Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Dydd Mawrth, 16eg Ebrill, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte John  E-bost: c.l.john@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad/Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

Cofnodion:

Mae'r Gwasanaethau Democrataidd wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Cyng. J Beynon, y Cyng. J Curtice a'r Cyng. G Morgan.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

3.

Ymateb gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Dinas-ranbarth Bae Abertawe mewn perthynas â 'Gwerth Ychwanegol Gros' pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y llythyr. Nid oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiynau.

 

Nodwyd y llythyr.

4.

Y Diweddaraf am Brosiect Morol Doc Penfro. pdf eicon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau gyflwyniad i'r aelodau mewn perthynas ag adroddiad diweddaru Prosiect Morol Doc Penfro. Diolchodd i'r aelodau a oedd wedi mynychu'r ymweliad safle â Doc Penfro ym mis Ionawr.

 

Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â'r meysydd canlynol.

1) Diweddariad am gynnydd Prosiect Morol Doc Penfro;

2) Canlyniad Adolygiad Gateway Prosiect Morol Doc Penfro, gan gynnwys argymhellion a chamau gweithredu lliniarol;

3) Adendwm achos busnes Prosiect Morol Doc Penfro.

4) Hysbysiadau newid a dderbyniwyd gan Brosiect Morol Doc Penfro.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r aelodau i'r swyddogion am yr ymweliad safle â Doc Penfro gan ddweud ei fod wedi bod yn addysgiadol ac yn werth chweil gweld yr hyn a ddatblygwyd.   

 

Nododd yr aelodau mai cam hanfodol o’r prosiect oedd yr elfen fasnacheiddio a gofynnwyd am y cynnydd ynghylch ceisio cael partneriaid masnachol i gymryd rhan, ac yn benodol o ran yr unedau, a oes unrhyw swyddi gwag eraill?

 

Hysbyswyd yr aelodau, pan roedd swyddogion yn ymwybodol bod yr asedau bron â'u cwblhau, eu bod wedi dechrau ymgyrch rwydweithio a oedd yn cynnwys mynd i Iwerddon, Ewrop a Lloegr yn ogystal â siarad â'r holl ddatblygwyr gwahanol mewn cynadleddau sy'n arddangos pryd y bydd yr asedau'n barod.

 

Edrychodd swyddogion ar nodi marchnadoedd o ran deall pryd roedd gwynt ar y môr sefydlog yn dechrau yn Iwerddon, a defnyddiwyd yr esiampl ar gyfer 'Aráe Dulyn'. Nododd swyddogion pwy yr oedd yn ennill y cystadlaethau hynny ar gyfer Aráe Dublin ac yn marchnata'r asedau hynny'n uniongyrchol i'r mathau hynny o sefydliadau.

Dywedodd swyddogion fod y canlyniadau hyd yma wedi bod yn gymysg ond nid yw'n mynd yn wael am y flwyddyn gyntaf. Esboniodd swyddogion fod cwmni sy'n adeiladu cychod/cwmni atgyweirio yn defnyddio'r llithrfa fawr. Erbyn hyn mae gan y cwmni hwnnw 67 metr o lithrffordd ac oherwydd eu craen, maent yn gallu creu hyd yn oed mwy o le. Mae hyn yn fwy na'r 20 metr o lithrffordd a oedd ganddynt yn flaenorol.

 

Dywedodd swyddogion fod rhai datblygwyr ton a llanw wedi mynegi diddordeb, fodd bynnag, mae'r prawf a'r arddangosiad ar gyfer y gwynt ar y môr arnofiol 400 MegaWat yn cael ei oedi ac nid oes yr un o'r datblygwyr wedi dechrau ar y rownd Contract ar gyfer Gwahaniaeth cynhyrchu trydan carbon isel. Roedd swyddogion wedi gobeithio y byddai'n gyfle uniongyrchol.

 

Hysbyswyd yr aelodau fod rhai pontynau wedi'u hychwanegu at gefn pont lwytho'r fferi ac mae'r archebion cyntaf wedi'u derbyn, gydag eitemau'n cael eu gosod yn eu herbyn yr wythnos hon.

 

Mae datblygwr hydrogen ar y cam statws penawdau telerau drafft gyda swyddogion.

 

Cynghorwyd yr aelodau ei bod hi'n drueni bod y cais Cynllun Buddsoddi Gweithgynhyrchu Gwynt ar y Môr Arnofiol wedi'i wrthod oherwydd pe bai wedi'i dderbyn, byddai gwaith ar ochr arall y porthladd wedi dechrau ar unwaith a byddai wedi creu cyfleuster integreiddio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Y Diweddaraf am Gampysau pdf eicon PDF 833 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd  Miles Willis, Rheolwr Datblygu Strategol ym Mhrifysgol Abertawe a phartner arweiniol y prosiect adroddiad a chyflwyniad PowerPoint cysylltiedig i roi gwybod i aelodau am y cynnydd a wnaed a statws Prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Rhoddodd drosolwg hefyd o sut maent yn cysylltu'r byd chwaraeon â'r byd meddygol a'r llwybr a gymerir ar gyfer hyn yw trwy'r byd technoleg sy'n cysylltu ag allbynnau'r fargen ddinesig o amgylch adfywio, edrych ar gynnwys  y gymuned ac iechyd cyffredinol pobl a chysylltu â busnesau fel busnesau newydd a thechnoleg chwaraeon.

 

Dywedodd yr aelodau fod caeau chwarae Ashley Road (Abertawe) o fewn meysydd ymddiriedaeth yn ogystal â chaeau chwarae'r Brenin Siôr V sy'n rhan o gaeau chwarae Ashley Road. Nododd yr aelodau fod y datblygiad yn cwmpasu Ashley Road yn ei chyfanrwydd a gofynnwyd beth yw'r broses gyfreithiol a ddilynwyd mewn perthynas â'r datblygiad a'r meysydd chwarae hyn gan eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer rygbi, criced a phêl-droed ac nid yw aelodau sy'n cynrychioli Abertawe wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn ystod eu cyfarfod o'r pwyllgor craffu.

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd am ddatganiad Miles Willis yn y cyflwyniad fod gan yr ardal lawer o dir ac mae'n gymharol rad o gymharu â Rhydychen a Chaergrawnt, roedd aelodau eisiau gwybod beth roedd swyddogion yn ei olygu wrth hynny a ble roedden nhw'n sôn amdano?

 

Esboniodd swyddogion fod perchnogaeth gymysg ar waith yng Nghaeau chwarae Ashley Road sy'n cynnwys nid yn unig Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe ond trydydd partïon hefyd. Esboniodd swyddogion eu bod wedi cydnabod hyn yn ystod y broses ac nid oes ganddynt unrhyw fwriad i wneud unrhyw beth ar feysydd chwarae'r Brenin Siôr.

 

Hysbyswyd yr aelodau eu bod yn rhan o ymddiriedolaeth a bod y draenio'n wael, sy'n golygu nad yw plant yn gallu chwarae pêl-droed yno. Dywedodd swyddogion y byddant yn gwneud unrhyw beth y gallant ei wneud i helpu gyda'r broses honno a dywedwyd bod y caeau wedi dioddef am gyfnod oherwydd diffyg buddsoddiad.

 

Dywedodd swyddogion y byddant yn gwneud unrhyw beth y gallant ei wneud ynghylch y cyfleusterau newid gwael wrth gadw statws ymddiriedolaeth y safle mewn cof.

 

Eglurodd swyddogion hefyd y byddai hyn yn deillio o ddarn o waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda chyllid y gronfa ffyniant gyffredin ynghylch yr hyn y gall y Cyngor a'r brifysgol ei wneud yn yr achos hwn mewn perthynas â'r tranc hwnnw. Dyna pam roedd Miles Willis yn cynnwys caeau chwarae Brenin Siôr V yn ogystal â thir y brifysgol ei hun a thir y Cyngor.

 

Dywedodd Miles Willis ei fod yn obeithiol y gallai dawelu unrhyw ofnau eu bod yn bwriadu adeiladu yno ac nid oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i wneud hynny, ond bydd y brifysgol yn gwneud beth bynnag y gall wneud i helpu gyda'r ongl gymunedol honno, a bydd yn gwneud ei gorau glas i weithio gyda'r Cyngor i wneud hynny.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Bae Abertawe'r adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed ynghylch y rhaglenni a'r prosiectau a oedd yn rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu'r digwyddiad 'Cwrdd â'r Fargen Ddinesig' ac yn teimlo ei fod yn werth mynychu ar gyfer unrhyw fusnesau newydd a'i fod yn agoriad llygad i'r hyn sydd ar gael i fusnesau na fyddai llawer ohonynt byth wedi gwybod amdano pe na bai hyn wedi cael ei roi ar waith.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd fod yr ymweliad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Aberafan wedi bod yn gyfle diddorol i weld yr hyn sy'n digwydd ac mae'n gobeithio y bydd llawer mwy o'r adeiladau hyn yn cael eu hadeiladu i bobl elwa ohonynt.

 

Dywedodd swyddogion y gellid trefnu mwy o ymweliadau safle wrth i'r adeiladau eraill ar gyfer prosiectau fel y Matrics, Pentre Awel, a Ffordd y Brenin fynd ar-lein.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

 

7.

Crynodeb Asesiad o'r Effaith ar Adeiladu. pdf eicon PDF 548 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jon Burnes yr adroddiad i aelodau'r pwyllgor.

Nododd yr aelodau yn yr adroddiad fod y bwlch o £43 miliwn wedi ei ostwng i £12.75 miliwn o ran y mesurau lliniaru a nodwyd bod effaith chwyddiant wedi bod yn ddifrifol. Gofynnodd yr aelodau pa mor hyderus oedd swyddogion fod y bwlch o £12.75 miliwn ar draws y prosiectau cyfan yn gywir.

Dywedodd swyddogion mai amcangyfrifon yw'r rhain ar hyn o bryd a dyna pam mae'r adroddiad yn cael ei ddiweddaru'n fisol. Mae swyddogion yn credu y bydd y bwlch yn cynyddu dim ond oherwydd mae caffaeliadau i ddod o hyd, a chostau i'w hamcangyfrif ar gyfer caffaeliadau eraill sydd wedi'u cynllunio.

Hysbyswyd yr aelodau ei bod yn annhebygol y byddai gostyngiad sylweddol mewn costau adeiladu a chwyddiant yn ystod y 2 flynedd nesaf. Dywedodd swyddogion fod angen iddynt reoli a lliniaru a lleihau'r bwlch gymaint â phosib. Maent yn hyderus ei fod mor gywir ag y gall fod ar hyn o bryd.

Esboniodd swyddogion mai Prosiect Morol Doc Penfro, Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, Yr Egin ac Isadeiledd Digidol yw'r pedwar prosiect sy'n rhan o'r bwlch £12.75 miliwn.

Hysbyswyd yr aelodau hefyd, pan ddaw mwy o gaffaeliadau i law, y gallai'r bwlch gynyddu, a datblygwyd rhai o'r achosion busnes sawl blwyddyn yn ôl.

Roedd gan yr aelodau gwestiynau ynghylch cam 2 Yr Egin a sut mae'r adroddiad yn sôn am y model cyflawni diwygiedig, gan nodi'r ddarpariaeth arfaethedig newydd o gyfleuster cynhyrchu rhithwir ar gampws Caerfyrddin. Roedd yr aelodau eisiau esboniad ynghylch pam, os yw'n brosiect newydd neu wedi'i ailwampio a fyddai'n costio £10.3 miliwn yn wreiddiol, y mae'r amcangyfrif presennol yn £12.9 miliwn a pham nad ydynt yn cael gwybod y dylai'r gwaith gael ei wneud o fewn y gyllideb wreiddiol o £10.3 miliwn?

Esboniodd swyddogion, er bod y syniad hwn ar gyfer Yr Egin wedi cael ei gyflwyno, nid yw wedi'i gymeradwyo a byddai angen cyflwyno cais am newid trwy grwpiau llywodraethu BDdBA. Roedd y ffigwr yn adlewyrchu eu meddylfryd presennol o ran faint y gallai cam dau gostio. Eglurodd swyddogion hefyd fod yr holl brosiectau'n cael eu llywodraethu gan yr amlen ariannol a oedd ganddynt o'r Fargen Ddinesig, ond hefyd gyfraniadau gan y sector preifat a chyhoeddus. Mae yna hefyd yr allbynnau, (darparu adeilad); a'r canlyniadau, fel swyddi, codiad cyflog, cynyddu gwerth tir. 

Nododd swyddogion fod Is-Ganghellor newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r uwch dîm rheoli yn ystyried eu hymrwymiadau yn y dyfodol ar gyfer ymgymryd â phrosiectau cyfalaf gan gynnwys Cam 2 Yr Egin a'r Ganolfan Arloesi yng Nglannau Abertawe. Mae'r angen busnes a sefydliadol am isadeiledd ychwanegol hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses hon.

Eglurodd yr aelodau mai rhagfynegiad yn unig o'r hyn y byddai unrhyw newidiadau yn ei gostio yw'r cynnydd o 25%, ond nid yw'n bendant. Cadarnhaodd swyddogion mai syniad ar gyfer ateb cyflwyno yn unig ydyw, yn hytrach na rhywbeth sydd wedi'i roi ar waith.

Nododd yr aelodau hefyd nad oedd yr amcangyfrif o'r gost yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe yr wybodaeth ddiweddaraf am Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig yr oedd angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Gofynnodd yr aelodau pa mor gadarn yw'r achos busnes mewn termau ariannol.

Dywedodd swyddogion ei fod yn fforddiadwy o hyd, y mae'r achos busnes yn cadarnhau hyn. Fodd bynnag, mae heriau a mesurau lliniaru'n parhau ac mae risgiau a materion o hyd ar gyfer y rhaglen gyflawni ond ar hyn o bryd mae'n parhau i fod yn fforddiadwy ar draws yr holl raglenni a phrosiectau.

Gofynnodd yr aelodau a yw'r adroddiad yn gipolwg ar fisoedd yn ôl. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn seiliedig ar ffurflenni chwarter 3 2023/24.

Nododd yr aelodau y gallent gael diweddariad gwell yn y cyfarfod craffu nesaf lle gall aelodau ofyn am faterion fforddiadwyedd yr achos busnes.

Dywedodd swyddogion fod adroddiadau ariannol rheolaidd yn cael eu llunio bob chwarter. Ychwanegodd swyddogion hefyd, pan ysgrifennwyd yr achosion busnes sawl blwyddyn yn ôl, fod y gwerth i'r economi, y gwerth i'r darparwyr arweiniol, y rhanddeiliaid dan sylw a'r buddiolwyr ohono yn uwch heddiw nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl am sawl rheswm, mewn rhai achosion.

Defnyddiodd swyddogion yr enghreifftiau o'r Rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, yn benodol Canolfan Dechnoleg y Bae a’r prosiect datgarboneiddio dur (SWITCH). Mae'n debygol bod ganddynt bellach fwy o werth economaidd na phan ddatblygwyd yr achos busnes dair blynedd yn ôl. Mae hyn yn golygu, er y gall costau gynyddu, y bydd yr elw economaidd y bydd yr adeiladau hynny'n ei gynhyrchu yn uwch i'r rhanbarth.

Dywedodd swyddogion y bydd yn rhaid iddynt fod yn llwyr ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn yr ystyr hwnnw a nodwyd mai fforddiadwyedd yw'r peth pwysig, ac mae ganddynt fecanwaith i wirio hynny trwy'r monitro ariannol chwarterol yn ogystal â diweddariadau achosion busnes ymysg eraill, i sicrhau eu bod yn hyfyw ac yn fforddiadwy o hyd a'u bod yn cael eu cyflawni fel y cynlluniwyd.

Nododd yr aelodau, oherwydd y cychwynnwyd ar nifer o achosion busnes tua 2017, mae cymdeithas a'r byd busnes wedi newid yn llwyr. Gofynnodd yr aelodau pa mor berthnasol yw'r Fargen Ddinesig heddiw o ran yr hyn a gynhyrchwyd bryd hynny a'r hyn sydd yma nawr.

Dywedodd yr aelodau hefyd, er bod swyddogion yn ymgymryd â mesurau lliniaru i roi prosiectau mewn sefyllfa i gael y budd gorau o'r hyn sy'n cael ei wneud, roedd yr aelodau'n teimlo bod angen iddynt ddeall beth yw'r newid yn yr achos busnes hwnnw, fel eu bod yn gwybod beth sy'n cael ei wneud.

Cytunodd swyddogion â hyn a chyfeiriwyd at y weithdrefn rheoli newid sydd ar waith i nodi'r newidiadau hynny. Rhoddodd swyddogion yr enghraifft, ar gyfer Prosiect Morol Doc Penfro, nad oedd gwynt ar y môr yn rhan o'r prosiect yn wreiddiol. Ond aeth y prosiect trwy broses rheoli newid i ymgorffori hynny ynddo. Arhosodd yr amlen ariannol yr un peth ar gyfer y prosiect, ond newidiodd y ffocws, a'r hyn a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

Proses Rheoli Newid a Throthwyau. pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr, BDdBA yr adroddiad ar Drothwyon Rheoli Newid arfaethedig ar gyfer cymeradwyo ac adrodd am ofynion newid y rhaglenni a'r prosiectau cysylltiedig o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe a rhannodd y weithdrefn Rheoli Newid ddiwygiedig.

 

Diolchodd yr aelodau i swyddogion am esbonio beth yw'r newid sylweddol.

 

Gofynnodd yr aelodau pwy sy'n eistedd ar y Bwrdd Cynghori Newid.

 

Eglurodd swyddogion fod y Bwrdd Cynghori Newid yn fwrdd y byddai swyddogion yn ei gychwyn pe bai angen. Ni fu angen amdano hyd yn hyn ond y math o bobl a fyddai'n eistedd arno fyddai Jonathan Burns (neu bobl o'r swyddfa bortffolio), efallai y bydd rhywun o'r bwrdd strategaeth economaidd neu'r bwrdd rhaglen, y grŵp gweithredol. Dywedodd swyddogion nad yw'n debygol o fod yn gyd-bwyllgor oherwydd nhw yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn gwirionedd, a byddai'n annhebygol o fod yn sefydliad cyflawni prosiect arweiniol oherwydd nhw yw'r rhai a fyddai'n darparu'r wybodaeth a fyddai'n cael ei phrofi a'i herio eto trwy Fwrdd Cynghori Newid.

 

Hysbyswyd yr aelodau nad oes digon o geisiadau am newid yn cyrraedd ar lefel gymeradwyo er mwyn cyfiawnhau'r bwrdd cynghori newid o reidrwydd ac er iddynt dderbyn sawl un , maent wedi cael eu cyflwyno i’r llywodraethau er mwyn eu cymeradwyo. Felly doedd dim pwynt cael Bwrdd Cynghori Newid yn y canol, ond mae byrddau cynghori newid yn arfer safonol ar gyfer y math yma o beth.

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am yr ymweliadau safle a drefnwyd â safleoedd Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a'r ymweliad safle â Phrosiect Morol Doc Penfro gan eu bod wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac roedd aelodau'r pwyllgor yn teimlo ei bod yn dda gweld cymaint yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd. Gwnaeth yr aelodau longyfarch swyddogion ar y gwaith sy'n cael ei wneud.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

10.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Nododd aelodau'r pwyllgor y Flaenraglen Waith.

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.