Lleoliad: Remotely via Teams / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau’r Cadeirydd Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Y Cynghorydd Mike Harvey - Eitem 4
– Personol, nad yw'n rhagfarnu - Mae'r Cynghorydd Harvey yn Swyddog Cynllunio
i Leihau Troseddu gyda Heddlu
De Cymru, ac mae wedi cynghori ar sawl
prosiect ac mae'n dal i ymwneud â nhw. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 114 KB Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6
Medi 2022 fel cofnod gwir a chywir. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022
fel cofnod gwir a chywir. |
|
Y Diweddaraf am Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau PDF 770 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau gan
y Swyddog, Huw Mowbray. Roedd
y cyflwyniad yn canolbwyntio ar dri phrosiect. • Arena'r Sgwâr Digidol
- Abertawe •
71-72 Ffordd y Brenin -
Abertawe • Matrics Arloesedd ac Ardal Arloesedd – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau. |
|
Y Diweddaraf am Gynnydd Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel PDF 719 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Lisa Willis, Rheolwr Rhaglenni
Ariannu Strategol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yr wybodaeth ddiweddaraf
i'r Aelodau am gynnydd y Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel gan ganolbwyntio ar ddiweddariadau i'r saith prosiect cysylltiedig. • Canolfan Dechnoleg y Bae • Canolfan Ddiwydiannol Pontio o Garbon De Cymru (SWITCH) gyda Phrifysgol Abertawe (partner cyflenwi) • Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch (AMPF) • Cronfa Datblygu Eiddo (PDF) • Isadeiledd Gwefru Cerbydau Allyriadau Isel • Prosiect Monitro Ansawdd Aer (AQMP) • Prosiect Ysgogi Hydrogen gyda PDC Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ar ba
rannau o ardal glannau Port Talbot oedd yn rhan o'r
broses. Eglurodd Swyddogion
mai ardal fenter y glannau fyddai hynny, sy'n
cynnwys Parc Glannau'r Harbwr ac ystâd ddiwydiannol Baglan. Roedd yr Aelodau hefyd am gadarnhau os oedd Llywodraeth
Cymru'n berchen ar hen safle BP ac os oedd yn
rhan o'r cynllun. Cadarnhaodd Swyddogion y prynwyd tir Parc Ynni Baglan gan Lywodraeth Cymru ac mae'r awdurdod yn bwriadu gosod
y cyfleuster cynhyrchu gweithgynhyrchu uwch yno ac maent yn
gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar hynny. Gofynnodd yr Aelodau am yr wybodaeth ddiweddaf
am y Rhaglen Ysgogi
Hydrogen ar dudalen 175 o'r adroddiad. Eglurodd Swyddogion fod y Ganolfan Dechnoleg y Bae newydd ei hadeiladu
ar Barc Ynni
Baglan, ger Canolfan Ymchwil
Hydrogen Prifysgol Cymru. Eglurodd Swyddogion mai gallu bach sydd
ar gael i
gynhyrchu hydrogen ar hyn o bryd. Y cynnig
yw y bydd yr ynni adnewyddadwy
gormodol a gynhyrchir gan yr ynni
adnewyddadwy o ganolfan dechnoleg Baglan yn cael ei droi'n
hydrogen gan Ganolfan Ymchwil Prifysgol Cymru. Mae
Canolfan Ymchwil Prifysgol Cymru yn mynd i brynu
pecyn electrolyswr mwy i drosi
hydrogen gwyrdd. Oherwydd sawl problem o ran pŵer ar barc ynni
Baglan, nid oedd modd gosod gwifrau
caled o Ganolfan Dechnoleg y Bae i Ganolfan Hydrogen Prifysgol Cymru. Dywedodd Swyddogion fod yr hydrogen gwyrdd yn cael ei
ystyried at ddefnydd cerbydlu CBSCNPT ond bod rhagor o ymchwil yn cael ei
wneud. Eglurodd Swyddogion fod
hydrogen yn fwy defnyddiol ar gyfer
cerbydau mwy yn
hytrach na cherbydau llai. Rhoddwyd cerbydau sbwriel fel enghraifft
o opsiwn mwy addas ar gyfer hydrogen. Cytunwyd y byddai'r Swyddogion
yn darparu nodyn mwy technegol
i'r Aelodau ynglŷn â hyn. Nododd yr Aelodau heriau isadeiledd a dosbarthu ar hyn
o bryd. Yn
dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Asesiad o Gostau Adeiladu Cynyddol PDF 632 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Peter Austin o Gyngor Sir Caerfyrddin
yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr asesiad
o'r costau adeiladu cynyddol yn seiliedig ar
yr adroddiad. Priodolwyd ffactorau a oedd yn cyfrannu at gostau cynyddol y gwaith adeiladu yn arbennig i
effaith y rhyfel yn Wcráin ar
brisiau ynni. Er amlygwyd mai chwyddiant,
Brexit a COVID-19 oedd y ffactorau
eraill a oedd yn cyfrannu. Amlygodd yr adroddiad fod y costau cynyddol
hyn wedi eu hamcangyfrif ar ddiffyg o £30,000,000 ar draws y portffolio pe bai amgylchiadau'n parhau fel yr oeddent
adeg yr adroddiad.
Esboniodd Swyddogion yr opsiynau maent
wedi'u hystyried i liniaru'r sefyllfa.
Roedd trafodaeth yn ymwneud â mater chwyddiant a'r cytundebau pris penodedig a gytunwyd eisoes yn yr
adroddiad. Trafodwyd, o ran
chwyddiant, fod pob posibilrwydd efallai na fydd
y contractwyr yn gallu ysgwyddo'r cynnydd mewn costau
a'r heriau ynghylch sut i
gyflawni'r prosiectau am y
pris a gytunwyd yn wreiddiol. Esboniodd Swyddogion y byddai'n fater o edrych ar yr hyn
y gellid ei liniaru drwy gaffael
deunyddiau amgen neu ddyluniad amgen. Trafodwyd y gall fod angen gwario arian ychwanegol
ar y prosiectau yn y pen draw i fodloni lleiafswm disgwyliadau'r prosiect neu efallai y bydd angen defnyddio dull 'peirianneg gwerth' i leihau'r hyn
sy'n cael ei wneud. Dywedodd Swyddogion y bydd trafodaethau eraill yn cael eu
hystyried gyda chontractwyr ynglŷn â'r hyn y gellir
ei wneud, enghraifft oedd trafod peidio â chael contract pris penodedig a chytuno ar bris sy'n realistig i'r farchnad. Dywedodd Swyddogion fod pob prosiect isadeiledd
yn y DU yn profi'r problemau a'r mesurau lliniaru
hyn. Mae nodi cyllid pellach i lenwi'r
bwlch wedi ei ystyried ar
gyfer rhai prosiectau ac mae Swyddogion yn wyliadwrus
ac yn monitro'r sefyllfa am unrhyw newidiadau i gostau
ac ansawdd i liniaru lle y gallant. Yn
dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf
am Fonitro Ariannol Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2022/23 - Sefyllfa
alldro dros dro ar gyfer
chwarter 3 gan Anthony
Parnell, Rheolwr Buddsoddi Pensiynau'r Trysorlys Cyngor Sir Caerfyrddin. Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ar yr
hyn a olygwyd
gan 'y ddarpariaeth flynyddol ar gyfer
y Swyddfa Rheoli Portffolio sy’n dod i ben'. Eglurodd Swyddogion mai triniaeth gyfrifyddu ydyw, y bwriad yw bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn gyfnod penodol
am tua 5 mlynedd. Mae darpariaeth ar gyfer diswyddiadau pe baen nhw fyth
yn digwydd. Roedd yr Aelodau hefyd eisiau gwybod
a yw'r tanwariant
yn cael ei
drosglwyddo i brosiectau eraill. Dywedodd Swyddogion fod y tanwariant yn parhau
gyda'r prosiectau am y tro ond ei
fod yn cael
ei adolygu'n rheolaidd gan Swyddogion
y prosiect. Yn dilyn y drafodaeth honno, holodd yr
Aelodau hefyd pam mae’r adroddiad yn dweud bod yr
Arena yn ailddosrannu. Dywedodd Swyddogion y byddai llithriant yn derm gwell
ar gyfer hyn gan eu
bod yn gorfod symud pethau oherwydd
contractau, cyllid recriwtio etc. Y bwriad o hyd yw defnyddio'r
arian. Gofynnodd yr Aelodau pryd y bydd y Swyddfa
Rheoli Portffolio yn dod i
ben. Dywedodd Swyddogion ei bod hi'n rhy
gynnar i ddweud ond mai
swm cyfyngedig o arian sydd ar
gael. Ar hyn o bryd mae'r
Swyddogion yn credu bod digon o arian i gwblhau'r
holl brosiectau o ran isadeiledd gan fod arian yn
y banc eisoes pe bai angen ymestyn y cyfnod. Mae Swyddog Adran 151 yn ystyried yr
hyn sydd ei angen. Yn
dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae Abertawe PDF 479 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau grynodeb o’r adroddiad
monitro chwarterol gan Gyfarwyddwr Rhaglen Bargen Ddinesig Bae
Abertawe. Roedd gan Aelodau gwestiynau yn ymwneud
â manteision gwireddu swyddi. Roedd Aelodau
eisiau gwybod pryd roedd hi'n
debygol y byddai swyddi'n cael eu
creu. Dywedodd Swyddogion y bydd mwyafrif y swyddi'n cael eu creu
ym maes adeiladu
ac yn gysylltiedig ag ef yn ogystal
â'n cael eu creu mewn
busnesau sy'n ymwneud â'r prosiectau. Defnyddiodd Swyddogion brosiect
Morol Doc Penfro fel enghraifft lle mae swyddi
wedi'u creu yn barod ond
nid ydynt wedi cael eu
hadrodd drwy'r system eto. Eglurodd Swyddogion
hefyd fod yna fusnesau sy'n
cael eu denu
gan y prosiect a fydd yn helpu
i greu swyddi.
Eglurodd Swyddogion y bydd creu swyddi
yn broses hir. Gofynnodd yr Aelodau am eglurder ynghylch a yw creu
swyddi ar y trywydd iawn o ran yr amserlen. Dywedodd
Swyddogion eu bod ar ei hôl
hi yn seiliedig ar ddyddiad llofnodi
2017 ar gyfer y Fargen Ddinesig, fodd bynnag, mae'r
Swyddogion yn credu eu bod ar
y trywydd iawn pan fyddwch chi'n ystyried
yr oedi cyn
dechrau'r Fargen Ddinesig. Awgrymodd Swyddogion hefyd y byddai gwerthusiad economaidd ar gyfer
yr Arena yn darparu rhagor o ddealltwriaeth o effaith ar swyddi. Mae'r
Arena yn gweithredu fel magned i
fusnesau, swyddi, a thwf economaidd ac efallai y byddai'n ddefnyddiol gwneud hyn ar ôl
blwyddyn. Dywedodd Swyddogion eu bod yn y broses o gael yr arfarniadau economaidd hynny wedi'u gwneud ar
gyfer prosiectau unwaith y byddant wedi'u hadeiladu. Yn
dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad Asesu Lleihau Carbon y Portffolio PDF 515 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni
chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 110 KB Cofnodion: Dywedodd Swyddogion y gallai
fod yn werth
i'r Pwyllgor ystyried Pentre Awel a'r Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn unol
â'r Blaenraglen Waith. Y rheswm am hyn oedd y byddai
Pentre Awel yn cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y bwrdd ac roedd y Rhaglen Sgiliau a Thalentau newydd fynd drwy
adolygiad Gateway allanol. Nododd y Cadeirydd yr wybodaeth gan y Swyddogion. PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r Blaenraglen Waith. Gofynnodd aelodau am yr wybodaeth
ddiweddaraf am brosiectau rhanbarthol isadeiledd digidol a fydd yn cael eu
hychwanegu at y Blaenraglen
Waith a bydd Swyddogion yn cael
eu cynghori yn unol â hynny. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u
heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100b (4)(B) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |