Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiad o Gysylltiadau

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd:

 

Y Cyng. C Clement-Williams - Parthed. Eitem 10 - Gorchmynion Creu neu Ddiddymu Arfaethedig ar gyfer y llwybr troed o Hodgsons Road i afon Tawe - Cymuned Ystalyfera - gan fod ganddi deulu sy'n byw yn Hodgsons Road.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 69 KB

·        11 Tachwedd 2020

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Ymrwymiad i System TG a ffefrir i Gefnogi Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am system TG a ffefrir i gefnogi swyddogaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cynhaliwyd trafodaethau i sicrhau a fyddai'r system arfaethedig yn gydnaws â'r gwasanaeth Iechyd er mwyn parhau i gydweithio'n effeithiol. Esboniwyd y byddai'r system TG ei hun yn gwella gwaith tîm am ei fod yn gwella'r elfennau ymarferol.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o Oracle Forms ar gael o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Gofynnwyd sut y byddai ailfodelu'r gwasanaethau i oedolion yn cyd-fynd â'r amserlenni diweddaru TG. Nodwyd y byddai'r diweddariadau'n gwella ailfodelu'r Gwasanaethau i Oedolion. Nodwyd, wrth i'r ailfodelu barhau, y byddai'r cyngor yn diweddaru'r System TG berthnasol yn ôl y gofyn.

 

Trafododd yr Aelodau y dyddiad cynharaf o ran pryd y byddai'r cyngor yn mudo'n realistig i blatfform WCCIS. Cadarnhaodd swyddogion na fyddent yn ystyried newid eu barn o fewn y 5 mlynedd nesaf gan eu bod yn buddsoddi yn eu system eu hunain ar hyn o bryd. 

 

Holwyd ynghylch yr elfennau risg, megis dyrannu adnoddau staffio TG a phwy fyddai'n ariannu'r gwaith. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau bod gan y tîm y sgiliau i ddatblygu’r system o fewn y tîm ac roedd cynllun wedi’i ystyried i sicrhau bod adnoddau ar gael o fewn y tîm. Nodwyd hefyd y byddai cronfeydd cyllideb wrth gefn yn cael eu trosglwyddo o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Tîm TG canolog i dalu'r costau. 

 

Gofynnwyd a fyddem dan anfantais am ddefnyddio’n system TG ein hunain. Sicrhaodd swyddogion na fyddai'r cyngor dan anfantais gan y byddai'r system TG yn cael ei theilwra'n benodol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Gorchmynion Creu neu Ddiddymu Arfaethedig ar gyfer y llwybr troed o Hodgsons Road i afon Tawe - Cymuned Ystalyfera

 

 

 

(Cadarnhaodd y Cynghorydd Clement Williams ei budd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod)

 

Gwnaeth swyddogion ddiwygiad i'r adroddiad, gan newid yr Ward yr Effeithir arni o 'Ystalyera' i ' Godre'r-Graig’ 

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.