Lleoliad: Via Micorosft Teams
Rhif | Eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cofnodion: Cynigiwyd, eiliwyd a phenderfynwyd y dylid penodi'r
Cynghorydd Sonia Reynolds yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Cynigiwyd, eiliwyd a phenderfynwyd mai'r Cynghorydd
Saifur Rahaman fyddai’r Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr
aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:
|
||||||||||||||||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Cyn dechrau'r sesiwn breifat, gofynnodd yr aelodau ynghylch y posibilrwydd
o drafod yr adroddiad yn ystod sesiwn gyhoeddus. Yn dilyn cyngor cyfreithiol
ynghylch cyfrinachedd yr wybodaeth ariannol fel y nodwyd ym mharagraff 2.2 yr
adroddiad preifat, cytunodd yr aelodau ar y datrysiad canlynol:
|
||||||||||||||||
Cyflwyno'r Gwasanaethau Hamdden yn y dyfodol (wedi'i amgáu ym Mhapurau'r Cabinet) Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau adroddiad am fodel cyflwyno yn y dyfodol ar gyfer y
gwasanaethau hamdden fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Cyn dechrau trafod yr adroddiad, cododd aelodau bryderon ynghylch y diffyg
manylder yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a effeithiodd felly ar eu gallu i
ystyried yr adroddiad a chraffu arno yn ei gyfanrwydd. Cynigiwyd ac eiliwyd y cynnig canlynol: ·
Bydd y Pwyllgor Craffu'n argymell i'r Cabinet y dylid
gohirio trafod yr eitem heddiw ac y dylid cynnull cyfarfod ychwanegol ar gyfer
y Cyd-bwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet o fewn y pythefnos
nesaf. Nod y cyfarfod hwn fydd egluro a pharatoi’n drefnus yr wybodaeth
ychwanegol y bydd ei hangen i ategu'r adroddiad presennol, a gall aelodau’r
pwyllgor ar yr adeg hon benderfynu ar y ffordd orau o drefnu eu hunain er mwyn
cyflawni hyn. Cynigiwyd ac eiliwyd pleidlais wedi'i chofnodi a
chytunwyd arni’n unol â'r gweithdrefnau gofynnol. Cynhaliwyd pleidlais i benderfynu pa aelodau oedd
yn erbyn y cynnig a gynigir neu'n ymatal. Roedd canlyniadau'r bleidlais fel a
ganlyn: O blaid y cynnig M Crowley, S
Freeguard, S Harris, J Jones, D
Keough, S Miller, S Paddison, S Penry, M Protheroe, S Rahaman, S Renkes,
S Reynolds, R Taylor, D Whitelock, A Woolocock Yn erbyn y cynnig W Griffiths, J Hale, N Hunt, S Hunt, S Knoyle, A
Llewelyn, R Phillips, L Purcell, A Richards, R Wood Ymataliadau Dim Yn dilyn y broses graffu, roedd mwyafrif y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig
canlynol i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet: ·
Bydd y Pwyllgor Craffu'n argymell i'r Cabinet y dylid
gohirio trafod yr eitem heddiw ac y dylid cynnull cyfarfod ychwanegol ar gyfer
y Cyd-bwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet o fewn y pythefnos
nesaf. Nod y cyfarfod hwn fydd egluro a pharatoi’n drefnus yr wybodaeth
ychwanegol y bydd ei hangen i ategu'r adroddiad presennol, a gall aelodau’r
pwyllgor ar yr adeg hon benderfynu ar y ffordd orau o drefnu eu hunain er mwyn
cyflawni hyn. |