Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet - Dydd Mercher, 5ed Chwefror, 2020 10.02 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd D Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Rhoi cymorth grant gwerth £320 y flwyddyn i Gyngor Cymuned Ystalyfera, tuag at swm rhent prydles Parc Godre'r-graig, Heol y Graig, o ddyddiad y cynnydd mewn rhent tan yr adolygiad rhent nesaf.

 

2.           Ni ddylid rhoi unrhyw gymorth grant pellach i Ganolfan Gymunedol Noddfa, Glyncorrwg, yn dilyn penderfyniad blaenorol yr Is-bwyllgor hwn ar 9 Rhagfyr 2019.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

3.

Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf y Degwm Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ni ddylid darparu unrhyw gymorth grant y tro hwn i Gymdeithas Camlas Tawe.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddg Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

5.

Dileu Dyledion Budd-daliadau Tai

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Dileu'r Budd-daliadau Tai, ar gyfer y symiau a ddisgrifir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Nid oes modd adfer y symiau sy'n ddyledus am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.