Lleoliad: Remotely via Teams / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr J Curtice, C Holley a J Beynon. Cadarnhawyd
y bydd yr aelodau'n ystyried eitemau 1, 2, 3, 6, 7, 11 a 12. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Y Diweddaraf am Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer PDF 710 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd
cyflwyniad i'r aelodau yn amlinellu'r prosiect. Mae'r prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn
un o naw prosiect Bargen Ddinesig, ac yn un o dri phrosiect rhanbarthol sy'n
cynnwys y pedwar awdurdod lleol. Nod y prosiect yw hwyluso'r broses o fabwysiadu
cartrefi a chanddynt ddyluniad ynni effeithlon a thechnolegau adnewyddadwy
integredig, mewn cartrefi newydd a stoc bresennol. Mae'r
amcanion buddsoddi'n cynnwys gwneud 10,300 o gartrefi'n addas ar gyfer y
dyfodol drwy gynyddu gwres fforddiadwy, lleihau tlodi tanwydd, gwella iechyd a
lles a chyflwyno rhaglen dai sy'n gynaliadwy, yn gost effeithlon ac yn
gyfannol. Amlinellwyd
y ffrydiau gwaith amrywiol i'r aelodau, gan gynnwys cronfa cymhellion ariannol
o £5.75 miliwn, cronfa cadwyn gyflenwi ranbarthol o £7 miliwn a chontract
monitro a gwerthuso technegol o £1 miliwn. Yn ychwanegol, er nad oes unrhyw
gyllideb yn atodedig, mae hefyd ffrwd sgiliau y bydd ganddi'r gallu i osod,
cynnal a chadw ac atgyweirio technoleg. Amlinellodd swyddogion yr argymhellion o'r
Adolygiad Asesiad Prosiect (AAP) a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf. Amlinellodd y
tîm asesu sgôr gyflawni/hyder o ambr/coch. Cafwyd chwe argymhelliad mewn ymateb
i'r adolygiad. Ym mis Tachwedd, daeth y tîm adolygu i asesu'r camau gweithredu
a roddwyd ar waith mewn ymateb i'r argymhellion. Roedd yr adolygiad yn dangos
asesiad cyflawni/hyder ambr. Roedd dau o'r argymhellion yn parhau fel thema o hyd, ac roedd pedwar wedi'u marcio
fel argymhellion a roddwyd ar waith. Gofynnodd
yr aelodau a oedd y ffigurau mewn perthynas â nifer y cartrefi'n realistig.
Cynghorodd swyddogion y darparwyd y ffigurau gan yr awdurdodau lleol dan sylw
a'u bod wedi'u cymryd o'r Cynlluniau Datblygu Lleol, fel bod fformiwla y tu ôl
iddynt. Nodwyd
bod swyddi a grëwyd, fel a nodwyd ar y dangosfwrdd yn ymwneud â chyfanswm y
swyddi a grëwyd o ganlyniad i'r prosiect yn ei gyfanrwydd ac nid yw'n benodol i
rôl y tîm yn unig. Nid
oedd swyddogion yn gallu darparu ffigur go iawn ar gyfer nifer y tai a oedd
wedi cael eu hadeiladu neu eu hôl-osod fel rhan o'r prosiect. Mae hyn yn rhan o'r broses fapio ar hyn o
bryd. Mae awdurdodau lleol ar gamau gwahanol o'u datblygiadau. Cadarnhawyd gan
swyddogion nad yw'r prosiect ei hun yn adeiladu cartrefi newydd, ond yn
hwyluso'r gwaith o osod y technolegau newydd yn y cartrefi. Amlinellodd
swyddogion y pwysigrwydd o rannu gwybodaeth ac arfer da, gan gynnwys unrhyw
gamgymeriadau a wnaed, ar draws y prosiect. Gan gynnwys yn y sector cyhoeddus a
phreifat o ran newid ymddygiadol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu’r newid
cadarnhaol yn gynt. Bydd yn sicrhau bod yr adeiledd tai yn cael ei ddiweddaru
a'i wella mor gyflym â phosib i wella ansawdd y safonau tai ar draws y bwrdd, a
mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Holodd
yr aelodau a fyddai'r cynnydd presennol mewn chwyddiant yn effeithio ar nifer
cyffredinol yr eiddo y gellir eu datblygu drwy'r prosiect. Nid oedd swyddogion
yn gallu cadarnhau hyn. Roedd
swyddogion yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i ddatblygu gweithlu medrus sy'n
gallu cyfrannu at gyflawni nodau’r prosiect. Cadarnhaodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cylch Gorchwyl Archwilio Mewnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022-23 PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni
chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Siarter Archwilio Mewnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe PDF 160 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni
chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol 2022/23 - Sefyllfa Alldro Dros Dro ar gyfer Chwarter 2 PDF 514 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud ag Adroddiad Monitro Ariannol 2022-23 fel a
fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Amlinellodd
swyddogion y manylion a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd yr aelodau at y
gwahaniaethau yn y gyllideb a nodwyd rhai rhesymau tebygol ar gyfer y rhain,
gan gynnwys COVID. Holodd yr aelodau a oedd risg y byddai'n anoddach mesur y
pethau rydym am eu cyflawni o ganlyniad i oedi mewn adeiladu? Cynghorodd
swyddogion, ar yr amod bod y prosiectau'n cael eu defnyddio i'w diben a
fwriedir, yna gellir parhau i asesu'r cynnyrch economaidd ar sail barhaus. Cadarnhaodd swyddogion fod yr holl arian wedi'i drosglwyddo
i'r awdurdod perthnasol o ran prosiect Yr Egin. Holodd yr aelodau a oedd y gwahaniaethau wedi cynyddu o
gymharu â blynyddoedd blaenorol. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi cynyddu gan
taw'r disgwyl oedd y byddai prosiectau wedi gwneud mwy o gynnydd erbyn y cam
hwn nag y maent wedi'i wneud mewn gwirionedd. Cadarnhawyd y byddai unrhyw log a
gynhyrchwyd yn cael ei ddyrannu i'r awdurdodau cyfansoddol. Byddai hyn yn
debygol o gydbwyso'r costau llog cynyddol yr aed iddynt yn erbyn benthyca o
ganlyniad i oedi mewn prosiectau a newid yn y farchnad. Yn dilyn craffu, nodwyd yr adroddiad. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe PDF 201 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Amlinellodd
swyddogion yr wybodaeth a gynhwyswyd yn Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen
Ddinesig Bae Abertawe a'r dangosfwrdd a ddarparwyd. Nododd
swyddogion y bu gwahaniaethau, fodd bynnag maent yn gweithio gyda swyddogion y
prosiect ac yn chwilio am fesurau lliniaru i benderfynu pam y mae hyn wedi
digwydd. Nodwyd y bu cynnydd o bump i chwe risg goch ar y
gofrestr risgiau. Mae'r cynnydd mewn risgiau coch o ganlyniad i danwariant a
ragwelir ar gyfer y flwyddyn. Ymchwilir i fesurau lliniaru mewn perthynas â
hyn. Cadarnhaodd
swyddogion y bu llawer o gyfathrebu cadarnhaol yn y farchnad am y prosiectau. Gofynnodd
yr aelodau am wybodaeth mewn perthynas â Cham 2 Yr Egin. Cadarnhaodd swyddogion
nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud o ran sut y bydd hyn yn symud ymlaen.
Mae swyddogion yn rhagweld y bydd Y Drindod Dewi Sant yn nodi opsiynau a
ffefrir ynghylch barhau â hyn yn gynnar y flwyddyn nesaf. O
ran cyllid partneriaeth, cadarnhawyd bod partneriaid yn cyfrannu at ariannu'r
swyddfa bortffolio bob blwyddyn. Rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai'r Swyddfa
Rheoli Prosiectau yn cael ei hariannu am 5 mlynedd, fodd bynnag nid oedd y
prosiectau wedi dechrau mor gyflym ag a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae'n debygol y
bydd y Swyddfa Brosiect yn cael ei hymestyn y tu hwnt i 5 mlynedd, fodd bynnag
nid oes model wedi cael ei greu i ystyried pa mor hir y bydd yn cael ei
hymestyn. Mae angen i swyddogaeth y swyddfa RhP gyd-fynd â chyflawni'r
prosiectau. Holodd
yr aelodau am y cydberthynas rhwng y Cyd-bwyllgorau Corfforedig a'r Fargen
Ddinesig, a'r berthynas rhyngddynt yn y dyfodol. Bydd angen ystyried hyn yn y
dyfodol. Nododd
yr aelodau'r adroddiad. |
|
Proses Datblygu Achos Busnes Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 194 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni
chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Fframwaith Sicrwydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 179 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ni
chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Trefniadau Sicrwydd Portffolio 'Gateway' PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ni
chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 13 KB Cofnodion: Gofynnodd
yr aelodau i wahodd y Cyng. Rob Stuart i gyfarfod yn y dyfodol i drafod dyfodol
y fargen ddinesig. Amlinellodd
swyddogion y prosiectau a fyddai'n cael eu cyflwyno i'r Cyd-bwyllgor nesaf. Nodwyd
yr eitem hon er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid
oedd unrhyw eitemau brys. |