Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet - Dydd Mercher, 2ail Hydref, 2019 10.02 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd D Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Ceisiadau Amrywiol i'r Gronfa Grantiau pdf eicon PDF 82 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £250 y flwyddyn i'w ddefnyddio i dalu prydles flynyddol ar dir gerllaw Canolfan Hamdden Cwm Nedd ar gyfer Clwb Beicio a Sglefrfyrddio Cwm Nedd, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

2.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £1,980 y flwyddyn i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

3.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles y lawnt fowlio yn Heol Dyfed, Castell-nedd, ar gyfer Cymdeithas Fowlio Heol Dyfed, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

4.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles y lawnt fowlio ym Mharc Coffa Vivian, Sandfields, Port Talbot, ar gyfer Cymdeithas Fowlio Parc Vivian, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

5.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles Lawnt Fowlio Ynysmaerdy, Llansawel, ar gyfer Cymdeithas Fowlio Ynysmaerdy, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

6.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles y lawnt fowlio ym Mharc Coffa Talbot, Port Talbot, ar gyfer Cymdeithas Fowlio Parc Coffa Talbot, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

7.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles Lawnt Fowlio Parc y Werin, Gwauncaegurwen, ar gyfer Cymdeithas Fowlio Gymunedol Gwauncaegurwen, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

8.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles Lawnt Fowlio Bryn ar gyfer Clwb Bowlio Bryn, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

9.           Cymeradwyo cymorth grant gwerth £200 i'w ddefnyddio i dalu swm rhent prydles y lawnt fowlio ym Mharc Tudor, Croeserw, ar gyfer Cymdeithas Fowlio Croeserw, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rent.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

3.

Cais i gronfa'r Degwm pdf eicon PDF 67 KB

Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cymorth grant i ail-beintio wal allanol Capel Saron, y Creunant, gan dalu hyd at 25% o gyfanswm y costau (amcangyfrifir eu bod oddeutu £2,400)

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.