Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 62 KB ·
25 November 2020 ·
10 December 2020 ·
8 January 2021 ·
13 January 2021 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y
cyfarfodydd canlynol: ·
25 Tachwedd 2020 ·
10 Rhagfyr 2020 ·
8 Ionawr 2021 ·
13 Ionawr 2021 |
|
Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2021/22 PDF 122 KB Cofnodion: Derbyniwyd trosolwg o gynigion
cyllidebol drafft y Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer 2021/2022, fel y nodir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd mai cyfanswm y gyllideb
ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol yn y flwyddyn ariannol gyfredol oedd
£18.4 miliwn, gyda £50,000 yn cael ei nodi fel arbedion ar gyfer 2021/22 a
£30,000 ar gyfer 2022/23. Gofynnodd yr Aelodau a fydd dadansoddiad pellach o
sut y gellid ailgyfeirio arbedion rheoli ychwanegol i wasanaethau rheng flaen.
Cadarnhawyd y bydd blaengynllun ariannol y dyfodol yn cael ei ddiweddaru yn yr
haf ac y bydd yn edrych ar arbedion a chreu incwm yn ddiweddarach yn y flwyddyn
a blynyddoedd ariannol y dyfodol. Ychwanegwyd mai un o brif ganolbwyntiau'r
Gwasanaethau Corfforaethol eleni oedd gweithredu o ran y rheng flaen drwy
gefnogi a thalu grantiau i'r holl fusnesau yn y gymuned, gyda chymorth
cydweithwyr ym maes datblygu economaidd; hyd yma roedd £36 miliwn wedi'i dalu i
fusnesau. Soniodd swyddogion fod y gyllideb o £18.4 miliwn hefyd yn cynnwys y
costau sy'n gysylltiedig ag Aelodau a Gwasanaethau Pwyllgorau wrth hwyluso'r
cyfarfodydd amrywiol gan gynnwys y Pwyllgorau Craffu. O ran caffael ar gyfer
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, gofynnwyd a oedd disgwyl i'r swyddi
greu arbedion drwy gaffael effeithiol. Dywedodd swyddogion na fyddai hyn yn
creu arbedion ychwanegol yn benodol, ond yn hytrach byddai'n helpu i sicrhau
cydymffurfiaeth a'r gwerth gorau am arian. Nodwyd bod cymorth ychwanegol yn
cael ei geisio i sicrhau bod y contractau cywir yn cael eu rhoi ar waith fel
bod gweithgareddau, megis y gwaith sy'n gysylltiedig â'r contract hamdden
newydd sy'n ymwneud â chreu incwm drwy ddatblygiad Parc Margam, yn cael eu
caffael yn briodol a fydd, o ganlyniad, yn sicrhau bod gan y cyngor y gwerth
gorau am arian o ran contractau. Gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth
i adleoli neu ailhyfforddi staff, o ystyried yr hyblygrwydd a gafwyd o ran
trefniadau gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod polisi recriwtio cyfredol y cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i hyn
ddigwydd; mae'n rhaid ystyried pob swydd ar gyfer unrhyw aelodau o staff a oedd
mewn perygl; dim ond pan roddwyd ystyriaeth lawn i ymgeiswyr a ystyriwyd yn
flaenorol, y gellir hysbysebu swyddi i weithlu mewnol y cyngor. Ychwanegwyd os
nad oedd modd penodi rheolwr bryd hynny, y gallent gwblhau achos busnes i
geisio cymeradwyaeth i hysbysebu'r swydd yn allanol; fodd bynnag, mae polisi
cyfredol y cyngor yn mynnu bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i geisio adleoli
staff yn gyntaf. O ran Cyfathrebu a Marchnata, soniodd yr Aelodau fod y lefel uchel bresennol o weithgarwch cyfathrebu’n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi, ond gofynnwyd a oedd dadansoddiad ynghylch a oedd angen y swyddi newydd hyn yn barhaol. Cadarnhaodd swyddogion fod y swyddi ychwanegol yn gysylltiedig â marchnata digidol ac fe'u crëwyd yn wreiddiol i gefnogi'r galw eithriadol a gafwyd oherwydd y pandemig. Dywedwyd y byddai staff, dros yr ychydig fisoedd nesaf, yn edrych ar gynllunio'r dyfodol a sut y gellid llywio cam adfer y pandemig, a fydd yn cynnwys ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Flaenraglen
Craffu'r Cabinet ar gyfer 2020/21. |