Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet - Dydd Mercher, 30ain Mehefin, 2021 2.02 pm

Lleoliad: Council Chamber - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd C Clement-Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Ceisiadau i'r Gronfa Grantiau Amrywiol pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.Bod Ymddiriedolwyr Clwb Pêl-droed Ieuenctid Pentref Margam yn derbyn grant o £715 y flwyddyn ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna £665 y flwyddyn tuag at brydles cae pentref Margam, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent parthed 1 Ebrill 2022.

 

2.Bod Ymddiriedolwyr Clwb Rygbi Blaendulais yn derbyn grant o £550 y flwyddyn ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna £500 y flwyddyn  tuag at brydles caeau chwarae Blaendulais yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent parthed 1 Ebrill 2022.

 

3.Bod Ymddiriedolwyr Clwb Pêl-droed Athletau Croeserw yn derbyn grant o £1,155 ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna £1,100 y flwyddyn tuag at brydles y caeau chwarae a'r pafiliwn ym Mharc Tudor, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent parthed 1 Ebrill 2022.

 

4.      Bod Ymddiriedolwyr Clwb Rygbi Cwmgors yn derbyn grant o £495 y flwyddyn ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna £460 y flwyddyn tuag at brydles ystafell newid ym Mharc y Werin yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent parthed 1 Ebrill 2022.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

I alluogi'r cyngor i brosesu ceisiadau grant.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

5.

Dileu Ardrethi Busnes

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo dileu Ardrethi Busnes fel y manylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac Atodiad 1.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Nid oes modd adfer y cyfrifon.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

6.

Dileu Treth y Cyngor

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo dileu Treth y Cyngor fel y manylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac Atodiad 1.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Nid oes modd adfer cyfrifon Treth y Cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.