Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet - Dydd Mercher, 3ydd Chwefror, 2021 2.02 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Jayne Woodman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd C Clement-Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

4.

Ceisiadau i'r Gronfa Grantiau Amrywiol pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod Llyfrgell Gymunedol Llansawel yn cael £3,000 y flwyddyn mewn perthynas â'r codiad rhent o £3,190 y flwyddyn tuag at gost rhent Llyfrgell Gymunedol Llansawel yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent o 1 Ebrill 2021.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ystyried swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r cais am grant a dderbyniwyd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

6.

Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg

Cofnodion:

Nododd yr aelodau fod nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn parhau i leihau oherwydd argaeledd grantiau eraill a oedd yn effeithio ar feini prawf cymhwysedd y grant hwn.

 

Penderfynwyd:

 

1.   Cymeradwyo ceisiadau i Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/2021 fel y manylir yn Atodiad B ac C yr adroddiad a gylchredwyd.

 

2.   Dyrannu hyd at uchafswm o £3,760.50 ar gyfer 3 myfyriwr amser llawn fel y manylir yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd.

 

3.   Dyrannu hyd at uchafswm o £1,880.25 ar gyfer 2 fyfyriwr rhan-amser fel y manylir yn Atodiad C yr adroddiad a gylchredwyd.

 

4.   Cymeradwyo'r taliadau i'r ymgeiswyr cymeradwy hynny sy'n derbyn cefnogaeth barhaus gan Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Darparu cefnogaeth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

7.

Ymddiriedolaeth Harold a Joyce Charles

Cofnodion:

Fel a nodwyd yn flaenorol, nododd yr Aelodau'r effaith yr oedd argaeledd grantiau eraill yn ei chael ar nifer y ceisiadau a dderbynnir a oedd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y grant hwn.

 

Penderfynwyd:

 

1.   Cymeradwyo'r ceisiadau cymwys a dderbynnir ar neu cyn y dyddiad cau i Gronfa Harold a Joyce Charles ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/2021 fel y manylir yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd.

 

2.   Y dyraniad arian fydd £3,760.50 ar gyfer 3 myfyriwr amser llawn fel y manylir yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd.

 

3.   Cymeradwyo taliadau i'r ymgeiswyr cymeradwy hynny sy'n derbyn cefnogaeth barhaus gan Gronfa Harold a Joyce Charles.

 

 

    Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Darparu cefnogaeth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

 

 

 

 

8.

Dileu Ardrethi Busnes

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoddir y gymeradwyaeth honno i ddileu'r symiau fel y manylir arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Ni ellir adfer y cyfrifon ardrethi busnes.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.