Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 24ain Chwefror, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfynu

·       Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

·       Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu (amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Adroddiad Blynyddol  2019-2020 ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019 i'r aelodau ar gyfer y cyfnod 2019-2020, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch Amcan Cydraddoldeb 6 - Gwella mynediad i'r amgylchedd drwy ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig lle bo'r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â gwasanaeth Shopmobility yn cael ei leoli yng nghanol tref Castell-nedd er mwyn gwella'r defnydd ohono. Cynghorwyd aelodau fod y gwasanaeth Shopmobility wedi'i leoli yn y maes parcio aml-lawr newydd ar hyn o bryd, i roi mynediad ar unwaith i ddefnyddwyr yn syth ar ôl iddynt barcio'u cerbyd. Nodwyd hefyd y bu gostyngiad mewn defnydd oherwydd effaith y pandemig ac yn dilyn adferiad y pandemig, gobeithir y byddai defnydd o'r gwasanaeth yn cynyddu.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Adroddiad Cynnydd Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg - mis Hydref

2019 - Mawrth 2020

 

Cyflwynodd swyddogion yr adroddiad cynnydd Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg ar gyfer y cyfnod o fis Hydref 2019 i fis Mawrth 2020. 

 

Nododd aelodau yr effaith yr oedd COVID-19 wedi'i chael ar hyrwyddo'r Gymraeg, fodd bynnag nodwyd bod yr adroddiad cynnydd ar gyfer y cyfnod ychydig cyn dechrau'r pandemig. Nodwyd, dros y flwyddyn ddiwethaf mae'n debygol y byddai effaith ar yr adroddiad cynnydd ar gyfer y cyfnod 2020-21, fodd bynnag roedd nifer cadarnhaol o bobl wedi manteisio ar gyrsiau hyfforddiant Cymraeg rhithwir.

 

Mynegwyd pryder ynghylch y golled o'r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar lafar, yn dilyn cau ysgolion oherwydd y pandemig, ar effaith y byddai hyn wedi'i chael ar fyfyrwyr. Ystyriodd swyddogion y pryderon a godwyd a sicrhawyd yr aelodau, wrth i ddisgyblion ddechrau dychwelyd i'r ysgol, y byddai'n flaenoriaeth iddynt gynnal adolygiad lleol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i golli addysg.

Canmolodd yr aelodau yr athrawon am eu gwaith o ddarparu cefnogaeth ac addysg i ddisgyblion yn ystod y pandemig.

 

 

Nodwyd bod Adnoddau Dynol yn gallu adrodd ar nifer y gweithwyr sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg drwy'r porth gweithwyr, a gofynnodd yr aelodau am y ffigur hwn. Hysbysodd swyddogion yr aelodau y byddent yn casglu'r wybodaeth hon ynghyd y tu hwnt i'r cyfarfod.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol - Adroddiad Cynnydd

 

Darparwyd diweddariad hanner blwyddyn i'r aelodau am y cynnydd a wnaed ar y Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer 2020-2021. Nodwyd bod y cynllun gweithredu'n adlewyrchu'r materion llywodraethu a nodwyd yn Natganiad Llywodraethu Blynyddol y cyngor ar gyfer 2019-2020 a adroddwyd i'r Cabinet ar 21 Mai 2020.

 

O fewn y Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu, holodd yr aelodau  am y camau gweithredu a gymerwyd i sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau cyfreithlon pe na bai modd defnyddio'r Protocol Camau Gweithredu Brys.  Hysbysodd swyddogion yr aelodau fod y camau gweithredu hyn yn cael eu cymryd i sicrhau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.