Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd C Clement-Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf y Degwm Castell-nedd Port Talbot PDF 79 KB Cofnodion: Penderfyniad: Rhoi cymorth
grant gwerth £1,000 i'r Groes Goch Brydeinig ar gyfer caffaeliadau cadeiriau
olwyn i gefnogi pobl mewn argyfwng ar draws Castell-nedd Port Talbot. Rheswm dros
y Penderfyniad: Penderfynu
ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a
dderbyniwyd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Ceisiadau i'r Gronfa Grantiau Amrywiol PDF 80 KB Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 y flwyddyn i'w ddefnyddio i dalu swm
rhent prydles y lawnt fowlio ar Heol Gwilym Cwmllynfell ar gyfer Clwb Bowls
Cwmllynfell a'r Rhanbarth, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent. 2.
Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 y flwyddyn i'w ddefnyddio i dalu swm
rhent prydles y lawnt fowlio ym Mharc Hamdden Blaengwynfi ar gyfer Clwb Bowls
Gwynfi, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent. 3.
Rhoi cymorth grant gwerth £500 i'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi pobl mewn
argyfwng ar draws Castell-nedd Port Talbot. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Penderfynu
ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a
dderbyniwyd. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A o Ddeddg Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â
Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
Dileu Treth y Cyngor Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
dileu dyledion Treth y Cyngor ar gyfer y symiau a ddisgrifir yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Nid oes modd
adfer cyfrifon Treth y Cyngor. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Dileu dyledion mân ddyledwyr Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
dileu dyledion y mân ddyledwyr ar gyfer y symiau a ddisgrifir yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Nid oes modd
adfer y symiau sy'n ddyledus. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |