Agenda a Chofnodion

Cyd-cyfarfod o Pwyllgor Craffu’r Cabinet / Addysg, Sgiliau a Diwylliant - Dydd Iau, 4ydd Tachwedd, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Micorosft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

Cofnodion:

Cynigiwyd, eiliwyd a phenderfynwyd y dylid penodi'r Cynghorydd Sonia Reynolds yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

Cynigiwyd, eiliwyd a phenderfynwyd mai'r Cynghorydd Saifur Rahaman fyddai’r Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

Y Cyng. Wyndham Griffiths

Parthed:

Cyflwyno'r Gwasanaethau Hamdden yn y dyfodol gan ei fod yn aelod o Hamdden Celtic ond mae ganddo hawl i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Simon Knoyle

Parthed:

Cyflwyno'r Gwasanaethau Hamdden yn y dyfodol gan ei fod yn aelod o Hamdden Celtic ond mae ganddo hawl i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Rebecca Phillips

Parthed:

Cyflwyno'r Gwasanaethau Hamdden yn y dyfodol gan ei bod yn aelod o Hamdden Celtic ond mae ganddi hawl i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Arwyn Woolcock

Parthed:

Cyflwyno'r Gwasanaethau Hamdden yn y dyfodol gan ei fod yn Gadeirydd Cenedlaethol ar gyfer y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus ond mae ganddo hawl i siarad a phleidleisio.

Y Cyng. Nigel Hunt

Parthed:

Cyflwyno'r Gwasanaethau Hamdden yn y dyfodol gan ei fod yn aelod o Hamdden Celtic ond mae ganddo hawl i siarad a phleidleisio.

3.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Cyn dechrau'r sesiwn breifat, gofynnodd yr aelodau ynghylch y posibilrwydd o drafod yr adroddiad yn ystod sesiwn gyhoeddus. Yn dilyn cyngor cyfreithiol ynghylch cyfrinachedd yr wybodaeth ariannol fel y nodwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad preifat, cytunodd yr aelodau ar y datrysiad canlynol:

PENDERFYNWYD:

gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

4.

Cyflwyno'r Gwasanaethau Hamdden yn y dyfodol (wedi'i amgáu ym Mhapurau'r Cabinet)

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau adroddiad am fodel cyflwyno yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaethau hamdden fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

Cyn dechrau trafod yr adroddiad, cododd aelodau bryderon ynghylch y diffyg manylder yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a effeithiodd felly ar eu gallu i ystyried yr adroddiad a chraffu arno yn ei gyfanrwydd.

Cynigiwyd ac eiliwyd y cynnig canlynol:

·        Bydd y Pwyllgor Craffu'n argymell i'r Cabinet y dylid gohirio trafod yr eitem heddiw ac y dylid cynnull cyfarfod ychwanegol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet o fewn y pythefnos nesaf. Nod y cyfarfod hwn fydd egluro a pharatoi’n drefnus yr wybodaeth ychwanegol y bydd ei hangen i ategu'r adroddiad presennol, a gall aelodau’r pwyllgor ar yr adeg hon benderfynu ar y ffordd orau o drefnu eu hunain er mwyn cyflawni hyn.

Cynigiwyd ac eiliwyd pleidlais wedi'i chofnodi a chytunwyd arni’n unol â'r gweithdrefnau gofynnol.

Cynhaliwyd pleidlais i benderfynu pa aelodau oedd yn erbyn y cynnig a gynigir neu'n ymatal. Roedd canlyniadau'r bleidlais fel a ganlyn:

O blaid y cynnig

M Crowley, S  Freeguard, S Harris, J Jones, D  Keough, S Miller, S Paddison, S Penry, M Protheroe, S Rahaman, S Renkes, S Reynolds, R Taylor, D Whitelock, A Woolocock

Yn erbyn y cynnig

W Griffiths, J Hale, N Hunt, S Hunt, S Knoyle, A Llewelyn, R Phillips, L Purcell, A Richards, R Wood

Ymataliadau        

Dim

Yn dilyn y broses graffu, roedd mwyafrif y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig canlynol i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet: