Lleoliad: Council Chamber - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Tammie Davies
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd C
Clement-Williams yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Ceisiadau i'r Gronfa Grantiau Amrywiol PDF 73 KB Cofnodion: Penderfyniadau: 1.Bod Ymddiriedolwyr Clwb Pêl-droed Ieuenctid Pentref Margam yn derbyn
grant o £715 y flwyddyn ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna £665 y flwyddyn tuag
at brydles cae pentref Margam, yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau
rhent parthed 1 Ebrill 2022. 2.Bod Ymddiriedolwyr Clwb Rygbi Blaendulais yn derbyn grant o £550 y
flwyddyn ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna £500 y flwyddyn tuag at brydles caeau chwarae Blaendulais yn
amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent parthed 1 Ebrill 2022. 3.Bod Ymddiriedolwyr Clwb Pêl-droed Athletau Croeserw yn derbyn grant o
£1,155 ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna £1,100 y flwyddyn tuag at brydles y
caeau chwarae a'r pafiliwn ym Mharc Tudor, yn amodol ar adolygiad yn unol ag
adolygiadau rhent parthed 1 Ebrill 2022. 4. Bod Ymddiriedolwyr Clwb Rygbi
Cwmgors yn derbyn grant o £495 y flwyddyn ar gyfer 2021/2022 yn unig ac yna
£460 y flwyddyn tuag at brydles ystafell newid ym Mharc y Werin yn amodol ar
adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent parthed 1 Ebrill 2022. Rheswm dros y penderfyniadau: I alluogi'r cyngor i brosesu ceisiadau grant. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd
yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan
4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Dileu Ardrethi Busnes Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo dileu Ardrethi Busnes fel y manylwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd ac Atodiad 1. Rheswm dros y penderfyniad: Nid oes modd adfer y cyfrifon. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Dileu Treth y Cyngor Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo dileu Treth y Cyngor fel y manylwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd ac Atodiad 1. Rheswm dros y penderfyniad: Nid oes modd adfer cyfrifon Treth y Cyngor. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |