Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Jayne Woodman
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd C
Clement-Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 53 KB 3 Chwefror 2021 Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 3 Chwefror 2021. |
|
Ceisiadau i'r Gronfa Granfiau Amrywiol PDF 83 KB Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Bod Ymddiriedolwyr Clwb Bowlio
Tyn y Twr yn derbyn £200 y flwyddyn yn amodol ar adolygiad yn unol ag
adolygiadau rhent parthed o 1 Ebrill 2021 tuag at rent £220 y flwyddyn mewn
perthynas â phrydles Lawnt Fowlio Baglan, Parc Baglan. 2.
Bod Ymddiriedolwyr Grŵp
Gweithredu Preswylwyr Bryn yn derbyn £285 y flwyddyn yn amodol ar adolygiadau
rhent parthed o 1 Ebrill 2021 tuag at rent o £330 y flwyddyn mewn perthynas â
phrydles ardal gemau amlddefnydd ym Mharc Lles Bryn. 3.
Bod Cwmni Buddiannau Cymunedol
Community Studio TDM yn derbyn £5,500 y flwyddyn, yn amodol ar adolygiad yn
unol ag adolygiadau rhent parthed o 1 Ebrill 2021 tuag at rent o £5,874 y
flwyddyn ar Rhodfa Mozart, Canolfan Gymunedol Port Talbot. 4.
Bod Ymddiriedolwyr Llyfrgell
Gymunedol Tai-bach yn derbyn £1,330 y flwyddyn yn amodol ar adolygiad yn unol
ag adolygiadau rhent parthed o 1 Ebrill 2021 tuag at rent o £1,430 y flwyddyn i
brydlesu Llyfrgell Tai-bach, Port Talbot. Rheswm
dros y penderfyniadau: Cytuno
ar faint o gymorth ariannol sydd i'w glustnodi mewn perthynas â cheisiadau
grant a dderbynnir. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |