Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod ar y cyd Pwyllgor Craffu'r Cabinet a Phwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Iau, 25ain Mehefin, 2020 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd M Harvey yn Gadeirydd ac y dylid penodi'r Cynghorydd R W Wood yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyd-gyfarfod hwn.                

 

2.

Canolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) - Twyni Crymlyn (yn amgaeëdig ym mhapurau'r Cabinet)

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd ar ddechrau'r cyfarfod fod adroddiad y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) wedi'i gyhoeddi mewn sesiwn agored gan alluogi'r pwyllgor craffu i drafod yr adroddiad yn gyhoeddus.

 

Gofynnwyd am eglurder ynghylch defnyddio'r llosgydd. Eglurwyd nad oedd y llosgydd yn cael ei ddefnyddio ac y byddai'n cael ei ddatgomisiynu a’i symud fel rhan o'r cynigion a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nodwyd bod y gweithfeydd yn cael eu rheoleiddio'n drwm ac yn cael eu rheoli o bob agwedd, yn enwedig yr allyriadau i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd. 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch a fyddai tirlenwi'n cael ei ystyried gan na fyddai'r MREC yn llosgi ei wastraff gweddilliol ei hun. Nodwyd, gan fod gofynion strategaeth ar gyfer cyfyngu ar swm y gwastraff bioddiraddiadwy sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, a bod lludw gwaelod llosgydd ailgylchadwy’n cyfrif tuag at berfformiad ailgylchu'r Cyngor, y byddai tirlenwi felly'n cael ei ystyried yn ateb cyffredinol.

 

Trafododd yr Aelodau a fyddai'r cynllun busnes yn cynnwys archwilio'r cyrchfannau a'r dulliau gwaredu gwastraff yn glir. Nodwyd bod yn rhaid cynnwys gwybodaeth am gyrchfannau hanfodol yn y System Llif Data Gwastraff Cenedlaethol a archwilir gan Cyfoeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.  Hefyd, wrth i'r contractau presennol ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu gael eu haildendro o dan weithdrefnau'r cyngor, bydd craffu manylach.

 

Nododd yr Aelodau y byddai'r adolygiad nesaf o'r strategaeth gwastraff yn 2022. Cafwyd cyflwyniad a diweddariad yn ddiweddar ar y Strategaeth Gwastraff a gyflwynwyd i Bwyllgor Craffu'r Strydlun a Pheirianneg, a ddilynodd y seminarau blaenorol i'r holl Aelodau. Byddai angen gwreiddio'r newidiadau blaenorol a wnaed ymhellach cyn ystyried adolygiad arall. Ar ben hynny, tynnwyd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar strategaeth economi gylchol ehangach fel diweddariad i'r strategaeth genedlaethol y byddai angen ei chwblhau cyn ystyried Strategaeth Leol.

 

Nodwyd bod offer didoli newydd wedi'i gynnig ac fe’i hystyriwyd yn y costau yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mae hyn yn unol â'r trywydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i sicrhau'r targed dim gwastraff erbyn 2050.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai unrhyw oblygiadau ariannol gyda'r cynigion hyn, oherwydd pandemig diweddar COVID-19. Eglurodd swyddogion yr adnoddau ariannol i dalu am £5.5m o gost a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd yr MREC yn gweithio fel arfer.

 

Canmolwyd y swyddogion gan Aelod y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg am eu gwaith.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.