Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd D Jones yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Rhoi cymorth grant gwerth £320
y flwyddyn i Gyngor Cymuned Ystalyfera, tuag at swm rhent prydles Parc
Godre'r-graig, Heol y Graig, o ddyddiad y cynnydd mewn rhent tan yr adolygiad
rhent nesaf. 2.
Ni ddylid rhoi unrhyw gymorth
grant pellach i Ganolfan Gymunedol Noddfa, Glyncorrwg, yn dilyn penderfyniad
blaenorol yr Is-bwyllgor hwn ar 9 Rhagfyr 2019. Rheswm dros y penderfyniad: Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn
perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf y Degwm Castell-nedd Port Talbot PDF 78 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ni ddylid darparu unrhyw gymorth grant y tro hwn i Gymdeithas Camlas Tawe. Rheswm dros y penderfyniad: Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn
perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4(3) a
(5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddg Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan
4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Dileu Dyledion Budd-daliadau Tai Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo Dileu'r Budd-daliadau Tai, ar gyfer y
symiau a ddisgrifir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Nid oes modd adfer y
symiau sy'n ddyledus am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar
Waith: Caiff y penderfyniad
ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |