Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

Adroddiad Diweddaru a Monitro Cyllideb Refeniw 2020-21

Cyflwynwyd Adroddiad Diweddaru a Monitro Cyllideb Refeniw 2020-21 i'r Pwyllgor a roddodd drosolwg o oblygiadau ariannol COVID-19 ar Adnoddau Ariannol y Cyngor a Chyllideb 2020/21.

Nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £424 mil ar gyfer colli incwm i Leoliadau'r Celfyddydau yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a gofynnwyd sut y defnyddiwyd yr arian hwnnw. Nodwyd bod y cyngor wedi cyllidebu ar gyfer incwm drwy gydol y flwyddyn; roedd y lleoliadau wedi bod ar gau am naw mis, ac roedd staff yn disgwyl iddynt fod ar gau am dri mis olaf y flwyddyn. Soniwyd mai'r arian hwn oedd cyfanswm gwerth yr incwm y byddai'r cyngor wedi bod yn ei gynhyrchu, a oedd yn talu'r costau felly roedd yr holl gostau wedi'u had-dalu. Ychwanegwyd nad oedd staff Lleoliadau'r Celfyddydau wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, a'u bod wedi'u hadleoli yn lle.

Mewn perthynas â lleoliadau preswyl i blant sydd mewn perygl, nododd yr adroddiad y bu gorwariant o £385k; gofynnwyd a oedd y cyngor yn rhagweld y byddai'r angen am fwy o leoliadau preswyl yn cynyddu ymhellach. Cadarnhaodd swyddogion y bu ychydig dros ddau leoliad ychwanegol eleni; roedd y gyllideb wedi cynyddu o ddau leoliad gan fod 11 o blant wedi'u lleoli erbyn hyn ac roedd y staff yn disgwyl i'r nifer hwn aros yn debyg am beth amser. Nodwyd nad oedd y cyngor yn rhagweld angen ychwanegol am ofal preswyl a fyddai'n uwch na'r 11 a grybwyllwyd, er ei fod yn anodd asesu hyn. Roedd swyddogion yn rhagweld y byddai mwy o bwysau ar y system Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) o ganlyniad i effaith COVID-19; fodd bynnag, roedd disgwyl y gellid ymdrin â hyn o fewn y systemau gofal maeth, gan y byddai'r rhan fwyaf o leoliadau gofal ychwanegol mewn gofal maeth ac nid mewn gofal preswyl.

Amlygodd yr adroddiad fod cyllid Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Mawrth, er mwyn cynyddu'r gyfradd fesul awr a dalwyd (£1 yr awr) i ddarparwyr gofal cartref a oedd yn profi costau ychwanegol oherwydd y pandemig; gofynnwyd a oedd y cynnydd mewn cyflog ar gyfer y darparwyr allanol yn unig. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod gwahanol becynnau o arian ychwanegol ar gael ar gyfer gofal preswyl a gofal cartref; o ran gofal cartref, roedd y cynnydd o £1 mewn cyflogau ar gyfer y darparwyr allanol, ond byddai'r cyngor yn cael ad-daliad o £1 ar gyfer darparwyr allanol a mewnol, felly byddai'r gwasanaethau mewnol hefyd yn elwa o hyn.

Nodwyd bod gorwariant Cyfathrebu a Marchnata o £26 mil o ganlyniad i gostau ychwanegol a gafwyd oherwydd effaith COVID-19, megis arwyddion, baneri; Dim ond 25% o'r costau a oedd wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru, a soniodd yr Aelodau fod y ganran hon yn siomedig. Soniodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi darparu swm sylweddol o gymorth ariannol fel y nodwyd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Flaenraglen Craffu'r Cabinet ar gyfer 2020/21.

 

3.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290,

gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

4.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

 

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda'r Cabinet:

Darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflwynwyd adroddiad preifat i'r Aelodau ar Ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.