Lleoliad: Remotely via Teams / Hybrid meeting in Council Chamber
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Brian
Hall a Jan Curtice, a Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Rhaglenni. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Adroddiadau Monitro Chwarterol PDF 579 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Phil Ryder, Rheolwr Portffolio, a dywedodd fod dwy elfen iddo; y
dangosfwrdd a chrynodeb a ddarparwyd gan y prosiectau. Amlinellodd y data a
gasglwyd o fewn y dangosfwrdd, a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. Roedd yr agweddau
allweddol o'r prif raglenni a'r prosiectau fel a ganlyn: -
Canolfan Dechnoleg y Bae;
roedd yn parhau i gymryd ymweliadau gan ddarpar denantiaid, gan obeithio gweld
tenantiaid yn meddiannu'r rhain a llenwi’r adeilad yn fuan. -
Cronfa Datblygu Eiddo; fe’i
lansiwyd ym mis mynegiannau o ddiddordebau wedi'u cwblhau ac roeddent yn cael
eu hadolygu gan dîm y prosiect. -
Prosiect Morol Doc Penfro
(PMDP); roedd yr elfen isadeiledd wedi cychwyn gyda datblygiad y llithrfa. Roedd
y problemau ariannol oherwydd y newid i ofynion y llithrfa bellach wedi’u
goresgyn. -
Parth Arddangos Sir Benfro
(PASB); dyfarnwyd cwmpasu amgylcheddol a chaffael technegol, ac roedd ffrydiau
gwaith technegol ac amgylcheddol ar waith. -
Ardal Prawf Ynni Morol (META);
Cynhaliodd staff y prosiect META weithdy ar gyfer 10 myfyrwyr peirianneg
blwyddyn 10 yng Ngholeg Sir Benfro gan gynyddu ymwybyddiaeth o'r diwydiant a’r
cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn Sir Benfro. -
Canolfan Ragoriaeth Peirianneg
Ynni Morol (MEECE); roeddent wedi rhoi cyflwyniad i Fforwm Gweithgynhyrchu ac
Arloesedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Hefyd cyflwynwyd papur ganddynt yng
Nghynhadledd Peirianneg Cefnforoedd, Alltraeth a'r Arctig (OMAE) yn Hamburg. -
Pentre Awel; Cymeradwywyd y
Cais Materion a Gadwyd yn Ôl (RMA) yn unfrydol yn y Pwyllgor Cynllunio ym mis
Mehefin 2022. Mae partneriaeth strategol â Phrifysgol Caerdydd ar waith i
arwain ar swyddogaethau arloesedd a datblygu busnes, gan adeiladu ar eu
partneriaeth a'u harbenigedd arloesedd. -
Ardal Ddigidol Dinas Abertawe
a'r Glannau; Enillodd tîm 'Y Tu Hwnt i Frics a Morter' Cyngor Abertawe glod
mawr yng nghynllun Gwobrau Go y DU gyfan am eu gwaith ar brosiect Bae Copr.
Roedd safle 71/72 Ffordd y Brenin yn parhau ac ar y trywydd iawn. -
Cartrefi fel Gorsafoedd
Pŵer (HAPS); roedd cytundebau ariannu bellach ar waith, a chawsant eu
hadolygiad perfformiad blynyddol gyda thîm Swyddfa Archwilio Cymru ym mis
Gorffennaf 2022. Gwnaed argymhellion yn dilyn hyn, sy’n cael eu rhoi ar waith
ar hyn o bryd. -
Rhaglen Isadeiledd Digidol;
roedd nifer o arbenigwyr wedi'u penodi ac roedd yr amserlenni cyflwyno wedi’u
gorffen. -
Prosiect Campysau; roedd tri
aelod pellach o'r tîm wedi'u cyflogi i gefnogi'r prosiect, ac roedd yr asesiad
ecolegol wedi'i gynnal ar safle Lôn Sgeti. -
Yr Egin; roedd y broses
Hysbysiad Adnabod Newid wedi dechrau'n ffurfiol. Roedd yr ateb cyflwyno a
ffefrir ar gyfer cam dau’n cael ei drafod ar hyn o bryd i sicrhau bod yr hyn y
bwriedid ei gyflwyno’n addas at y diben, gan fod yr achos busnes wedi'i
ysgrifennu tua phum mlynedd yn ôl. -
Sgiliau a Thalent; Mae'r cais
cyntaf am y prosiect peilot wedi'i adolygu gan y Grŵp Datrys Sgiliau sydd
wedi argymell ei fod yn cael ei gymeradwyo i'r Partneriaeth Dysgu a Sgiliau
Rhanbarthol (PDSRh). Yn dilyn trafodaeth y PDSRh fe’i cymeradwywyd. Mewn ymateb i ymholiadau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Adroddiad Monitro Ariannol PDF 1 MB Cofnodion: Richard Arnold, Rheolwr Cyllid, fu'n cyflwyno ac yn
amlinellu'r adroddiad. Roedd yr adroddiad yn manylu ar sefyllfa alldro diwedd
blwyddyn ragweledig y Cyd-bwyllgor a'r Gronfa Buddsoddi mewn Portffolios. Cododd aelodau'r Pwyllgor Craffu bryderon ynghylch
yr ymyriadau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus, y gwahaniaethau ariannol
a brofwyd oherwydd yr oedi o ran caffael a thendro ar gyfer adeiladu, a holwyd
a ellid darparu'r portffolio o fewn y 15 mlynedd a drefnwyd ai peidio.
Cadarnhawyd y byddai effaith COVID-19, chwyddiant a'r cynnydd mewn costau
adeiladu yn cael effaith; fodd bynnag, roedd cyfran fawr o'r portffolio eisoes
yn cael ei gyflwyno, a fyddai'n helpu i liniaru hyn. Awgrymwyd hefyd pe bai hyn
yn bryder i'r Pwyllgor Craffu, y gellid ei ychwanegu at y dangosfwrdd i’w
fonitro. PENDERFYNWYD: Nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad ac
esboniodd fod yr Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am roi barn ynghylch a yw'r
Datganiad o Gyfrifon yn dangos darlun gwir a theg o sefyllfa Cyd-bwyllgor
Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar 31 Mawrth 2022. Crynhodd y swyddog
ganfyddiadau'r archwiliad a gynhaliwyd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD: Y byddai’r pwyllgor yn nodi’r adroddiad. |
|
Datganiad o Gyfrifon y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2021/22 PDF 513 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Richard Arnold, Rheolwr Cyllid, yr
adroddiad ac esboniodd mai Cyngor Sir Gâr, fel y Corff Atebol, oedd yn gyfrifol
am stiwardiaeth ariannol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Dyma’r ail flwyddyn y
bu'n rhaid i Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe lunio Datganiad o
Gyfrifon yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, fel y'i
diwygiwyd yn 2018. PENDERFYNWYD: Y byddai’r pwyllgor yn nodi’r adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2021/2022 PDF 409 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Amlinellodd Phil Ryder, Rheolwr Portffolio, yr
adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o weithgarwch allweddol i'r Cyd-bwyllgor
Craffu ar gyfer y 12 mis diwethaf a gweithgarwch arfaethedig ar gyfer y 12 mis
nesaf ynghyd ag astudiaethau achos o waith wedi'i gwblhau ac agweddau amrywiol eraill
sy'n ymdrin â chyflawniadau cyflawni a manteision/canlyniadau arfaethedig. PENDERFYNWYD: Y byddai’r pwyllgor yn nodi’r adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100b (4)(B) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |