Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Jayne Woodman
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd C
Clement-Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Ni dderbyniwyd cyhoeddiadau gan y Cadeirydd. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|||
Ceisiadau i'r Gronfa Grantiau Amrywiol PDF 80 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod Llyfrgell Gymunedol Llansawel yn cael £3,000 y
flwyddyn mewn perthynas â'r codiad rhent o £3,190 y flwyddyn tuag at gost rhent
Llyfrgell Gymunedol Llansawel yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau
rhent o 1 Ebrill 2021. Rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn galluogi'r cyngor i ystyried swm y cymorth
ariannol mewn perthynas â'r cais am grant a dderbyniwyd. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg Cofnodion: Nododd yr aelodau fod
nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn parhau i leihau oherwydd argaeledd grantiau
eraill a oedd yn effeithio ar feini prawf cymhwysedd y grant hwn. Penderfynwyd: 1.
Cymeradwyo ceisiadau i Gronfa
Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/2021
fel y manylir yn Atodiad B ac C yr adroddiad a gylchredwyd. 2.
Dyrannu hyd at uchafswm o
£3,760.50 ar gyfer 3 myfyriwr amser llawn fel y manylir yn Atodiad B yr
adroddiad a gylchredwyd. 3.
Dyrannu hyd at uchafswm o
£1,880.25 ar gyfer 2 fyfyriwr rhan-amser fel y manylir yn Atodiad C yr
adroddiad a gylchredwyd. 4.
Cymeradwyo'r taliadau i'r
ymgeiswyr cymeradwy hynny sy'n derbyn cefnogaeth barhaus gan Gronfa
Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg. Rheswm dros y penderfyniadau: Darparu
cefnogaeth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||
Ymddiriedolaeth Harold a Joyce Charles Cofnodion: Fel a nodwyd yn
flaenorol, nododd yr Aelodau'r effaith yr oedd argaeledd grantiau eraill yn ei
chael ar nifer y ceisiadau a dderbynnir a oedd yn bodloni'r meini prawf
cymhwysedd ar gyfer y grant hwn. Penderfynwyd: 1.
Cymeradwyo'r ceisiadau cymwys a
dderbynnir ar neu cyn y dyddiad cau i Gronfa Harold a Joyce Charles ar gyfer
blwyddyn academaidd 2020/2021 fel y manylir yn Atodiad B yr adroddiad a
gylchredwyd. 2.
Y dyraniad arian fydd
£3,760.50 ar gyfer 3 myfyriwr amser llawn fel y manylir yn Atodiad B yr
adroddiad a gylchredwyd. 3.
Cymeradwyo taliadau i'r
ymgeiswyr cymeradwy hynny sy'n derbyn cefnogaeth barhaus gan Gronfa Harold a
Joyce Charles. Rheswm dros y penderfyniadau: Darparu
cefnogaeth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|||
Dileu Ardrethi Busnes Cofnodion: Penderfyniad: Rhoddir y gymeradwyaeth honno i ddileu'r symiau fel
y manylir arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad a gylchredwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Ni ellir adfer y cyfrifon ardrethi busnes. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |