Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Dydd Mawrth, 28ain Chwefror, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Remotely via Teams / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John  E-bost: c.l.john@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Mike Harvey - Eitem 4 – Personol, nad yw'n rhagfarnu - Mae'r Cynghorydd Harvey yn Swyddog Cynllunio i Leihau Troseddu gyda Heddlu De Cymru, ac mae wedi cynghori ar sawl prosiect ac mae'n dal i ymwneud â nhw.

 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 114 KB

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022 fel cofnod gwir a chywir.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Y Diweddaraf am Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau pdf eicon PDF 770 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau gan y Swyddog, Huw Mowbray. Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar dri phrosiect.

Arena'r Sgwâr Digidol - Abertawe

• 71-72 Ffordd y Brenin - Abertawe

Matrics Arloesedd ac Ardal ArloeseddPrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

 

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

5.

Y Diweddaraf am Gynnydd Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel pdf eicon PDF 719 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Lisa Willis, Rheolwr Rhaglenni Ariannu Strategol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd y Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel gan ganolbwyntio ar ddiweddariadau i'r saith prosiect cysylltiedig.

 

         Canolfan Dechnoleg y Bae

      Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru (SWITCH) gyda Phrifysgol Abertawe (partner cyflenwi)

      Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch (AMPF)

      Cronfa Datblygu Eiddo (PDF)

      Isadeiledd Gwefru Cerbydau Allyriadau Isel

      Prosiect Monitro Ansawdd Aer (AQMP)

      Prosiect Ysgogi Hydrogen gyda PDC

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ar ba rannau o ardal glannau Port Talbot oedd yn rhan o'r broses. Eglurodd Swyddogion mai ardal fenter y glannau fyddai hynny, sy'n cynnwys Parc Glannau'r Harbwr ac ystâd ddiwydiannol Baglan.

 

Roedd yr Aelodau hefyd am gadarnhau os oedd Llywodraeth Cymru'n berchen ar hen safle BP ac os oedd yn rhan o'r cynllun. Cadarnhaodd Swyddogion y prynwyd tir Parc Ynni Baglan gan Lywodraeth Cymru ac mae'r awdurdod yn bwriadu gosod y cyfleuster cynhyrchu gweithgynhyrchu uwch yno ac maent yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar hynny.

 

Gofynnodd yr Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaf am y Rhaglen Ysgogi Hydrogen ar dudalen 175 o'r adroddiad.

 

Eglurodd Swyddogion fod y Ganolfan Dechnoleg y Bae newydd ei hadeiladu ar Barc Ynni Baglan, ger Canolfan Ymchwil Hydrogen Prifysgol Cymru.

 

Eglurodd Swyddogion mai gallu bach sydd ar gael i gynhyrchu hydrogen ar hyn o bryd. Y cynnig yw y bydd yr ynni adnewyddadwy gormodol a gynhyrchir gan yr ynni adnewyddadwy o ganolfan dechnoleg Baglan yn cael ei droi'n hydrogen gan Ganolfan Ymchwil Prifysgol Cymru.

 

Mae Canolfan Ymchwil Prifysgol Cymru yn mynd i brynu pecyn electrolyswr mwy i drosi hydrogen gwyrdd. Oherwydd sawl problem o ran pŵer ar barc ynni Baglan, nid oedd modd gosod gwifrau caled o Ganolfan Dechnoleg y Bae i Ganolfan Hydrogen Prifysgol Cymru.

 

Dywedodd Swyddogion fod yr hydrogen gwyrdd yn cael ei ystyried at ddefnydd cerbydlu CBSCNPT ond bod rhagor o ymchwil yn cael ei wneud.

 

Eglurodd Swyddogion fod hydrogen yn fwy defnyddiol ar gyfer cerbydau mwy

yn hytrach na cherbydau llai. Rhoddwyd cerbydau sbwriel fel enghraifft o opsiwn mwy addas ar gyfer hydrogen.

 

Cytunwyd y byddai'r Swyddogion yn darparu nodyn mwy technegol i'r Aelodau ynglŷn â hyn.

 

Nododd yr Aelodau heriau isadeiledd a dosbarthu ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

 

6.

Asesiad o Gostau Adeiladu Cynyddol pdf eicon PDF 632 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Peter Austin o Gyngor Sir Caerfyrddin yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr asesiad o'r costau adeiladu cynyddol yn seiliedig ar yr adroddiad.

 

Priodolwyd ffactorau a oedd yn cyfrannu at gostau cynyddol y gwaith adeiladu yn arbennig i effaith y rhyfel yn Wcráin ar brisiau ynni. Er amlygwyd mai chwyddiant, Brexit a COVID-19 oedd y ffactorau eraill a oedd yn cyfrannu.

 

Amlygodd yr adroddiad fod y costau cynyddol hyn wedi eu hamcangyfrif ar ddiffyg o £30,000,000 ar draws y portffolio pe bai amgylchiadau'n parhau fel yr oeddent adeg yr adroddiad. Esboniodd Swyddogion yr opsiynau maent wedi'u hystyried i liniaru'r sefyllfa.

 

Roedd trafodaeth yn ymwneud â mater chwyddiant a'r cytundebau pris penodedig a gytunwyd eisoes yn yr adroddiad. Trafodwyd, o ran chwyddiant, fod pob posibilrwydd efallai na fydd y contractwyr yn gallu ysgwyddo'r cynnydd mewn costau a'r heriau ynghylch sut i gyflawni'r prosiectau am y pris a gytunwyd yn wreiddiol. Esboniodd Swyddogion y byddai'n fater o edrych ar yr hyn y gellid ei liniaru drwy gaffael deunyddiau amgen neu ddyluniad amgen.

 

Trafodwyd y gall fod angen gwario arian ychwanegol ar y prosiectau yn y pen draw i fodloni lleiafswm disgwyliadau'r prosiect neu efallai y bydd angen defnyddio dull 'peirianneg gwerth' i leihau'r hyn sy'n cael ei wneud.

 

Dywedodd Swyddogion y bydd trafodaethau eraill yn cael eu hystyried gyda chontractwyr ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud, enghraifft oedd trafod peidio â chael contract pris penodedig a chytuno ar bris sy'n realistig i'r farchnad.

 

Dywedodd Swyddogion fod pob prosiect isadeiledd yn y DU yn profi'r problemau a'r mesurau lliniaru hyn. Mae nodi cyllid pellach i lenwi'r bwlch wedi ei ystyried ar gyfer rhai prosiectau ac mae Swyddogion yn wyliadwrus ac yn monitro'r sefyllfa am unrhyw newidiadau i gostau ac ansawdd i liniaru lle y gallant.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

7.

Monitro Ariannol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022/23 - Sefyllfa Alldro Dros dro ar gyfer Chwarter 3 pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am Fonitro Ariannol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022/23 - Sefyllfa alldro dros dro ar gyfer chwarter 3 gan Anthony Parnell, Rheolwr Buddsoddi Pensiynau'r Trysorlys Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ar yr hyn a olygwyd gan 'y ddarpariaeth flynyddol ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio sy’n dod i ben'.

 

Eglurodd Swyddogion mai triniaeth gyfrifyddu ydyw, y bwriad yw bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gyfnod penodol am tua 5 mlynedd. Mae darpariaeth ar gyfer diswyddiadau pe baen nhw fyth yn digwydd.

 

Roedd yr Aelodau hefyd eisiau gwybod a yw'r tanwariant yn cael ei drosglwyddo i brosiectau eraill.

 

Dywedodd Swyddogion fod y tanwariant yn parhau gyda'r prosiectau am y tro ond ei fod yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan Swyddogion y prosiect. Yn dilyn y drafodaeth honno, holodd yr Aelodau hefyd pam mae’r adroddiad yn dweud bod yr Arena yn ailddosrannu. Dywedodd Swyddogion y byddai llithriant yn derm gwell ar gyfer hyn gan eu bod yn gorfod symud pethau oherwydd contractau, cyllid recriwtio etc. Y bwriad o hyd yw defnyddio'r arian.

 

Gofynnodd yr Aelodau pryd y bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn dod i ben. Dywedodd Swyddogion ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud ond mai swm cyfyngedig o arian sydd ar gael. Ar hyn o bryd mae'r Swyddogion yn credu bod digon o arian i gwblhau'r holl brosiectau o ran isadeiledd gan fod arian yn y banc eisoes pe bai angen ymestyn y cyfnod. Mae Swyddog Adran 151 yn ystyried yr hyn sydd ei angen.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

8.

Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe pdf eicon PDF 479 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau grynodeb o’r adroddiad monitro chwarterol gan Gyfarwyddwr Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Roedd gan Aelodau gwestiynau yn ymwneud â manteision gwireddu swyddi. Roedd Aelodau eisiau gwybod pryd roedd hi'n debygol y byddai swyddi'n cael eu creu. Dywedodd Swyddogion y bydd mwyafrif y swyddi'n cael eu creu ym maes adeiladu ac yn gysylltiedig ag ef yn ogystal â'n cael eu creu mewn busnesau sy'n ymwneud â'r prosiectau.

 

Defnyddiodd Swyddogion brosiect Morol Doc Penfro fel enghraifft lle mae swyddi wedi'u creu yn barod ond nid ydynt wedi cael eu hadrodd drwy'r system eto. Eglurodd Swyddogion hefyd fod yna fusnesau sy'n cael eu denu gan y prosiect a fydd yn helpu i greu swyddi. Eglurodd Swyddogion y bydd creu swyddi yn broses hir.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch a yw creu swyddi ar y trywydd iawn o ran yr amserlen. Dywedodd Swyddogion eu bod ar ei hôl hi yn seiliedig ar ddyddiad llofnodi 2017 ar gyfer y Fargen Ddinesig, fodd bynnag, mae'r Swyddogion yn credu eu bod ar y trywydd iawn pan fyddwch chi'n ystyried yr oedi cyn dechrau'r Fargen Ddinesig.

 

Awgrymodd Swyddogion hefyd y byddai gwerthusiad economaidd ar gyfer yr Arena yn darparu rhagor o ddealltwriaeth o effaith ar swyddi. Mae'r Arena yn gweithredu fel magned i fusnesau, swyddi, a thwf economaidd ac efallai y byddai'n ddefnyddiol gwneud hyn ar ôl blwyddyn. Dywedodd Swyddogion eu bod yn y broses o gael yr arfarniadau economaidd hynny wedi'u gwneud ar gyfer prosiectau unwaith y byddant wedi'u hadeiladu.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

9.

Adroddiad Asesu Lleihau Carbon y Portffolio pdf eicon PDF 515 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chraffwyd ar yr eitem hon.

 

10.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Dywedodd Swyddogion y gallai fod yn werth i'r Pwyllgor ystyried Pentre Awel a'r Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn unol â'r Blaenraglen Waith. Y rheswm am hyn oedd y byddai Pentre Awel yn cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y bwrdd ac roedd y Rhaglen Sgiliau a Thalentau newydd fynd drwy adolygiad Gateway allanol.

 

Nododd y Cadeirydd yr wybodaeth gan y Swyddogion.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi'r Blaenraglen Waith. Gofynnodd aelodau am yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau rhanbarthol isadeiledd digidol a fydd yn cael eu hychwanegu at y Blaenraglen Waith a bydd Swyddogion yn cael eu cynghori yn unol â hynny.

 

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100b (4)(B) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.