Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Rees E-bost: t.rees1@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Gwasanaethau Democrataidd wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Cynghorydd R.Wood a'r Cynghorydd J. Curtice. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25/07/24 fel cofnod cywir. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25/07/24 fel cofnod cywir. |
|
Y Diweddaraf am Gynnydd Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel Cofnodion: Rhoddodd Lisa Willis, Rheolwr y Rhaglenni
Ariannu Strategol, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am gynnydd y rhaglen cefnogi arloesedd a thwf carbon isel. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod rheolwr
blaenorol y rhaglen wedi cymryd rôl
arall yng Nghyngor Sir Castell-nedd Port
Talbot ac mae'r rôl wedi cael ei
hysbysebu ond heb ei llenwi.
Mae Lisa Willis wedi cymryd
yr awenau fel rheolwr y rhaglen ac mae ei swyddog
raglen yn ei chefnogi. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod gan
bob un o'r prosiectau ei reolwr prosiect
ei hun sy'n
adrodd i Lisa Willis, felly nid
oes risg i gyflawniad oherwydd y newid. Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o bob un o'r 8 prosiect rhyng-gysylltiedig a nod
pob un ohonynt yw sicrhau twf
economaidd carbon isel, cynaliadwy a chynhwysol i'r rhanbarth. Canolfan Dechnoleg y Bae Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai adeilad
ynni-gadarnhaol hybrid yw hwn, ac ar hyn
o bryd mae 53% ohono wedi'i lenwi.
Eglurodd swyddogion y disgwylir i dri chwmni arwyddo prif delerau ac roedd swyddogion hefyd ar fin cyhoeddi
prif delerau eraill i gwmni arall. Ar hyn
o bryd mae swyddogion yn cynnal
trafodaethau gyda chwmni ychwanegol; byddai hyn yn
golygu y dylai 5 cwmni arall ymuno
dros y ddau fis nesaf. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod y cyfleuster yn cael ei
hyrwyddo drwy'r wefan a thrwy gyfryngau
cymdeithasol ac mai'r
tenant diweddaraf i gyrraedd
yw'r Catapwlt Cynhyrchu Gwerth Uchel ac mae wedi
sefydlu swyddfa yng Nghanolfan Dechnoleg y Bae. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau
fod ganddynt offer o'r radd flaenaf
sy'n cefnogi busnesau ar draws y rhanbarth, Cymru a'r DU. Canolfan Ddiwydiannol Pontio
o Garbon De Cymru (SWITCH) Dywedodd swyddogion fod
SWITCH yn cefnogi datgarboneiddio'r diwydiant dur a
metelau a Phrifysgol
Abertawe yw'r partner cyflawni.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod
y cam dylunio 12 mis wedi dod i ben gydag ymgynghoriad cyn ymgeisio y bwriedir ei gyflwyno'n fuan
a bydd cam adeiladu 15-18
mis yn dilyn hyn a disgwylir iddo gael ei
gwblhau ar ddiwedd 2026. Roedd swyddogion yn teimlo bod hwn yn brosiect cyffrous,
ac mae hefyd wedi addasu i newidiadau
gyda chyhoeddiad Tata Steel
sy'n edrych ar ddatgarboneiddio dur yn ogystal â'r
diwydiant dur a metelau ar draws y rhanbarth. Cyfleuster cynhyrchu gweithgynhyrchu
uwch Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bu oedi
gyda'r prosiect hwn o ran trafod opsiynau tir a sicrhau ei fod
yn cyd-fynd â'r dirwedd arloesi.
Mae
swyddogion yn siarad â Llywodraeth Cymru ynghylch yr ardaloedd tir ac yn ymgysylltu
â phartneriaid ar hyn. Rhoddwyd gwybod
i'r Aelodau hefyd fod llawer
o ddiddordeb yn hyn o ran arallgyfeirio diwydiant ar draws Castell-nedd Port Talbot a'r rhanbarth ehangach. Canolfan Rhagoriaeth Sgiliau
Sero Net Bydd hyn yn rhannu'r un lleoliad â'r cyfleuster cynhyrchu gweithgynhyrchu uwch ac mae swyddogion
yn edrych ar ei leoliad
ac yn trafod sawl opsiwn o ran tir. Prosiect ysgogi hydrogen Dywedwyd wrth yr aelodau fod y prosiect hwn mewn dwy ran. Prifysgol De ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Portffolio Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Johnathan Burnes drosolwg i'r aelodau
o adroddiad portffolio Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe fel y'i cynhwysir yn
y pecyn agenda. Nododd aelodau
mai 9,700 yw'r targed ar gyfer
swyddi ar hyn o bryd, ond
mae'r adroddiad yn dweud bod 615 o swyddi erbyn hyn.
Gofynnodd yr aelodau pryd mae swyddogion
yn credu y byddai'n dod yn
agosach at y targed. Atgoffodd swyddogion
yr aelodau fod fframwaith gwerthuso wedi'i gyflwyno yn y cyfarfod diwethaf
ac yn hynny roedd amserlenni awgrymedig o bryd y bydd pob prosiect
yn gwerthuso elfennau o'u prosiectau.
Dywedodd swyddogion
y byddant yn edrych ar effaith
ehangach yr adeiladau ac nid gwaith codi'r
adeilad yn unig. Pan fydd y gwerthusiadau hynny'n cael eu llunio
a'u rhoi drwy'r system, bydd aelodau'n dechrau gweld niferoedd y swyddi yn cynyddu'n
gyflym. Rhoddwyd gwybod
i'r aelodau o ran pryd y byddant yn cael yr adroddiadau,
a'r un cyntaf fydd cam un Yr Egin a bydd hynny'n mynd
i'r cydbwyllgor ym mis Rhagfyr ar gyfer eu
gwerthusiad economaidd.
Marina Abertawe fyddai nesaf,
ac yna Arena Abertawe. Ar ôl hynny, bydd
cyfres gyfan o bethau a fydd yn
digwydd dros y blynyddoedd nesaf. Dywedodd swyddogion
eu bod yn cynnal gwerthusiad economaidd o brosiectau ar ôl o leiaf
blwyddyn neu ddwy o weithredu a rhoddwyd enghraifft o brosiect SWITCH na fydd yn
cael ei gwblhau
ar ddiwedd 2026. Mae hyn yn dangos
y gallai'r gwerthusiadau fynd hyd at oddeutu
2028/2029. Gofynnodd yr aelodau
am eglurhad ynghylch y ffigurau ar yr adroddiad. Nododd yr aelodau nad yw
cyfanswm y targed buddsoddi wedi newid o'r adroddiad
blaenorol, sef £1262.19m, a
chyfanswm y buddsoddiad hyd yn hyn
yw £318.23m. Nododd yr Aelodau, os ydych
yn darllen y gwariant ariannol ar gyfer chwarter
pedwar y llynedd a'r adroddiad diweddaru
blynyddol, mae cyfanswm y targed buddsoddi'n ffigwr gwahanol, sef £1278.27m ar gyfer chwarter
pedwar y llynedd ac mai cyfanswm y buddsoddiad hyd yn hyn yw
£354m. Ceisiodd yr aelodau eglurhad o ran a oedden nhw'n darllen y ffigurau'n anghywir neu a yw'r ffigurau yn
yr adroddiad yn anghywir. Dywedodd swyddogion
y byddent yn gwirio'r rhesymau y tu ôl i'r
amrywiad eto a dywedodd y byddent yn rhoi ateb
ffurfiol i'r aelodau'n ysgrifenedig drwy'r Cadeirydd i esbonio pam mae amrywiaeth yn y gwerthoedd. Dywedodd yr Aelodau
fod Cyngor Sir Penfro'n bryderus iawn ar hyn
o bryd gyda'r Porthladd Rhydd Celtaidd a gofynnwyd pa effaith y mae'r porthladd rhydd yn ei chael
ar y Fargen Ddinesig, neu a
fydd yn cael
unrhyw effaith ar gynlluniau'r Fargen Ddinesig. Dywedodd swyddogion
eu bod wedi canfod mewn perthynas
â Bargen Ddinesig Bae Abertawe, fod
llawer o'r partneriaid sy'n ymwneud â'r fargen
ddinesig a'r porthladdoedd rhydd. Mae'r uwch berchnogion
cyfrifol, fel Nicola
Pearce, sef Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio yng Nghastell-nedd Port Talbot a
Rachel Moxie o Gyngor Sir Penfro,
yn uwch berchnogion
cyfrifol ar gyfer prosiectau'r fargen ddinesig. Dywedodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol 2023/24 - Sefyllfa Alldro Dros Dro Ch4 Cofnodion: Rhoddodd Stephen Aldred-Jones drosolwg i'r aelodau o'r
adroddiad fel y'i cynhwysir yn
y pecyn agenda. Gofynnodd yr Aelodau beth oedd ystyr 'dangosir
bod y sefyllfa fuddsoddi amcangyfrifedig gyffredinol ar £1.278 biliwn'. Eglurodd swyddogion fod y ffigwr yn
cynnwys grant y fargen ddinesig gan Lywodraethau
Cymru a'r DU o £241m ac mae
hefyd yn cynnwys yr arian y mae cyrff eraill
yn y sector cyhoeddus yn ei roi
iddo, ynghyd â buddsoddiad y sector preifat.
£1.278 biliwn yw'r cyfanswm terfynol. Tynnodd yr aelodau sylw at
y gyllideb fuddsoddi gyffredinol a gofynnwyd ai 'arian dyledus' oedd hwn. Eglurodd swyddogion mai dyma'r grantiau y mae'r Fargen Ddinesig wedi'u derbyn oddi
wrth Lywodraethau Cymru a'r DU ac mai balans
hyn ar ddiwedd
23/24 oedd £54.4 miliwn. Esboniodd swyddogion fod y cyfrif wedi ennill
llog wrth aros am y dyraniadau grantiau gael eu rhoi
i bartneriaid unigol yr awdurdod. Mae'r partneriaid wedi
bod yn aros i gyflwyno'u hawliadau ond nid
ydynt wedi gallu gwneud hynny
hyd yn hyn
oherwydd oedi ar brosiectau. Talwyd y llog a enillwyd yn y cyfrif
i'r awdurdodau unigol ar sail pro rata. Esboniodd y swyddogion y bydd
yr arian a ddelir yn y cyfrif yn
cael ei dalu
i'r partneriaid pan fyddant yn gwneud
eu hawliadau pan fydd y prosiectau'n dal i fyny ar ôl
yr oedi. Gofynnodd yr aelodau gan fod llywodraeth newydd bellach yn San Steffan, a fydd yr holl gyllid yn
dal i gael ei sicrhau ar gyfer
bargen ddinesig Bae
Abertawe ac a oes unrhyw risg y gellid
tynnu unrhyw ran o hwnnw'n ôl? Dywedodd swyddogion eu bod wedi cael sicrwydd
sawl tro bod y cyfan wedi'i neilltuo
a'i fod yn
ddiogel, gan dybio bod popeth yn mynd yn
ei flaen fel y'i cynlluniwyd
yn ôl yr hyn a nodwyd yn
yr achosion busnes. Dywedodd swyddogion y byddai'n
rhaid iddynt fynd trwy gais
newid os nad yw hyn
yn digwydd, a gellid anfon hwnnw
at y llywodraethau i'w gymeradwyo gan ddibynnu ar yr hyn y gallai'r newidiadau hynny ei olygu. Ailadroddodd
swyddogion ynghylch y statws presennol a bod yr arian wedi'i neilltuo
a'i fod yn
cael ei ddarparu
ar draws y portffolio. Nododd swyddogion fod bargeinion dinesig a thwf eraill ledled
y wlad, a bod yr Alban a Gogledd
Iwerddon wedi cael eu hysbysu
bod yn rhaid iddynt aros tan yr adolygiad gwariant cynhwysfawr yn ddiweddarach yn y flwyddyn i benderfynu a yw'r
arian hwnnw'n cael ei ryddhau
ar gyfer y bargeinion dinesig a thwf hynny, oni bai eu bod wedi dechrau
eu cyflwyno. Nid yw Bargen Ddinesig
Bae Abertawe yn y sefyllfa honno ar hyn
o bryd. Rhoddodd yr wybodaeth hon sicrwydd
i'r aelodau. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Rhagarchwiliad o'r Datganiad o Gyfrifon Blynyddol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Stephen Aldred-Jones yr adroddiad yn unol â'r
pecyn agenda a rhoddodd gyd-destun i'r aelodau mai Cyngor
Sir Gâr yw'r corff atebol sy'n
gyfrifol am stiwardiaeth ariannol Bargen Ddinesig Bae
Abertawe a dyma'r bedwaredd
flwyddyn lle bu'n rhaid i swyddogion
lunio datganiad cyfrifon yn unol
â chyfrifon a rheoliadau Archwilio Cymru. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y rhagarchwiliad
o'r datganiad yn cael ei
archwilio gan Archwilio Cymru ar hyn o bryd yn
unol â'i chynllun archwilio manwl a bydd unrhyw
ddiwygiadau a nodir yn cael eu
nodi yn adroddiad ISA 260. Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am yr adroddiad ond nid oedd
ganddynt unrhyw gwestiynau. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau
bod ganddynt Atodiad 8A, sef Adroddiad Blynyddol
Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2023/24, sy'n ymwneud â'r
eitem hon, ac felly byddant
yn cymryd Eitem 8 ac Atodiad 8A ar yr un pryd. Rhoddodd Jonathan Burnes drosolwg i'r
aelodau o'r adroddiad sydd wedi'i gynnwys yn y pecyn agenda. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai
dyma'r drydedd fersiwn o adroddiad blynyddol Bargen Ddinesig
Abertawe ac eglurodd fod yr
adroddiad yn anelu at grynhoi a dathlu'r holl gyflawniadau
a cherrig milltir allweddol rhwng Ebrill '23 a
Mawrth '24, gan atgyfnerthu
popeth y byddai swyddogion yn ei
ddisgwyl ynghylch aliniad y Fargen Ddinesig a'r pwysigrwydd i'r economi ranbarthol,
gan sicrhau bod mewnwelediad i randdeiliaid ei ddarllen am yr hyn sy'n digwydd
neu a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a beth y disgwylir iddo ddigwydd yn y flwyddyn
ariannol hon. Mae
swyddogion yn gweithio gyda holl
dimau'r prosiect, yr uwch berchnogion cyfrifol, y partneriaid cyflenwi allweddol a bwrdd y rhaglen etc., i sicrhau eu bod yn casglu cymaint
o wybodaeth ag y gallant ac yn
ei phrosesu mewn ffordd mor gryno â phosib. Amlygodd yr aelodau ei fod yn gadarnhaol
gweld yr holl waith da sy'n digwydd
ar draws y rhanbarth a'r holl brosiectau
a nodwyd ei bod yn eithaf cadarnhaol
gweld yr holl newidiadau a'r datblygiad, a chanmolwyd y tîm cyfan am y gwaith y maent yn ei wneud.
Nodwyd yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2023-24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr adroddiad. |
|
Adroddiad Adolygiad yr Asesiad Effaith Adeiladu Cofnodion: Rhoddodd Jonathan Burnes drosolwg i'r
aelodau ynghylch Adroddiad Adolygiad yr Asesiad Effaith ar Adeiladu. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod yr asesiad effaith ar adeiladu yn
adroddiad chwarterol y mae swyddogion yn ei lunio.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad oes
unrhyw newid o'r chwarter blaenorol
o ran yr asesiad effaith ar adeiladu. Esboniodd swyddogion mai'r bwlch ariannu cyffredinol
yw £43.5 miliwn a bu cyfres o fesurau
lliniaru i lenwi'r bwlch hwnnw. Dywedodd swyddogion fod bwlch gweddilliol o £12 miliwn bellach, ac mae prosiectau'n gweithio ar hynny
hefyd. Cafodd yr aelodau wybod mai dim ond un risg sy'n cael
ei ychwanegu ar gyfer Pentre Awel, sy'n ymwneud ag oedi wrth adeiladu.
Atgoffodd swyddogion yr aelodau
mai'r mesurau lliniaru allweddol yw naill ai i nodi ffynonellau cyllid ychwanegol i lenwi'r bylchau, ailedrych ar y briff dylunio
neu'r cwmpas a mynd i drafodaethau hirach gyda chontractwyr
Haen 1 a'r gadwyn gyflenwi ynghylch costau cynyddol. Gofynnodd yr aelodau a ddefnyddiwyd
unrhyw beirianneg gwerth hefyd? Dywedodd swyddogion fod adeiladwaith adeiladau wedi bod yn un o'r mesurau lliniaru
ynghyd â'r dewis o leoliad yr adeiladau a'u maint.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau, o ran y cwmpas, fod swyddogion wedi nodi, drwy unrhyw newid briff
dylunio neu newidiadau cwmpas, nad yw'n
newid canlyniad yr hyn a fydd yn
digwydd o ganlyniad. Defnyddiodd swyddogion esiampl cyfleuster cynhyrchu SWITCH, y cyfleuster datgarboneiddio dur yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe. Mae maint yr
adeilad yn llai oherwydd ei
fod yn faint bras, ond gall gynnal yr hyn y maent wedi'i
gynllunio iddo ei gynnal yn
wreiddiol o hyd. Esboniodd swyddogion eu bod yn torri'n ôl
heb effeithio ar y canlyniadau cyflwyno. Rhoddodd swyddogion yr esiampl
hefyd eu bod wedi haneru maint
y ffasâd o wydr ar gynllun Pentre Awel i leihau cost cynhyrchu a chludo'r gwydr i'r safle. Newidiodd
y prosiect matrics eu hadeiladwaith hefyd. Atgoffwyd yr aelodau fod deunyddiau, costau, tanwydd a phrisiau ynni'n uwch nag yr oeddent pan ddatblygwyd yr achosion busnes. Er y bydd cost uwch, mae swyddogion yn lleihau hynny
drwy'r mesurau lliniaru ac yn cau'r bwlch hwnnw.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod Bwrdd
y Rhaglen wedi gofyn i swyddogion ailasesu ac ail-lunio'r Asesiad Effaith ar Adeiladu a gofyn
iddynt edrych ar 4 maes. • Gwerth am arian wrth ddyrannu arian
cyhoeddus. • Hyblygrwydd o ran caffael, yn enwedig mewn
fframweithiau. • Llywio adolygiad ar gyfer y strategaeth
gaffael ranbarthol. • Datrysiadau partneriaeth i fynd i'r afael
â'r materion o ran sgiliau sy'n effeithio
ar y diwydiant adeiladu. Mewn perthynas â chaffael,
dywedodd yr aelodau nad ydynt yn
cefnogi'n gryf y syniad o gael rhestr
o gontractwyr i alw arnynt i gynorthwyo yn y rhaglenni. Gofynnodd aelodau a roddir unrhyw lwyth
i gwmnïau lleol? Esboniodd swyddogion o ran y sefyllfa â chontractwyr haen 1 eu bod yn cael eu rhwystro'n anffodus gan nifer y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|
Adroddiad am gyflwyno digwyddiadau lleol Cwrdd â'r Fargen Ddinesig 2023/24 Cofnodion: Rhoddodd Jonathan Burnes wybod i'r
aelodau ei fod yn adroddiad
cadarnhaol ac eglurodd fod dathliad wedi'i
gynnal yn 2022 bod Bargen Ddinesig Bae Abertawe'n cael ei chyflawni'n
llawn gyda digwyddiad a gynhaliwyd ym Mharc y Scarlets. Canfu'r swyddogion, er ei fod wedi
mynd yn dda,
a bod ganddynt lawer o fynychwyr, eu bod yn ystyried y mynychwyr
fel y rheini y byddent yn eu
disgwyl bob tro o ran swyddogion y llywodraeth, swyddfeydd a busnesau'r llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol amrywiol eraill ar gyfer
y fargen ddinesig. Derbyniodd swyddogion adborth o'r digwyddiad sef y dylent fynd
allan i bedair ardal yr awdurdod lleol a chynnal 'digwyddiad cwrdd â'r fargen ddinesig',
sef yr hyn y maent wedi'i gynnal
ac yr oedd yn sail yr adroddiad. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y cynhaliwyd pedwar digwyddiad a oedd yn canolbwyntio
ar yr ardal leol y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Roedd ganddynt dros 30 o arddangoswyr. Gweithiodd swyddogion mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau sy'n helpu i gefnogi
busnesau, ac roedd cynrychiolydd o bob un ohonynt yn bresennol yn
y pedwar digwyddiad. Roedd dros 500 o gofrestriadau,
ac roedd 58% o'r cofrestriadau hynny yn bresennol ynddynt.
Roedd swyddogion yn teimlo bod hynny'n
wych ac roeddent yn falch bod tua 3/4 o'r mynychwyr yn
dod o'r sector preifat a chanfu fod y mynychwyr yn cwrdd â phrosiectau
nad oeddent o reidrwydd yn eu
hardal leol. Roedd hyn yn
caniatáu iddynt siarad am synergeddau a chyfleoedd a chafwyd sgyrsiau rhwng y prosiectau a'r arddangoswyr a gefnogodd y digwyddiad. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod 80% o'r rheini a fu'n
bresennol wedi dweud bod y digwyddiadau'n ddefnyddiol neu'n ddefnyddiol iawn, a theimlai swyddogion eu bod yn dangos
bod y digwyddiadau hynny'n llwyddiannus a'u bod yn gweithio. Esboniodd
swyddogion eu bod yn mynd i edrych
ar y gyfres nesaf o ddigwyddiadau y gallant eu cynnal ac y cynhelir y rheini o fewn y chwarter nesaf. Gofynnodd yr aelodau i'r Pwyllgor Craffu gael eu gwahodd
i'r digwyddiadau Cwrdd â'r Fargen Ddinesig newydd i weld beth sy'n digwydd
ynddynt. Cytunodd y Cadeirydd a'r swyddogion y byddai hynny'n syniad da gan y byddent yn
cael cwrdd â'r timau ar
lawr gwlad a gweld pethau ar
draws y portffolio. Nododd y Cadeirydd fod rhai aelodau eisoes
wedi mynd i'r digwyddiadau, gan gynnwys ef
ei hun. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2024/25 Cofnodion: Nododd aelodau'r pwyllgor
y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau Brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |