Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Penodi Cadeirydd ac
Is-gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2022/23. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod y
Pwyllgor yn penodi'r Cynghorydd Rob James yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Craffu
Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig. PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor
yn penodi'r Cynghorydd Tim Bowen yn Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Craffu
Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig.
|
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Nid oedd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau. |
|
I aelodau dderbyn Cylch Gorchwyl Cyd-bwyllgor
Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Mike Shaw, Ymgynghorydd
Cyfreithiol i'r Pwyllgor Craffu, a thynnodd sylw at y weithred amrywio’n
ymwneud â diwygiad Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ac yn
benodol, Cworwm y Pwyllgor Craffu. Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd, cadarnhawyd bod
nifer y Cworwm wedi'i leihau o wyth i chwech, ond bod angen Aelod o bob
awdurdod o hyd. PENDERFYNWYD: Cytunodd
yr Aelodau ar yr adroddiad. |
|
Adroddiadau Chwarterol/Adroddiad Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe PDF 575 KB Craffu ar yr adroddiadau a drafodwyd gan
Gyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn ei gyfarfod ar 23 Mehefin 2022. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Jonathan Burnes, Rheolwr y Rhaglen, yr
adroddiad a oedd yn amlinellu'r Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer
Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Roedd Adroddiad Prif Bwyntiau Bargen
Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA) yn manylu ar y cynnydd misol a wnaed a'r
gweithgareddau a gynlluniwyd ar gyfer rhaglenni a phrosiectau sy’n rhannau
hanfodol o bortffolio BDdBA. Cytunwyd y byddai’r Rheolwr Rhaglenni’n dosbarthu
dogfen i Aelodau'r Pwyllgor Craffu yn nodi'r gwahanol acronymau a ddefnyddiwyd
yn yr adroddiad. Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd gan y Pwyllgor
Craffu, cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn cael gwybod am y risgiau yn y
dyfodol; fodd bynnag, byddai'r dangosfwrdd yn amlygu risgiau coch ac eitemau
ambr sy’n codi'n unig. Cadarnhaodd Swyddogion a oedd yn y cyfarfod fod y
prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn dal i fod ar ei gamau cynnar,
fodd bynnag roedd rheolwr prosiect bellach wedi'i recriwtio. Roedd y broses
gaffael ar gyfer y dechnoleg a'r systemau’n parhau, ac roedd swyddi'n mynd i
gael eu creu'n fuan iawn. Mynegodd yr Aelodau eu diddordeb mewn ymweld â’r
safle. O ran creu swyddi, cadarnhawyd y byddai tua 9,700 o
swyddi'n cael eu creu ar draws yr holl brosiectau. Ar hyn o bryd, y disgwyl
oedd y byddai 1,800 o swyddi’n cael eu creu erbyn diwedd 2023, a 2,500 o swyddi
ychwanegol yn 2024. Cytunodd Swyddogion i gynnwys dadansoddiad o'r swyddi yn y
dangosfwrdd monitro yn y dyfodol. Mynegodd yr Aelodau bryder am y contractwyr mawr
sy'n ymgymryd â'r prosiectau, yn hytrach na chwmnïau lleol. Awgrymodd yr
Aelodau y dylai cwmnïau adeiladu llai o Gymru wneud cais ar y cyd ar gyfer un o'r
prosiectau. Esboniodd y Swyddogion y byddai angen i gontractwyr unigol wneud
cais am lawer o'r prosiectau hyn er mwyn ennill, sy'n defnyddio llawer o
adnoddau, ac yn anffodus nid oedd maint a graddfa'r swyddi’n aml yn addas. Mewn ymateb i ymholiadau am y gyllideb, cadarnhawyd
bod cyfraddau chwyddiant yn cynyddu'n uwch na'r disgwyl; fodd bynnag, roedd
disgwyl y byddai modd cyflawni'r prosiectau o hyd heb arian ychwanegol. Yn
ffodus, adeiladwyd Arena Abertawe yn bennaf yn ystod y pandemig, a daeth hyn o fewn
y gyllideb. Holodd yr Aelodau faint o arian oedd ar gael gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer blynyddoedd 10 i 15. Cadarnhawyd bod BDdBA yn disgwyl
derbyn tua £2 filiwn y flwyddyn. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i ddosbarthu'r
ddogfen dadansoddi ffigurau pennawd i holl Aelodau newydd y Pwyllgor Craffu. |
|
Darparu Dogfennaeth i'r Cyd-bwyllgor PDF 301 KB Craffu ar yr adroddiad a drafodwyd yng nghyfarfod
Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022. Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad a oedd yn
amlinellu’r bwriad i ddarparu dogfennaeth i'r Cyd-bwyllgor a'r Cyd-bwyllgor
Craffu yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys y cynnig i leihau adroddiadau hir i
ymagwedd dangosfwrdd yn y dyfodol. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am yr
adroddiad, ond esboniodd y byddai'n fwy priodol i'r Pwyllgor Craffu barhau i
dderbyn yr un lefel o wybodaeth ag o'r blaen, yn ogystal â chyflwyno
dangosfwrdd. Awgrymodd gyfarfod â Swyddogion i edrych ar opsiynau a fyddai'n
addas i'r Cyd-bwyllgor Craffu ac yna cynnig y rhain i Aelodau'r Cyd-bwyllgor
Craffu i'w trafod ar ddyddiad pellach. Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor ohirio'r eitem hon tan
gyfarfod yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod yr holl opsiynau ar gael iddynt, yn
dilyn trafodaeth rhwng y Cadeirydd a'r Swyddogion.
|
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 13 KB Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gael sesiwn ar wahân i
ddatblygu’r Flaenraglen Waith ar gyfer 2022/2023. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100b (4)(B) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |