Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor am newid i’r adroddiad
canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet: · Eitem 8 ar yr Agenda – Adroddiad Monitro'r Rhaglen Gyfalaf 2020/2021 –
newidiwyd cyfnod y broses Rhoi Penderfyniadau ar waith o 'gyfnod galw i mewn 3
diwrnod' i 'weithredu ar unwaith' Yn dilyn y diweddariad, roedd yr aelodau'n hapus
gyda'r newidiadau, felly dewiswyd peidio â chraffu ar yr adroddiad. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad personol o
fuddiant: Y Cyng. M.Harvey - Parthed Eitem 11 – Cyllideb Refeniw 2021/2022 gan ei fod
yn gweithio i Heddlu De Cymru. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 83 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3
Chwefror 2021. |
|
Craffu Cyn Penderfynu · Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet: Addysg drwy Ddatblygiadau Consortiwm Gweithio Rhanbarthol Diweddarwyd yr aelodau
ar ddatblygiadau consortiwm Ein Rhanbarth ar Waith (ERW). Tynnwyd sylw at y
ffaith bod ERW wedi darparu cyrsiau hyfforddi amrywiol a gwybodaeth i
ymarferwyr addysgol fel athrawon, cynorthwywyr addysgu a llywodraethwyr ysgol;
Gofynnodd yr aelodau beth oedd wedi disodli'r ddarpariaeth honno, gan fod y
cyngor wedi tynnu'n ôl o ERW. Esboniodd swyddogion
fod y cyngor yn darparu ei wasanaethau gwella ysgolion ei hun i ysgolion yn y
Fwrdeistref Sirol; roedd rhai enghreifftiau o'r trefniadau yn cynnwys y
canlynol: · Cynhaliwyd yr ymweliad craidd, y gwahoddwyd cadeiryddion llywodraethwyr
iddo, gan Swyddogion Cefnogi Addysg y cyngor; · Darparwyd y gefnogaeth i ddatblygu'r cwricwlwm hefyd gan staff gwella'r
ysgol. Cafwyd cyfleoedd i ysgolion rannu arfer er mwyn sicrhau eu bod yn elwa
o'i gilydd o ran dysgu, ac roedd nifer o ysgolion arloesi a fu'n ymwneud â
datblygu'r cwricwlwm yn rhan ohono ers y cychwyn; · Roedd yr Adran Addysg yn ymwneud â chynnal rhaglenni cymorth i
lywodraethwyr; · Rhoddodd y cyngor nifer o raglenni arweinyddiaeth cenedlaethol gan ERW ar
waith, megis y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth
(CPCP), yn ogystal â rhaglenni ar gyfer arweinyddiaeth ganol etc. Yn dilyn hyn, dywedodd
swyddogion ei bod yn bwysig sicrhau bod ansawdd yr hyn a oedd yn cael ei
gyflwyno i ddisgyblion yn unol â'r dyheadau. Hysbyswyd yr aelodau fod grŵp
cynghori ar y cwricwlwm wedi'i ddatblygu lle'r oedd ymarferwyr ysgol yn cymryd
rhan ynghyd ag unigolion eraill, er enghraifft, pobl yn y gymuned sy'n rhedeg
eu busnesau eu hunain a swyddogion o Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd; roedd hyn yn
galluogi swyddogion i gael dealltwriaeth o sut roedd y sgiliau a ddatblygwyd ar
lefel ysgol o fudd i bobl ifanc o ran eu rhagolygon gwaith yn y dyfodol a'r
sgiliau a fydd yn ofynnol dros y 10-15 mlynedd nesaf, er mwyn sicrhau bod gan
bobl ifanc y sgiliau hynny yn ogystal ag ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith.
Ychwanegwyd bod staff y Gyfarwyddiaeth Addysg wedi bod yn cwblhau gwaith mewn
perthynas â'r diwydiant creadigol; cynhaliwyd confensiwn cwricwlwm llwyddiannus
iawn lle'r oedd cwmnïau lleol a oedd yn ymwneud â rhaglenni cynhyrchu fel S4C
yn bresennol. Sicrhaodd Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant yr aelodau fod y Pwyllgor Craffu
Addysg, Sgiliau a Diwylliant wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas
ag ERW ac y byddai'n parhau i dderbyn diweddariadau; dywedodd y Cadeirydd y
gallai aelodau a oedd â diddordeb yn y pwnc gael cyfle i ddod i'r Pwyllgor
Craffu os oeddent yn dymuno dysgu rhagor. Cynhaliwyd trafodaeth
mewn perthynas â hysbysiad o dynnu'n ôl Abertawe a Chaerfyrddin, a chadarnhaodd
Swyddogion fod yr hysbysiadau i dynnu'n ôl yn cael eu diddymu gan nad oeddent
yn gallu cwblhau'r prosesau cyfreithiol o fewn yr amserlen yr oeddent yn eu
hystyried yn wreiddiol. Nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd fod swyddogion wedi gofyn am fanylion yr atebolrwydd diswyddo, ond nad oeddent wedi derbyn ymateb eto; gofynnwyd a oedd gan swyddogion unrhyw syniad pryd y byddent ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Flaenraglen Craffu'r Cabinet ar gyfer 2020/21. |