Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd M Harvey yn
Gadeirydd ac y dylid penodi'r Cynghorydd R W Wood yn Is-gadeirydd ar gyfer y
cyd-gyfarfod hwn. |
|
Canolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) - Twyni Crymlyn (yn amgaeëdig ym mhapurau'r Cabinet) Cofnodion: Esboniodd y Cadeirydd ar ddechrau'r cyfarfod fod
adroddiad y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (MREC) wedi'i gyhoeddi mewn
sesiwn agored gan alluogi'r pwyllgor craffu i drafod yr adroddiad yn gyhoeddus.
Gofynnwyd am eglurder ynghylch defnyddio'r
llosgydd. Eglurwyd nad oedd y llosgydd yn cael ei ddefnyddio ac y byddai'n cael
ei ddatgomisiynu a’i symud fel rhan o'r cynigion a nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Nodwyd bod y gweithfeydd yn cael eu rheoleiddio'n
drwm ac yn cael eu rheoli o bob agwedd, yn enwedig yr allyriadau i sicrhau bod
cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd. Cafwyd trafodaeth ynghylch a fyddai tirlenwi'n cael
ei ystyried gan na fyddai'r MREC yn llosgi ei wastraff gweddilliol ei hun.
Nodwyd, gan fod gofynion strategaeth ar gyfer cyfyngu ar swm y gwastraff
bioddiraddiadwy sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, a bod lludw gwaelod
llosgydd ailgylchadwy’n cyfrif tuag at berfformiad ailgylchu'r Cyngor, y byddai
tirlenwi felly'n cael ei ystyried yn ateb cyffredinol. Trafododd yr Aelodau a fyddai'r cynllun busnes yn
cynnwys archwilio'r cyrchfannau a'r dulliau gwaredu gwastraff yn glir. Nodwyd
bod yn rhaid cynnwys gwybodaeth am gyrchfannau hanfodol yn y System Llif Data
Gwastraff Cenedlaethol a archwilir gan Cyfoeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer
Llywodraeth Cymru. Hefyd, wrth i'r
contractau presennol ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu gael eu
haildendro o dan weithdrefnau'r cyngor, bydd craffu manylach. Nododd yr Aelodau y byddai'r adolygiad nesaf o'r
strategaeth gwastraff yn 2022. Cafwyd cyflwyniad a diweddariad yn ddiweddar ar
y Strategaeth Gwastraff a gyflwynwyd i Bwyllgor Craffu'r Strydlun a
Pheirianneg, a ddilynodd y seminarau blaenorol i'r holl Aelodau. Byddai angen
gwreiddio'r newidiadau blaenorol a wnaed ymhellach cyn ystyried adolygiad arall.
Ar ben hynny, tynnwyd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru hefyd yn
ymgynghori ar strategaeth economi gylchol ehangach fel diweddariad i'r
strategaeth genedlaethol y byddai angen ei chwblhau cyn ystyried Strategaeth
Leol. Nodwyd bod offer didoli newydd wedi'i gynnig ac
fe’i hystyriwyd yn y costau yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mae hyn yn unol â'r
trywydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i sicrhau'r targed dim gwastraff
erbyn 2050. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai unrhyw oblygiadau
ariannol gyda'r cynigion hyn, oherwydd pandemig diweddar COVID-19. Eglurodd
swyddogion yr adnoddau ariannol i dalu am £5.5m o gost a nodir yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Roedd yr MREC yn gweithio fel arfer. Canmolwyd y swyddogion gan Aelod y Cabinet dros
Strydlun a Pheirianneg am eu gwaith. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. |