Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chadarnhaodd fod y Gwasanaethau Democrataidd
wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Cyng. C Holley, y Cyng. V Holland, a'r Cyng. S
Yelland. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am drefnu ymweliad safle ar 26 Ionawr 2024 i Brosiect Morol Doc Penfro a dywedodd fod yr aelodau yn teimlo ei fod yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol wrth ddeall maint a chynnydd y prosiect. Hefyd, rhoddwyd gwybod i aelodau am ddau ddigwyddiad 'Cwrdd â'r Fargen Ddinesig' sydd ar ddod yn Abertawe ar 20 Mawrth ac yng Nghastell-nedd Port Talbot ar 9 Ebrill. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganodd y Cyng. Mike Harvey fod ganddo gysylltiad ag Eitem 8 gan ei fod yn rhoi cyngor ar y prosiect hwn fel rhan o'i rôl fel swyddog dileu troseddau drwy ddylunio gyda Heddlu De Cymru |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 460 KB Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 04.07.23 a 24.10.23 fel cofnod cywir o'r trafodion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 04.07.23 a 24.10.23 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Archwilio Cyfrifon PDF 411 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ni chraffwyd ar yr eitem hon. |
|
Datganiad o Gyfrifon y Cydbwyllgor PDF 342 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Chris Moore Swyddog Adran 151 yr adroddiad fel y'i cynhwysir yn y pecyn agenda.
Gofynnodd
yr Aelodau am eglurhad ynghylch cyfanswm y pecyn buddsoddi gan nodi mai £235
miliwn yw buddsoddiad cyllid y DU ac roeddent am wybod faint sydd wedi'i
ddefnyddio hyd yn hyn ar gyfer Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe a'r
hyn a oedd i ddod o hyd. Dywedodd
swyddogion eu bod wedi derbyn cyllid dros 6 blynedd, sef £23 miliwn y flwyddyn
(cyfanswm o £138 miliwn hyd yn hyn). Mae'r cyllid dros gyfnod o 15 mlynedd a'r
mecanwaith y cytunwyd arno'n wreiddiol oedd y byddai £241 miliwn yn cael ei
gyflwyno ar draws y rhanbarth. Mae'r adroddiad yn nodi £235 miliwn ar hyn o
bryd gan fod un prosiect ychydig yn is ar adeg ysgrifennu'r adroddiad, ond bydd
hynny wedi dychwelyd i ddisgwyliad o £241 miliwn erbyn hyn. Rhoddwyd
gwybod i'r Aelodau mai'r rhwymedigaeth i bob awdurdod cyfansoddol neu awdurdod
sy'n arwain y prosiect fyddai talu arian ar gyfer y prosiect ymlaen llaw
oherwydd gellid rhyddhau'r proffil dros gyfnod o 15 mlynedd yn unig. Dywedodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru
wedi dechrau talu ychydig mwy cyn y proffil 15 mlynedd ac mae Llywodraeth y DU
wedi edrych ar ailbroffilio eu cyllid ac maent wedi cyflwyno proffil lle gellir
defnyddio rhywfaint o'r arian yn gyflymach ac mae'n golygu ei fod yn fantais
oherwydd byddai angen i awdurdodau lleol fenthyca llai. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Diweddariad ar GYC ar gyfer Monitro a Gwerthuso Portffolio PDF 245 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu
Portffolio Bargen Ddinesig
Bae Abertawe yr adroddiad fel y'i cynhwysir
yn y pecyn agenda. Eglurodd yr Aelodau fod y talfyriad SMART yn golygu Penodol,
Mesuradwy, Realistig, Cyraeddadwy, o fewn Amserlen y prosiect (Specific, Mesurable, Realistic, Achievable, Time based). Mae swyddogion wedi cadarnhau hyn. Cydnabu'r Aelodau fod Gwerth Ychwanegol
Gros yn amorffaidd ac roedd yn anodd
ei fesur a ddeall o ble roedd
y penderfyniad wedi dod. Dywedodd yr aelodau eu bod yn siomedig
pan ddechreuodd y prosiect roedd ffigurau'n cael eu defnyddio
a nawr nad oedd modd eu
meintioli. Roedd yr aelodau am gael
cadarnhad ynghylch ble y byddai'r gwerth ychwanegol gros yn cael
ei ddefnyddio gan eu bod yn
nodi y gellir ei ddefnyddio ar lefel
achos busnes ond nad oes
modd ei ddefnyddio
mewn meysydd eraill. Gofynnodd yr Aelodau hefyd pa farcwyr eraill a ddefnyddir i roi dealltwriaeth gyffredinol o sut y mae'r prosiect cyfan yn ei
wneud yn hytrach na phrosiectau
unigol gan na oes modd
craffu ar brosiectau unigol oni bai bod aelodau'n gofyn yn benodol,
neu os oes ganddynt gyflwyniad arnynt. Dywedodd yr aelodau mai rôl craffu
yw deall y gwerth i ardal gyfan Abertawe ond eu bod yn teimlo
bod y pyst gôl wedi symud. Esboniodd swyddogion y bydd gwerth ychwanegol gros fel cyfrifiad
yn parhau i gael ei ddefnyddio
yn yr achosion
busnes ond yr hyn y mae'r
cyfrifiad yn ei wneud yn
yr arfarniad economaidd yw ei
fod yn ei
seiliedig ar ragdybiaethau a lluosyddion, mae hyn yn
golygu na all swyddogion dystiolaethu a phriodoli ymyrraeth rhaglen a phrosiect i werth ychwanegol gros. Esboniodd swyddogion y gallant siarad am effaith economaidd adeilad a defnyddiwyd Arena
Abertawe fel enghraifft ac eglurwyd y gallant siarad am effaith economaidd canlyniad uniongyrchol bodolaeth yr arena, gan gynnwys ei
effaith economaidd, gwerthu tocynnau, nifer yr ymwelwyr,
cefnogaeth i'r holl fusnesau uniongyrchol
sy'n gysylltiedig â'r arena ac o amgylch yr arena. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai
swyddogion wedyn yn defnyddio model gwerthuso i edrych ar unrhyw dystiolaeth
arall ac effaith ehangach canol y ddinas a'r ardaloedd
cyfagos, ar gyfer unrhyw effaith
economaidd. Fodd bynnag, esboniodd swyddogion na fyddai
gwerth ychwanegol gros yn cael
ei ddefnyddio o reidrwydd. Rhoddwyd enghraifft i'r Aelodau hefyd o'r
Egin lle mae asesiadau economaidd ynghylch cam un ac mae dangosyddion effaith economaidd o fewn yr adroddiad hwnnw.
Esboniodd swyddogion y bydd cael S4C fel
tenant angor o fewn Yr Egin gyda'r holl gadwyni cyflenwi
gyfagos a'r holl gwmnïau sy'n
ymwneud â'r adeilad ei hun
yn gweld effaith economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol ar gadwyni cyflenwi
a'r ardal gyfagos. Esboniodd swyddogion y bydd yr holl arfarniadau economaidd yn digwydd unwaith y bydd pethau ar waith, ond byddant hefyd yn arfarnu effaith economaidd y gwaith adeiladu. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod tua 120 o wahanol fesuriadau o ddangosyddion llwyddiant y mae pob achos busnes wedi'u nodi. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Nicola Pearce Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gyflwyniad i'r aelodau ar y
Rhaglen Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel gan gynnwys y cais i ymgorffori'r
Ganolfan Rhagoriaeth Sgiliau Sero Net Genedlaethol yn unol â'r adroddiad a
gynhwysir yn y pecyn agenda. Holodd yr aelodau am y rhaglen ysgogi hydrogen a pha gyfran
o'r prosiect cyfan sy'n seiliedig ar hynny. Nododd yr Aelodau bod marchnad ar
gyfer cerbydau mawr sy'n defnyddio hydrogen yn unig gan fod 300 o geir hydrogen
yn unig yn y DU. Gofynnodd yr Aelodau pam fod arian y Fargen Ddinesig yn cael
ei fuddsoddi mewn hydrogen pan nad yw'n gweithio fel dewis amgen heblaw ar
gyfer cerbydau mawr â chymhorthdal mawr. Gofynnodd yr aelodau hefyd a yw swyddogion yn annog
partneriaid i edrych ar dariffau dros nos ar gyfer ynni wrth wefru cerbydau
trydan yn ogystal â'r isadeiledd oherwydd yr arbedion sylweddol y gall
sefydliadau eu gwneud os oes ganddynt dariff dros nos. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch yr hyn a olygwyd
gan y term 'adeilad hybrid' fel y cyfeirir ato yn y cyflwyniad. Dywedodd swyddogion fod y Prosiect Ysgogi Hydrogen a
Chanolfan Dechnoleg y Bae yn rhan o'r 7 prosiect gwreiddiol a gafodd eu
cymeradwyo. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod cyfleuster Canolfan Dechnoleg y Bae
wedi'i adeiladu ac ar hyn o bryd mae'n weithredol ac yn adeilad
ynni-gadarnhaol, sy'n golygu ei fod yn cynhyrchu mwy o ynni na'r hyn y mae ei
angen arno er mwyn gweithredu. Dywedodd swyddogion fod dros 50% o'r adeilad
wedi'i osod. Esboniodd swyddogion fod y prosiect yn cysylltu'r ynni dros
ben â'r cyfleuster ymchwil hydrogen sydd o fewn 100 metr o'r cyfleuster. Mae'r
trydan sbâr hwn yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu hydrogen. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod y prosiect yn talu am
electrolyswr ychwanegol o fewn y cyfleuster ymchwil hydrogen a weithredir gan
Brifysgol De Cymru i alluogi'r cynhyrchiad cynyddol o hydrogen. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith y rhagwelwyd erioed y byddai hydrogen yn cael ei
ddefnyddio o fewn cerbydlu cludo nwyddau mawr Castell-nedd Port Talbot ac maent
yn rhagweld bod hydrogen yn cael ei ystyried ar gyfer dyfodol cerbydau mwy fel
cerbydau cludo gwastraff ac ailgylchu ac mae darpariaeth o fewn y prosiect
ysgogi hydrogen hwnnw i dalu tuag at gost un cerbyd, er mwyn dangos
effeithiolrwydd y cydleoliad hwnnw o gerbydlu Castell-nedd Port Talbot (CNPT)
gyda'r prosiect ysgogi hydrogen. Mewn perthynas â gwefru cerbydau trydan, eglurodd swyddogion
fod cerbydau trydan yn gysylltiedig â'r ceir cronfa llai y bydd CNPT fel
awdurdod a cherbydau domestig y cyhoedd yn defnyddio mwy ohonynt wrth symud
ymlaen. Mae CNPT yn buddsoddi arian ar draws y rhanbarth mewn isadeiledd a
chyfleusterau gwefru. Mae'r farchnad hefyd yn darparu cyfleusterau gwefru lle
mae'n gwneud synnwyr busnes da. Mae swyddogion yn cyflwyno prosiect o dan Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel o'r enw 'Map Llwybr Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan', a fydd yn sefydlu lleoliad y mannau heb gyfleuster gwefru mewn ardaloedd mawr yn y rhanbarth, lle na ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Matrics Arloesedd a Diweddariad o'r Ganolfan PDF 360 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Ian Walsh (Uwch-swyddog Cyfrifol
Matrics Arloesedd) a
Geraint Flowers (Arweinydd Prosiect
Matrics Arloesedd) y diweddaraf i'r aelodau ar gynnydd
y Prosiect Matrics Arloesedd a chanlyniadau'r Adolygiad Gateway allanol diweddar. Dywedodd yr Aelodau eu bod yn credu
bod y prosiect cyfan yn edrych yn
dda a gallent weld ei fod yn
gynhwysfawr. Croesawodd yr aelodau y ffaith
bod cynifer o bartneriaid wedi cofrestru cyn iddo fod
yn barod. Llongyfarchodd yr Aelodau swyddogion ar yr holl
waith caled dan sylw ac maent yn
edrych ymlaen at glywed y diweddaraf am Yr Egin - Rhan 2 ym mis Mawrth. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Bargen Ddinesig Bae Abertawe Adroddiad chwarterol Ch3 2023/24 PDF 420 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd
Jonathan Burns, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe grynodeb o Adroddiadau Monitro Chwarterol Bargen Ddinesig Bae
Abertawe ar gyfer Chwarter 3, gan gynnwys dangosfyrddau, crynodeb o'r risgiau
a'r materion a'r buddion, caffael,
hysbysiadau newid piblinellau ac archwiliadau adolygiad Sicrwydd 'Gateway' a'r cynllun gweithredu
archwilio mewnol. Nododd yr Aelodau mewn
cyfarfodydd blaenorol fod adolygiad annibynnol
wedi'i grybwyll a thrafodwyd yn ystod
y cyfarfod heddiw na fydd angen
gwerth ychwanegol gros fel ystadegyn
cyffredinol a gofynnwyd a fydd adolygiad annibynnol yn mynd
rhagddo a pha fath o bethau fydd
yn cael eu
hystyried o ran adolygu a yw Bargen Ddinesig
Bae Abertawe yn llwyddiannus
yn gyffredinol. Dywedodd swyddogion y bydd adolygiadau a bydd gwerthusiadau ar draws y portffolio ar lefel
rhaglen y prosiect ac ar lefel portffolio.
Y bwriad oedd y byddai hyn yn
digwydd yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod, ond mae
angen i adeiladau fod yn gweithredu
am o leiaf 24 mis, os nad 2 flynedd yn
dibynnu ar beth yw'r adeiladau
er mwyn eu gwerthuso'n iawn. Ni all swyddogion ateb a fydd y cyfan yn
digwydd ar ddyddiad penodol neu flwyddyn benodol. Esboniodd swyddogion fod Ian Williams yn cydlynu gyda'r
holl brosiectau o ran yr hyn a fydd
yn cael ei
werthuso, pryd y bydd yn cael
ei werthuso a sut y bydd yn
cael ei werthuso.
Bydd y tri chwestiwn hynny'n cael eu
hateb yn y fframwaith gwerthuso y mae swyddogion yn ei ddatblygu.
Nid yw swyddogion
wedi cytuno â'r cyd-bwyllgor eto y byddant yn
cynnal gwerthusiad portffolio yn ystod
flwyddyn ariannol nesaf na'r flwyddyn
ganlynol. Ond wrth i brosiectau fynd rhagddynt, bydd Swyddogion yn gwerthuso ar
lefel y prosiect a gallant rhannu hynny gyda'r
Cydbwyllgor ac ar lefel y Pwyllgor Craffu i edrych ar yr hyn
sy'n cael ei werthuso'n fwy
lleol, gyda phrosiectau unigol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
y byddai angen gwneud y rhain ar adeg briodol,
fel arall byddai swyddogion yn cynnal gwerthusiadau
ac yn talu gormod o arian am farn allanol ar
hyn. Rhoddodd swyddogion sicrwydd eu bod yn monitro'n
fewnol a'u bod yn gwybod bod nifer
y swyddi'n uwch na'r nifer presennol,
ond rhaid adrodd yn ffurfiol
amdanynt. Rhoddodd swyddogion yr enghraifft
bod Arena Abertawe wedi bod ar
waith ers dwy flynedd ac nad yw swyddogion
wedi cyflwyno rolau gweithredol o ran yr hyn sydd
gan yr arena yn y niferoedd hynny. Efallai y bydd Cyngor Abertawe am edrych ar werthusiad
ehangach, nid y swyddi uniongyrchol yn unig oherwydd
mae'r arena yno. Mae swyddogion yn gweithio
gyda'r holl bartneriaid i nodi'r rheini, ac maent yn gobeithio cyflwyno
crynodeb drwy lywodraethu'r 120 o ddangosyddion
gwahanol ar lefel portffolio yn ogystal â'r
prosiectau a'r rhaglenni ar lefelau
is. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Monitro Ariannol Ch3 2023/24 PDF 999 KB Cofnodion: Nid oedd gan yr Aelodau unrhyw
gwestiynau am yr adroddiad. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Asesiad Lleihau Carbon O Addroddiad Portffolio SBCD PDF 515 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd
Peter Austin, Rheolwr Ymgysylltu
â Busnes, wybod i'r aelodau fod
yr Adroddiad Asesu Lleihau Carbon Portffolio Bargen Ddinesig Bae
Abertawe yn ddarn o waith a wnaeth swyddogion yn ôl
yn 2022 ar gais bwrdd y rhaglen
ac roedd yn ymarfer ar adeg
benodol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
fod cyflwyniad Nicola
Pearce yn gynharach yn y cyfarfod yn
dangos yma yn 2024 mae'r prosiectau'n
addasu i'r galw a'r angen
am gamau gweithredu carbon
net. Nodwyd yr adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 17 KB Cofnodion: Nododd aelodau'r pwyllgor
y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |