Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet - Dydd Mercher, 20fed Tachwedd, 2019 10.02 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd C Clement-Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf y Degwm Castell-nedd Port Talbot pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Rhoi cymorth grant gwerth £1,000 i'r Groes Goch Brydeinig ar gyfer caffaeliadau cadeiriau olwyn i gefnogi pobl mewn argyfwng ar draws Castell-nedd Port Talbot.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

3.

Ceisiadau i'r Gronfa Grantiau Amrywiol pdf eicon PDF 80 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 y flwyddyn i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles y lawnt fowlio ar Heol Gwilym Cwmllynfell ar gyfer Clwb Bowls Cwmllynfell a'r Rhanbarth, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

2.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 y flwyddyn i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles y lawnt fowlio ym Mharc Hamdden Blaengwynfi ar gyfer Clwb Bowls Gwynfi, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

3.           Rhoi cymorth grant gwerth £500 i'r Groes Goch Brydeinig i gefnogi pobl mewn argyfwng ar draws Castell-nedd Port Talbot.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddg Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

5.

Dileu Treth y Cyngor

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo dileu dyledion Treth y Cyngor ar gyfer y symiau a ddisgrifir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Nid oes modd adfer cyfrifon Treth y Cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

6.

Dileu dyledion mân ddyledwyr

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo dileu dyledion y mân ddyledwyr ar gyfer y symiau a ddisgrifir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Nid oes modd adfer y symiau sy'n ddyledus.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.