Cofnodion drafft

Lleoliad arfaethedig: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fudd

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd M Harvey                Parthed Eitem Agenda 4 ar Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer gan ei fod yn cael ei gyflogi fel Swyddog Cynllunio i Leihau Troseddu gyda Heddlu De Cymru ac wedi rhoi cyngor ar ddylunio i atal trosedd ar ddatblygiad tai cymdeithasol, a chadarnhaodd fod ganddo hawl i siarad a phleidleisio.

 

 

2.

Ethol Cadeirydd (ac Is-Gadeirydd, os yw'n briodol) pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Penodi y Cynghorydd R James a'r            Cynghorydd M Harvey fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Cyd-bwyllgor Craffu yn eu tro, am gyfnod o ddwy flynedd, i fod ar waith o ddyddiad y cyfarfod hwn.

 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2019 pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2019 fel cofnod cywir.

 

 

4.

Cartrefi fel Gorsafoedd P?er a'r Camau Nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd Gareth Nutt, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) gyflwyniad i'r Cyd-bwyllgor Craffu ar y prosiect rhanbarthol, Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer, dan arweiniad CBSCNPT.  Dywedodd wrth aelodau nad oedd hi wedi bod yn bosib trefnu ymweliad safle i weld y prosiect heddiw am nad oedd y safle'n ddiogel.  Fodd bynnag, cadarnhaodd y byddai ymweliad yn cael ei drefnu cyn gynted ag y byddai'r gwaith adeiladu wedi ei gwblhau.

 

Nod y prosiect oedd darparu cartrefi clyfar, carbon isel, sy'n ynni effeithlon drwy ymagwedd gydlynol ar draws y Ddinas-ranbarth gan gyflwyno cyfuniad o adeiladau newydd (3,300) ac ôl-osod (7,000).  Gobeithiwyd y byddai'r prosiect yn ysgogi'r cadwyni cyflenwi lleol ac yn cynnal gweithlu hynod fedrus.  Byddai'r prosiect yn cael ei fonitro a'i werthuso yn y dyfodol er mwyn casglu tystiolaeth am ei effeithlonrwydd ynni, ei effaith ar iechyd a pha mor addas ydyw i fyw ynddo.  Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd â’r agenda ddatgarboneiddio a'r nod yw ceisio lleihau tlodi tanwydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cynlluniau’n cael eu datblygu ar hyn o bryd yn y pedwar sir. Gobeithiwyd y byddai cymeradwyaeth gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru'n dilyn y gweithdy a oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Medi a fyddai wedyn yn galluogi tîm rhaglen i gael ei sefydlu er mwyn cyflawni uchelgeisiau ehangach y rhaglen. 

 

Yn dilyn y cyflwyniad, nododd yr aelodau'r pwyntiau canlynol, a rhoddodd y Cyfarwyddwr yr ymatebion cysylltiedig canlynol:

 

·        Yn ystod pum mlynedd y rhaglen gyflwyno, pa mor realistig oedd y rhifau targed ar gyfer adeiladau newydd ac eiddo ôl-osod? Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr nad oedd targedau tai fforddiadwy yn cael eu cyflawni ar draws y rhanbarth a dywedwyd wrthynt y rhagwelir y byddai Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn helpu i fynd i'r afael â hyn.

·        Sut bydd Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn gweithio mewn awdurdod lleol heb stoc tai?  Byddai'r awdurdod yn gweithio drwy'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

·        Holodd yr aelodau ynghylch cost-effeithiolrwydd yr amrywiol fodelau y gellid eu defnyddio i gyflwyno cartrefi fel gorsafoedd pŵer. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr mai'r nod oedd cyflwyno tai a fyddai'n ynni-gadarnhaol, er y byddai angen cynnal dadansoddiad o'r gwahanol fodelau o Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer er mwyn nodi manteision cost gwahanol ymagweddau. Byddai hyn yn helpu i nodi modelau y gellid eu mabwysiadu, eu safoni a'u cynyddu.

·        Mewn perthynas â'r cynllun ym Mhontardawe, roedd gan yr aelodau ddiddordeb mewn nodi mai datblygiad sector preifat oedd hwn a nodwyd bod Cyngor CNPT wedi gallu hwyluso hyn trwy gytundeb dir gyda'r buddsoddwr. Roedd yr aelodau'n siomedig â chyfranogaeth cyfyngedig y sector preifat yn gyffredinol.

·        Mewn perthynas â'r gwahanol fodelau o Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer sy'n cael eu datblygu ar draws rhanbarth y Fargen Ddinesig, gofynnodd yr aelodau a fyddai pob un o'r rhain yn cael eu datblygu a dywedwyd wrthynt fod y Cyfarwyddwr am gadw pob math o Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer o fewn y prosiect er mwyn caniatáu gwerthuso'r gwahanol ymagweddau er mwyn nodi'r opsiynau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adborth o'r cyfarfod gyda Swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd aelodau adborth o gyfarfod diweddar y Cadeirydd gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

Gobeithiwyd y byddai deialog gwell gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ond hefyd gyda'r byrddau iechyd a phartneriaid eraill yn y dyfodol.

 

6.

Y diweddaraf ar Gytundeb Gweithio ar y Cyd pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Ystyriodd y pwyllgor craffu y newidiadau i'r Cytundeb Gweithio ar y Cyd a gymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor ar 30 Gorffennaf 2019.  Byddai'r fersiwn ddiwygiedig, oedd yn atodedig i'r adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei hanfon at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er gwybodaeth ac yn destun cymeradwyaeth gan bob partner awdurdod lleol.

 

Gofynnodd y pwyllgor craffu fod y Cyd-bwyllgor yn ystyried y canlynol:

 

·        Lleihau'r cworwm i 6 ar gyfer y cyd-bwyllgor craffu;

·        Ailysgrifennu pwynt 9.3 i'w wneud yn fwy eglur;

Bod y cafeat a nodwyd yn y Cytundeb Gweithio ar y Cyd yn rhoi pwerau i graffu'r holl brosiectau'n cael ei ddileu - h.y. y gofyniad i gael caniatâd pwyllgorau craffu perthnasol lleol.

 

 

7.

Diweddariad ar y cynnydd a wnaed gan y Cyd-bwyllgor ar y Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd mewn ymateb i'r adolygiadau amrywiol pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyd-bwyllgor Craffu gyflwyniad gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor, y Cynghorydd Rob Stewart, ar gynnydd y cynllun gweithredu a ddatblygwyd mewn ymateb i'r adolygiadau amrywiol. 

 

Dywedodd fod y newidiadau i'r Cytundeb Gweithio ar y Cyd, fel y trafodwyd yn yr adroddiad blaenorol, wedi'u cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor ac y byddent yn cael eu hanfon cyn hir at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Dywedodd nad oedd yn disgwyl rownd bellach o drafodaethau yn hyn o beth.

 

Mewn perthynas â Chyfarwyddwr y Rhaglen - roedd yr hysbyseb bellach ar waith yn fyw a'r disgwyl oedd y byddai ymgeisydd addas yn cael ei benodi.

 

Mewn perthynas â Phrosiect Digidol Abertawe a'r Egin, disgwyliwyd yr amodau a'r telerau terfynol cyn bo hir a byddai hyn yn caniatáu i'r Cyd-bwyllgor fanteisio ar gyllid gwerth £18 miliwn.

Roedd £18 miliwn arall ar gael cyn y Nadolig ar yr amod y bodlonir amrywiol amodau

 

Nodwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi newid ei brosiectau ac y byddai'r rhain yn cael eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor ym mis Medi. Yn ychwanegol, nodwyd bod y Ganolfan Iechyd Da yn cael ei adolygu gan Gyngor Sir Gâr.

 

Roedd cam cyntaf y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Abertawe bellach wedi'i feddiannu ac mae'r rhaglen yn gweithio tuag at gartrefi ynni-gadarnhaol.  Gobeithiwyd y byddai hyn yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a bod adeiladau newydd yn mabwysiadu'r dull hwn yn y dyfodol.

 

Roedd aelodau'n falch bod mwy o arian i ddod, fodd bynnag, gofynnwyd pam bod y swm hwn yn fwy na'r swm disgwyliedig gwreiddiol?  Dywedodd y Cynghorydd Stewart fod Abertawe a Chaerfyrddin eisoes wedi gwario arian ar y ddau brosiect ac y byddai hwn felly yn cael ei ddyrannu i'r awdurdodau hynny.  Yn ychwanegol, roedd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n dymuno rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Fargen Ddinesig yn lleol. Golyga hyn y bydd y Cyd-bwyllgor yn cytuno at bwy y dylai'r arian gael ei ddyrannu. Byddai gan y £18 miliwn cychwynnol amodau a thelerau safonol yn atodedig iddo. Mae'n debygol y byddai gan yr ail gyfres o £18 miliwn amodau a thelerau yn atodedig mewn perthynas â'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd, o ganlyniad i'r adolygiadau a gynhaliwyd, gan gynnwys penodi Rheolwr-Gyfarwyddwr.

 

Gofynnodd y Cyd-bwyllgor Craffu am ddiweddariad ar y cynllun rhoi ar waith a dywedwyd ei fod yn y broses o gael ei ddatblygu ac y byddai'n datblygu trwy gydol y rhaglen. 

 

Roedd pryder ynglŷn â safon yr achosion busnes a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru, yn enwedig yr achosion economaidd, a gofynnodd aelodau beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn?  Mewn ymateb, dywedwyd wrth yr aelodau fod newidiadau wedi bod i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru oedd wedi arwain at newid yn eu disgwyliadau ac ailadrodd mewn ymholiadau.  Roedd y fethodoleg model busnes pum achos yn broblem, a fyddai bellach yn seiliedig ar ymagwedd bortffolio, ynghyd â'r dadansoddiad risg.  Byddai hyfforddiant gwell ar gyfer y staff cysylltiedig, fel bod ganddynt y sgiliau cywir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Isadeiledd Trafnidiaeth - Cydlynu Cynllunio Trafnidiaeth â Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Cofnodion:

 Croesawodd y Cadeirydd Ben George o Ddinas s Sir Abertawe a roddodd gyflwyniad ar isadeiledd trafnidiaeth i’r aelodau. Dywedwyd wrthynt nad oedd unrhyw brosiectau trafnidiaeth wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Bargen Ddinesig oherwydd addawyd trydaneiddio rheilffyrdd ar yr adeg honno.  Pe byddai trafnidiaeth yn cael ei hychwanegu at y rhaglen, byddai hyn yn gofyn am gyllid ychwanegol. Rhoddwyd cyflwyniad i'r aelodau ar y prosiect Metro De-orllewin Cymru a oedd yn y broses o gael ei ddatblygu sy’n cynnwys llwybrau rheilffyrdd amgen ac ati. 

 

Gofynnodd yr aelodau am fanylion am sut fyddai'r rhwydwaith bysus yn cyd-fynd â'r rhwydwaith rheilffyrdd.  Yn ychwanegol, y newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth gyffredinol y rhwydwaith bysus. Fe’u cynghorwyd y byddai angen i’r awdurdodau dan sylw weithredu’r ‘Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol’ a ddisgwylir yn y ddeddfwriaeth llywodraeth leol sydd ar ddod ac y byddai’r gwasanaethau’n gwella trwy weithio ar y cyd.  Nodwyd bod Llywodraeth y DU wedi cynnig gwerth £20 miliwn ar gyfer y Metro, fodd bynnag, ni fyddai hyn yn ddigonol.  Felly, byddai cynrychiolaeth yn cael ei gwneud i'r ddwy Lywodraeth yn ogystal ag yn rhanbarthol.  Cytunodd yr aelodau fod yn rhaid gosod prisiau ar lefel briodol ac y dylai gorsaf Castell-nedd aros ar y brif reilffordd.

 

 

 

 

9.

Cefnogaeth Craffu pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd i we-ddarlledu cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Craffu yn y dyfodol ac y dylid cysylltu â'r awdurdodau lleol dan sylw gyda'r bwriad o gadw'r costau mor isel â phosib.  Byddai hyn yn cael ei adolygu ymhen 12 mis. 

 

Mewn perthynas â'r arolwg a gynhaliwyd, roedd aelodau'n fodlon â'r gefnogaeth craffu oedd yn cael ei darparu gan swyddogion ac fe'u gwahoddwyd i ddarparu adborth rheolaidd er mwyn sicrhau bod cefnogaeth yn parhau i fod yn addas at y diben.

 

 

10.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 51 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod yr ychwanegiadau canlynol i'w gwneud i'r blaenraglen waith:

 

·        Cynullir cyfarfod ychwanegol i ymweld â safle Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yng Nghastell-nedd, ac yn y cyfarfod hwnnw, trefnu hyfforddiant ar gyfer y cyd-bwyllgor ar reoli rhaglenni;

·        Ychwanegu adroddiad gan swyddog a151 ar yr amodau a thelerau sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, at yr agenda ym mis Hydref;

·        Ychwanegu adroddiad pellach mewn perthynas â chaffael a'r gadwyn gyflenwi leol at agenda mis Hydref (mae'r gofrestr risg yn cyfeirio); ac

·        Ychwanegu'r diweddaraf ar y rhaglen isadeiledd digidol rhanbarthol i agenda mis Ionawr.