Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cyn y cyfarfod dosbarthwyd dogfen i'r aelodau a oedd yn amlinellu trosolwg
cyfredol o'r prosiect. Ni fwriadwyd trafod y ddogfen ond roedd ar gael i alluogi
aelodau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r diweddariadau diweddaraf. Gofynnwyd
i'r aelodau ddarllen y ddogfen os nad oeddent wedi gwneud hynny eisoes. Pwysleisiodd y Cadeirydd siom yr aelodau na dderbyniwyd unrhyw ddogfennau
ysgrifenedig i gyd-fynd â diweddariad prosiect Pentre Awel. Yn ogystal, wrth
ystyried bod y prosiect yn lleol ac nid yn rhanbarthol, mae y tu allan i gwmpas
y pwyllgor. Gohiriodd yr aelodau'r eitem er mwyn ei thrafod mewn cyfarfod yn y
dyfodol gyda diweddariad ysgrifenedig i gyd-fynd ag ef. Pwysleisiodd y Cadeirydd y pryder cyffredinol ynghylch y diffyg diweddariadau ysgrifenedig a ddarperir i'r pwyllgor. Disgwyliadau'r pwyllgor wrth symud ymlaen yw bod yn rhaid i wybodaeth ysgrifenedig gyd-fynd â phob eitem ar yr agenda. Bydd hyn yn sicrhau y gall y pwyllgor gyflawni ei swyddogaeth graffu'n briodol ac yn llawn. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 58 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a
gynhaliwyd ar 12 Hydref 2020 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Diweddariad Llafar gan Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe ar y Campysau Gwyddor Bywyd a Lles Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Steve Wilks i'r cyfarfod. Aeth yr Athro Wilks ati i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am
gyfraniad presennol Prifysgol Abertawe ym Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae'r
Brifysgol yn ymwneud ag ychydig o'r prosiectau ar wahanol lefelau o
gymhlethdod. Trafododd yr Athro Wilks y prosiect Gwyddorau Bywyd a Lles, sydd â gwerth
Bargen Ddinesig o £15m, a rhagwelir y bydd yn creu 1100 o swyddi ac yn
ychwanegu £150m o werth ychwanegol gros erbyn 2031. Mae'n cwmpasu dau gam. Yn sylfaenol, cam un yw cyllid y Fargen Ddinesig a fydd yn darparu cymorth
i fuddsoddi yn safleoedd Ysbyty Treforys a Sketty Lane. Bydd cam un yn datgloi
cam dau yn y bôn. Mae cam un yn ymwneud â gwella triniaethau ac adferiad fel y gall pobl
ddychwelyd i'w hamgylcheddau cartref yn gyflymach o lawer. Bydd y cam cyntaf yn
cynnwys adnewyddu'r ganolfan reoli yn Ysbyty Treforys, gan gysylltu arloesedd
clinigol a chyflwyno mynediad i'r safle yn Nhreforys. Bydd safle Sketty Lane yn cynnwys datblygu
Canolfan Technoleg Gwyddor Chwaraeon a Lles. Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol yn
awyddus i nodi partneriaid posib ar gyfer cydweithio. Holodd yr aelodau am effaith COVID-19 ar sefyllfa ariannol y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Wilks fod y Brifysgol mewn sefyllfa deg a chryf o safbwynt
ariannol. Mae'r Brifysgol yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig ac yn gallu
cyflawni'r prosiectau y maent wedi ymrwymo iddynt. Ni fu unrhyw newid nac
effaith ar ymrwymiad y Brifysgol i'r fargen yng ngoleuni'r pandemig. O safbwynt prifysgol, cwestiynodd yr aelodau berthnasedd presennol y naw
prosiect o fewn y Fargen Ddinesig. Yn benodol, cyfeiriodd yr aelodau at y
prosiect Isadeiledd Digidol ac a fyddai gofyniad i ofynion ariannu’r dyfodol
fwyafu'r prosiect. Gyda'r oes ddigidol yn symud yn gyflym ar hyn o bryd
oherwydd y pwysau a achosir gan y pandemig, gofynnodd yr aelodau a fyddai'r
prosiect yn dal i fod yn berthnasol. Roedd yr Athro Wilks yn hyderus y byddai'r
prosiect yn cyrraedd ei nodau perthnasol. Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ysgrifenedig am gysylltiad y Brifysgol
â phrosiectau'r Fargen Ddinesig er mwyn ei roi i'r aelodau. Diolchodd yr aelodau i'r Athro Wilks am ddod i'r cyfarfod. |
|
Yr wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Pentre Awel Cofnodion: Gohiriwyd yn unol â Chyhoeddiad y Cadeirydd. |
|
Diweddariad Llafar ar Gyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe Cofnodion: Rhoddodd swyddogion ddiweddariad llafar ar gyllid. Mae'r llythyr dyfarnu cyllid ar gyfer yr ail gyfran
o gyllid o £18m wedi'i dderbyn a'i gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor. Roedd yn cynnwys
cyfle i ddefnyddio £18m ychwanegol yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn y
llythyr dyfarnu. Mae hyn bellach wedi'i gymeradwyo gan bob person perthnasol ac
mae'r derbyniad wedi'i ddychwelyd i Lywodraeth Cymru. Disgwylir trydydd taliad
hefyd cyn diwedd y flwyddyn ariannol, sy'n ymwneud ag arian parod y dylid ei
dderbyn yn 2021. Cadarnhawyd nad oes unrhyw gyllid o'r gyfran
gyntaf wedi'i ddyrannu eto i brosiectau unigol. Roedd cytundebau ariannu'n cael
eu drafftio ar hyn o bryd ac maent yn destun adolygiad cyfreithiol. Cadarnhawyd
na ellir rhyddhau unrhyw gyllid nes bod y cytundebau ariannu perthnasol wedi'u
llofnodi. Cedwir yr arian yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin.
Dosberthir unrhyw log a gronnwyd rhwng y pedwar awdurdod sirol ar sail
fformiwla y cytunwyd arni. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn cynnal trafodaethau
cyson â Llywodraeth Cymru ac nid oes unrhyw risg i'r cyllid oherwydd unrhyw
gyfyngiadau amser sydd ar waith. Cadarnhaodd swyddogion, unwaith y bydd prosiect
wedi'i gymeradwyo a bod y cytundeb ariannu perthnasol wedi'i gymeradwyo, y bydd
yr arian yn cael ei ryddhau i'r prosiect. Yna bydd arian yn cael ei ryddhau i'r
prosiect yn awtomatig ar sail blynyddol, yn amodol ar Lywodraeth Cymru yn
rhyddhau eu cyfran o'r cyllid. Cydnabuwyd bod nifer y prosiectau o fewn y fargen
wedi newid o un ar ddeg i naw. Fodd bynnag, cadarnhaodd swyddogion nad oedd y
£241m gwreiddiol a ddyrannwyd i'r fargen wedi gostwng, a'i fod yn cael ei
addasu i ymgorffori'r newidiadau. Cadarnhaodd swyddogion fod y cytundebau ariannu
wedi'u drafftio i gynnwys elfen o atebolrwydd ynddynt, fel na chollir allbynnau
pob prosiect dros y 15 mlynedd. Mae arweinwyr y prosiect yn gyfrifol am sicrhau
bod yr allbynnau'n cyd-fynd â'r cynllun busnes, oni bai fod Llywodraeth Cymru
wedi cytuno ar newid. Mae dull adfachu ar waith ar bortffolio'r prosiect yn ei
gyfanrwydd ond dewis olaf yw hwn. Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am yr
wybodaeth ddiweddaraf. |
|
• Quarterly Performance Report • Integrated Assurance and Approval Plan • Portfolio Risk Register • Covid-19 Impact Assessment • Accounting Officer Review Action Plan Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Swyddfa Rheoli'r Portffolio
(CSRhP), drosolwg a diweddariad o'r prosiectau. Yn gryno, mae tri phrosiect
wedi'u cymeradwyo ac yn cael eu cyflawni, mae tri phrosiect yn aros am
gymeradwyaeth weinidogol, mae un prosiect wedi'i gymeradwyo'n rhanbarthol ac yn
aros i gael ei gyflwyno i'w gymeradwyo gan weinidogion ac mae dau brosiect yn
cael eu datblygu. Darparwyd amlinelliad i'r aelodau o'r holl brosiectau yn y Fargen Ddinesig
a lle ceir buddsoddiad. Dywedwyd wrth yr aelodau fod £241m o'r Fargen Ddinesig,
ond ar hyn o bryd mae £4.3m heb ei ddyrannu o hyd. Gall hyn newid yn ôl angen
yr achos busnes cyffredinol. Ar hyn o bryd amcangyfrifir mai cyfanswm y buddsoddiad yw £1.157 biliwn.
Mae hyn o fewn 10% o'r buddsoddiad gwreiddiol a amcangyfrifwyd yn 2017. Mae
gwerth ychwanegol gros a swyddi wedi cynyddu ar yr amcangyfrifon cyfredol o'r
rhagamcaniad gwreiddiol. Holodd yr aelodau pryd y mae ffigurau pendant yn debygol o gael eu
cyflwyno, o ran gwerth ychwanegol gros a swyddi a grëwyd. Dywedwyd y byddai adrodd ar y pethau y gellir
eu cyflawni go iawn yn ffocws allweddol wrth symud ymlaen, ac mae'r templedi
a'r mecanwaith ar gyfer adrodd amdanynt yn cael eu drafftio ar hyn o bryd.
Byddai'n ffocws allweddol i'r CSRhP wrth ddarparu adroddiadau chwarterol yn y
dyfodol. Bydd yr aelodau'n derbyn y ffigurau yn yr adroddiad chwarterol nesaf a
byddant hefyd yn cael eu cynnwys yn yr achos busnes. Dywedodd yr aelodau, yn ogystal â gwybod faint o swyddi a grëwyd, y byddai
aelodau hefyd yn hoffi gwybod pa fath o swyddi sy'n cael eu creu. At hynny,
byddai angen gwybodaeth am gontractau a gynhelir h.y. a yw cwmnïau lleol yn
cael y cyfleoedd angenrheidiol i gymryd rhan yn y datblygiadau. Bydd gan bob un o'r naw prosiect ei gynllun busnes ei hun a bydd monitro
fforddiadwyedd yn cael ei gynnal ar gyfer pob prosiect. Rhoddwyd rhywfaint o wybodaeth i'r aelodau am systemau adrodd am
lywodraethu a sicrwydd sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae proses monitro a gwerthuso
yn cael ei datblygu. Mae hyn yn cynnwys Adroddiad Blynyddol. Cafwyd amryw o
Adolygiadau Gateway hefyd lle mae achosion busnes yn cael eu herio gan dimau
allanol. Erbyn hyn, mae gan y Tîm CSRhP wyth aelod o staff ac maent yn gweithio
gyda'i gilydd yn llwyddiannus i sicrhau bod trefniadau ar waith fel y bo'n
briodol. Trafododd y CSRhP y Cynllun Sicrwydd a Chymeradwyo Integredig (IAAP) a'r
Gofrestr Risg. Ar hyn o bryd mae dwy risg goch wedi'u nodi. Darparwyd manylion
ynglŷn â sut mae'r risgiau hyn yn cael eu lliniaru. Mae'r asesiad risg
COVID-19 yn parhau i fod yn gymharol sefydlog ers ei gyflwyno diwethaf gerbron
y pwyllgor. Holodd yr aelodau am drefniadau caffael a mynegon nhw eu pryder y dylid talu busnesau lleol fel y bo'n briodol heb unrhyw oedi diangen. At hynny, dylid monitro hyn. Cadarnhawyd y gellir ychwanegu hyn at gofrestr risg pob prosiect a dylid rhoi gwybod am liniaru'r risg drwy'r broses hon. Yna gall y CSRhP ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cofnodion: Penderfynwyd:Ystyried ac adolygu prosiectau rhanbarthol, un ym mhob
cyfarfod: 1.
Cartrefi
fel Gorsafoedd Pŵer 2.
Sgiliau a
Doniau 3.
Isadeiledd
Digidol Penderfynwyd:Ymgorffori gwerth
ychwanegol gros/pethau y gellir eu cyflawni (terminoleg i'w chytuno gyda CSRhP)
fel rhan o'r gwaith monitro rhaglenni chwarterol |
|
Eitemau brys Any
urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson
pursuant to Section 100B (4) (b) of the Local Government Act 1972 Cofnodion: Dim. |