Agenda and minutes

Venue: Council Chamber Pembroke

Items
No. Item

1.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 93 KB

Minutes:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2019, yn destun diwygio'r rhestr o bobl bresennol i gynnwys y Cynghorydd J Jones, nid y Cynghorydd Jones.

 

2.

Cyflwyniadau ar brosiectau lleol ar gyfer Sir Gâr a diweddariad ar y Prosiect Isadeiledd Digidol pdf icon PDF 2 MB

Additional documents:

Minutes:

Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad am y prosiectau lleol canlynol ar gyfer Sir Gâr a'r prosiectau rhanbarthol a arweinir gan Sir Gâr:

 

Prosiect Gwyddorau Bywyd a Lles yn Llynnoedd Delta, Llanelli

 

Prosiect mawr aml-gam oedd hwn, ac roedd y Fargen Ddinesig yn rhan ohono. Cynghorwyd y pwyllgor y disgwylir i'r Fargen Ddinesig gyfrannu buddsoddiad o £40m, a fyddai'n arwain at y fantais economaidd arfaethedig o 1800 o swyddi a byddai'n creu effaith economaidd arfaethedig o £460m dros 15 mlynedd.

 

Derbyniodd yr Aelodau fanylion elfennau o brosiect y Fargen Ddinesig, sy'n cynnwys y canlynol:

 

·      datblygu busnesau'n seiliedig ar wyddorau bywyd

·      cyfleusterau addysg, sgiliau a hyfforddiant

·      uned glinigol â staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Nododd y pwyllgor fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i gymeradwyo ac y byddai brandio'r safle'n cael ei lansio'n fuan.  Disgwylir i gam un gael ei gwblhau erbyn diwedd 2022.

 

 

Yr Egin yng Nghaerfyrddin

 

Fe'i hagorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2018 ac mae Pencadlys S4C ar y llawr cyntaf. Mae cam un yn llawn a disgwylir i asesiad o'r budd economaidd i Sir Gâr a'r rhanbarth gael ei gwblhau'n fuan.

 

Disgwylir i ddau adeilad arall gael eu hadeiladu erbyn 2023 fel cam dau ac roedd yn bleser nodi bod llawer o ddiddordeb yn y cam datblygu hwn.

 

Prosiect Isadeiledd Digidol

 

Hysbyswyd y pwyllgor bod y prosiect hwn ar y cam cynllunio busnes a chwblhawyd cynllun busnes 5 achos sydd wedi'i drosglwyddo i Lywodraethau'r DU a Chymru i'w gymeradwyo.

 

Mae'r prosiect sy'n werth £50m yn cynnwys 3 elfen:

 

·      Coridor traffig;

·      Ardaloedd gwledig

·      Dinasoedd wedi'u cysylltu

 

Penodwyd rheolwr i symud hwn yn ei flaen ar sail rhanbarthol.

 

Y Prosiect Sgiliau a Doniau

 

Mae hwn ar y cam cynllun busnes uwch ac mae'n brosiect sy'n werth £30m a fydd yn rhoi sgiliau a doniau i gefnogi prosiectau eraill y Fargen Ddinesig.

Bydd trafodaethau gyda Llywodraethau'r DU a Chymru'n cychwyn yn fuan.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, cododd yr aelodau'r materion canlynol:

 

·      Mewn perthynas â'r Prosiect Gwyddorau Bywyd a Lles, gofynnodd yr aelodau sut mae'r manteision wedi'u nodi a beth yw'r elfennau gwahanol? Wrth ymateb, esboniodd y swyddogion yr ystyriwyd yr holl elfennau, o nifer swyddi adeiladu'r prosiect ofal iechyd i'r swyddi datblygu busnes.  Ceisiwyd sicrwydd ynghylch a oedd y dadansoddiad ar y manteision economaidd i'r ardal yn ddigon trylwyr. Byddai Swyddfa'r Rhaglen yn rhoi manylion i'r aelodau ynghylch sut cafodd hyn ei asesu, gan gynnwys nifer y swyddi ym mhob sector.

·      Mewn perthynas â datblygu'r tir, cadarnhaodd Swyddfa'r Rhaglen nad oedd y £467m yn cynnwys y costau datblygu o £200m ar gyfer pob darn o dir (cyfranodd y Fargen Ddinesig £40m) a chytunodd i ddosbarthu papurau ychwanegol i'r aelodau yn y cyswllt hwn.

·      Gofynnodd yr aelodau sut roedd darparwyr addysg uwch yn cyfranogi ym mhrosiectau'r Fargen Ddinesig ac fe'u cynghorwyd bod chwe phartner academaidd yn awyddus i gymryd rhan. Datblygir Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda phob un o'r partneriaid hynny.

·      Gofynnwyd i Swyddfa'r Rhaglen a fyddai'r prosiectau a amlinellwyd yn fuddiol i'r prinder staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda a'r prinder o staff  ...  view the full minutes text for item 2.

3.

Rhanbarthol gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.

Minutes:

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf oherwydd nad oedd yr Is-ganghellor yn gallu dod i'r cyfarfod heddiw.

 

 

 

4.

Diweddariad gan Swyddog Adran 151

 

-        Verbal update on Terms and Conditions from UK and Welsh

Governments on the release of monies.

 

 

Minutes:

Yn absenoldeb y Swyddog Adran 151 nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, cafodd yr aelodau ddiweddariad ar lafar gan R Arnold, a oedd yn falch o nodi y derbyniwyd cam cyntaf y gyllideb ar 23 Rhagfyr 2019, a oedd yn werth £18m. Trosglwyddwyd yr arian i'r cyfrif yn Sir Gâr, sef y corff atebol, a byddai hwn yn cael ei fuddsoddi yn y tymor byr yn unol â strategaeth rheolaeth trysorlys yr awdurdod. Byddai unrhyw elw'n cael ei ddiogelu ar gyfer y Fargen Ddinesig a gwneir penderfyniadau ynghylch sut i'w wario'n fuan. Caiff yr £18m ei ryddhau'n unol â'r trefniadau cyllido, a oedd yn y broses o gael eu cytuno. Byddai'r ddau brosiect (cynllun Glannau Abertawe a'r Egin) yn derbyn dwy ran o bymtheg o gyfanswm y grant.

 

Disgwylir i ni dderbyn taliad arall o £18m cyn diwedd blwyddyn ariannol 2019/2020, os bydd digon o gynnydd wedi'i wneud.

 

Gofynnodd yr aelodau ynghylch manylion y cytundeb ariannu ac fe'u sicrhawyd bod y cytundeb yn caniatáu rhyddhau dwy ran o bymtheg o gyfanswm y grant yn unig ac y byddai'r gweddill yn cael ei fuddsoddi. 

 

Cytunwyd y byddai'r Amodau a Thelerau a Chytundeb y Cyd-bwyllgor yn cael eu dosbarthu i aelodau'r cyd-bwyllgor craffu, er gwybodaeth. 

 

 

 

 

 

5.

Monitro Rhaglen pdf icon PDF 2 MB

-        Implementation Plan

-        Issues and Risk Log

-        Action Plan (Developed in response to various reviews)

Additional documents:

Minutes:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Craffu Fersiwn 22 y Cynllun Rhoi ar Waith, a oedd yn cynnwys prosiectau Castell-nedd Port Talbot sydd wedi'u hail-weithio.  Gofynnodd yr aelodau am ddiweddariad am benodiad Cyfarwyddwr y Rhaglen a nodwyd y penodwyd rhywun ym mis Rhagfyr 2019, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau'r swydd yn y gwanwyn. 

 

Mewn perthynas â Chofnod o Faterion y Prosiect, nodwyd bod dwy lefel o risg.  Roedd manylion risgiau lefel uchel y rhaglen wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ond roedd lefelau risgiau'r prosiect yn cael eu diweddaru o ganlyniad i'r newidiadau i brosiectau Castell-nedd Port Talbot. Nodwyd y byddai'r gofrestr risgiau'n cael ei hystyried gan y cyd-bwyllgor ar sail chwarterol a chytunwyd y byddai hyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor Craffu.

 

Roedd manylion yr adolygiadau a wnaed wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu, ynghyd â'r argymhellion o ganlyniad. Nodwyd bod 2 argymhelliad ar ôl.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

6.

Blaenraglen Waith pdf icon PDF 61 KB

Minutes:

Nododd yr aelodau'r Flaenraglen Waith bresennol a chytunodd ar y newidiadau canlynol:

 

·      Cynhelir y cyfarfod yn Sir Gâr

·      Gwahodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe i'r cyfarfod nesaf

·      Gwahodd Cyfarwyddwr y Rhaglen a benodwyd yn ddiweddar i'r cyfarfod nesaf, os bydd ar gael

·      Byddai'r ohebiaeth a dderbyniwyd ar ran y Cyd-bwyllgor, sef llythyr dyddiedig 20 Tachwedd 2019 mewn perthynas â newidiadau i'r cytundeb ar y cyd y gofynnwyd amdano gan y pwyllgor hwn, yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod nesaf, gan gynnwys diweddariad cyfreithiol

·      Ystyried cynnal pob cyfarfod yn y dyfodol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Craffu yn Sir Gâr.