Lleoliad: Council Chamber Pembroke
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 93 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a
gynhaliwyd ar 28 Hydref 2019, yn destun diwygio'r rhestr o bobl bresennol i
gynnwys y Cynghorydd J Jones, nid y Cynghorydd Jones. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad am y prosiectau
lleol canlynol ar gyfer Sir Gâr a'r prosiectau rhanbarthol a arweinir gan Sir
Gâr: Prosiect Gwyddorau Bywyd a Lles yn Llynnoedd Delta,
Llanelli Prosiect mawr aml-gam oedd hwn, ac roedd y Fargen
Ddinesig yn rhan ohono. Cynghorwyd y pwyllgor y disgwylir i'r Fargen Ddinesig
gyfrannu buddsoddiad o £40m, a fyddai'n arwain at y fantais economaidd
arfaethedig o 1800 o swyddi a byddai'n creu effaith economaidd arfaethedig o £460m
dros 15 mlynedd. Derbyniodd yr Aelodau fanylion elfennau o brosiect
y Fargen Ddinesig, sy'n cynnwys y canlynol: ·
datblygu busnesau'n seiliedig
ar wyddorau bywyd ·
cyfleusterau addysg, sgiliau a
hyfforddiant ·
uned glinigol â staff Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda Nododd y pwyllgor fod caniatâd cynllunio amlinellol
wedi'i gymeradwyo ac y byddai brandio'r safle'n cael ei lansio'n fuan. Disgwylir i gam un gael ei gwblhau erbyn
diwedd 2022. Yr Egin yng Nghaerfyrddin Fe'i hagorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2018 ac
mae Pencadlys S4C ar y llawr cyntaf. Mae cam un yn llawn a disgwylir i asesiad
o'r budd economaidd i Sir Gâr a'r rhanbarth gael ei gwblhau'n fuan. Disgwylir i ddau adeilad arall gael eu hadeiladu
erbyn 2023 fel cam dau ac roedd yn bleser nodi bod llawer o ddiddordeb yn y cam
datblygu hwn. Prosiect Isadeiledd Digidol Hysbyswyd y pwyllgor bod y prosiect hwn ar y cam
cynllunio busnes a chwblhawyd cynllun busnes 5 achos sydd wedi'i drosglwyddo i
Lywodraethau'r DU a Chymru i'w gymeradwyo. Mae'r prosiect sy'n werth £50m yn cynnwys 3 elfen: ·
Coridor traffig; ·
Ardaloedd gwledig ·
Dinasoedd wedi'u cysylltu Penodwyd rheolwr i symud hwn yn ei flaen ar sail
rhanbarthol. Y Prosiect Sgiliau a Doniau Mae hwn ar y cam cynllun busnes uwch ac mae'n
brosiect sy'n werth £30m a fydd yn rhoi sgiliau a doniau i gefnogi prosiectau
eraill y Fargen Ddinesig. Bydd trafodaethau gyda Llywodraethau'r DU a
Chymru'n cychwyn yn fuan. Yn dilyn y cyflwyniadau, cododd yr aelodau'r
materion canlynol: ·
Mewn perthynas â'r Prosiect
Gwyddorau Bywyd a Lles, gofynnodd yr aelodau sut mae'r manteision wedi'u nodi a
beth yw'r elfennau gwahanol? Wrth ymateb, esboniodd y swyddogion yr ystyriwyd
yr holl elfennau, o nifer swyddi adeiladu'r prosiect ofal iechyd i'r swyddi
datblygu busnes. Ceisiwyd sicrwydd
ynghylch a oedd y dadansoddiad ar y manteision economaidd i'r ardal yn ddigon
trylwyr. Byddai Swyddfa'r Rhaglen yn rhoi manylion i'r aelodau ynghylch sut
cafodd hyn ei asesu, gan gynnwys nifer y swyddi ym mhob sector. ·
Mewn perthynas â datblygu'r
tir, cadarnhaodd Swyddfa'r Rhaglen nad oedd y £467m yn cynnwys y costau
datblygu o £200m ar gyfer pob darn o dir (cyfranodd y Fargen Ddinesig £40m) a
chytunodd i ddosbarthu papurau ychwanegol i'r aelodau yn y cyswllt hwn. ·
Gofynnodd yr aelodau sut roedd
darparwyr addysg uwch yn cyfranogi ym mhrosiectau'r Fargen Ddinesig ac fe'u
cynghorwyd bod chwe phartner academaidd yn awyddus i gymryd rhan. Datblygir
Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda phob un o'r partneriaid hynny. · Gofynnwyd i Swyddfa'r Rhaglen a fyddai'r prosiectau a amlinellwyd yn fuddiol i'r prinder staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda a'r prinder o staff ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Rhanbarthol gan Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf
oherwydd nad oedd yr Is-ganghellor yn gallu dod i'r cyfarfod heddiw. |
|
Diweddariad gan Swyddog Adran 151 -
diweddariad ar lafar am amodau a thelerau gan Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru ar gyfer rhyddhau arian. Cofnodion: Yn absenoldeb y Swyddog Adran 151 nad oedd yn
bresennol yn y cyfarfod heddiw, cafodd yr aelodau ddiweddariad ar lafar gan R
Arnold, a oedd yn falch o nodi y derbyniwyd cam cyntaf y gyllideb ar 23 Rhagfyr
2019, a oedd yn werth £18m. Trosglwyddwyd yr arian i'r cyfrif yn Sir Gâr, sef y
corff atebol, a byddai hwn yn cael ei fuddsoddi yn y tymor byr yn unol â
strategaeth rheolaeth trysorlys yr awdurdod. Byddai unrhyw elw'n cael ei
ddiogelu ar gyfer y Fargen Ddinesig a gwneir penderfyniadau ynghylch sut i'w
wario'n fuan. Caiff yr £18m ei ryddhau'n unol â'r trefniadau cyllido, a oedd yn
y broses o gael eu cytuno. Byddai'r ddau brosiect (cynllun Glannau Abertawe a'r
Egin) yn derbyn dwy ran o bymtheg o gyfanswm y grant. Disgwylir i ni dderbyn taliad arall o £18m cyn
diwedd blwyddyn ariannol 2019/2020, os bydd digon o gynnydd wedi'i wneud. Gofynnodd yr aelodau ynghylch manylion y cytundeb
ariannu ac fe'u sicrhawyd bod y cytundeb yn caniatáu rhyddhau dwy ran o bymtheg
o gyfanswm y grant yn unig ac y byddai'r gweddill yn cael ei fuddsoddi. Cytunwyd y byddai'r Amodau a Thelerau a Chytundeb y
Cyd-bwyllgor yn cael eu dosbarthu i aelodau'r cyd-bwyllgor craffu, er
gwybodaeth. |
|
- Cynllun Rhoi ar Waith - Cofnod o Risgiau a Phroblemau - Cynllun
Gweithredu (Datblygwyd er mwyn ymateb i adolygiadau amrywiol) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Craffu Fersiwn 22 y
Cynllun Rhoi ar Waith, a oedd yn cynnwys prosiectau Castell-nedd Port Talbot
sydd wedi'u hail-weithio. Gofynnodd yr
aelodau am ddiweddariad am benodiad Cyfarwyddwr y Rhaglen a nodwyd y penodwyd
rhywun ym mis Rhagfyr 2019, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau'r swydd
yn y gwanwyn. Mewn perthynas â Chofnod o Faterion y Prosiect,
nodwyd bod dwy lefel o risg. Roedd
manylion risgiau lefel uchel y rhaglen wedi'u cynnwys yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, ond roedd lefelau risgiau'r prosiect yn cael eu diweddaru o
ganlyniad i'r newidiadau i brosiectau Castell-nedd Port Talbot. Nodwyd y
byddai'r gofrestr risgiau'n cael ei hystyried gan y cyd-bwyllgor ar sail
chwarterol a chytunwyd y byddai hyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyd-bwyllgor
Craffu. Roedd manylion yr adolygiadau a wnaed wedi'u
cynnwys yn y cynllun gweithredu, ynghyd â'r argymhellion o ganlyniad. Nodwyd
bod 2 argymhelliad ar ôl. |
|
Cofnodion: Nododd yr aelodau'r Flaenraglen Waith bresennol a
chytunodd ar y newidiadau canlynol: ·
Cynhelir y cyfarfod yn Sir Gâr ·
Gwahodd Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe i'r cyfarfod nesaf ·
Gwahodd Cyfarwyddwr y Rhaglen
a benodwyd yn ddiweddar i'r cyfarfod nesaf, os bydd ar gael ·
Byddai'r ohebiaeth a
dderbyniwyd ar ran y Cyd-bwyllgor, sef llythyr dyddiedig 20 Tachwedd 2019 mewn
perthynas â newidiadau i'r cytundeb ar y cyd y gofynnwyd amdano gan y pwyllgor
hwn, yn cael ei drafod yn ystod y cyfarfod nesaf, gan gynnwys diweddariad
cyfreithiol ·
Ystyried cynnal pob cyfarfod
yn y dyfodol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Craffu yn Sir Gâr. |