy o amodau i'r gweithredwyr bysiau. Nododd yr Asesiad Effaith
Integredig (AEI), a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, nad oedd unrhyw
effeithiau ar gymunedau'r cymoedd yn gysylltiedig â chytundeb BES 2; Gofynnodd
yr Aelodau a allai'r swyddogion egluro pam nad oedd y cymoedd yn cael eu
heffeithio. Esboniodd swyddogion fod yr adroddiad penodol hwn yn ymwneud â'r
weinyddiaeth gefndir yn hytrach na'r gwasanaethau ar lawr gwlad, ac felly nid
oedd yn rhywbeth a fyddai'n cael unrhyw effaith ar y cymoedd. Cadarnhaodd
swyddogion, pan gawsant ragor o fanylion am yr adolygiad rhwydwaith o
wasanaethau, y byddent yn adrodd yn ôl i'r Aelodau. Gofynnwyd i swyddogion egluro manteision llofnodi cytundeb BES 2 i'r cyngor. Nodwyd y byddai gan y cyngor fwy o ddylanwad dros weithredwyr y gwasanaethau bysiau ac y gallai wneud penderfyniadau mewn perthynas â sut y byddent yn gweithredu yn y dyfodol; bydd yn caniatáu rhwydwaith mwy hollgynhwysol a fydd yn gweithio i'r cyngor, Trafnidiaeth Cymru a'r cyhoedd. Dywedodd swyddogion y tynnwyd gwasanaethau bysiau yn ôl yn rheolaidd o wahanol ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol; bydd y cynllun yn rhoi rhywfaint o reolaeth i'r cyngor dros y gwasanaeth, gan gynnwys gallu herio penderfyniadau a wneir gan weithredwyr bysiau. Ychwanegwyd bod y cyngor yn rhoi cymhorthdal i wasanaethau bysiau lleol ar gyfer cymunedau'r cymoedd a chymunedau gwledig nad oeddent yn hyfyw yn fasnachol ar hyn o bryd, a chyda'r cytundeb ar waith, y byddai partneriaethau'n cael eu datblygu er mwyn goresgyn hyn; Roedd swyddogion eisoes yn gweithio gyda'r ymgynghorwyr a gyflogwyd gan Lywodraeth Cymru ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |