Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 55 KB

·        4 Tachwedd 2020

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020.

 

2.

Diweddariad Llafar am wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu

Cofnodion:

Cyflwynwyd diweddariad llafar i'r Aelodau ar y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD). Cyn rhoi dadansoddiad o'r ystadegau a'r darlun cyffredinol cyfredol, amlygodd Swyddogion fod y ffigurau'n giplun mewn amser o sefyllfa hynod ddeinamig a bod y niferoedd yn cynyddu ar hyn o bryd.

Ffigurau Lleol

Dywedwyd bod y Gwasanaeth POD yn Rhanbarth Bae Abertawe dros y saith niwrnod diwethaf wedi derbyn 2,604 o achosion mynegai newydd gyda bron i 5,000 o gysylltiadau yn gysylltiedig â'r achosion hynny, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y saith niwrnod diwethaf roedd y Gwasanaeth POD wedi derbyn 1,124 o achosion mynegai newydd a 2,536 o gysylltiadau yn gysylltiedig â'r achosion hynny.

Ychwanegodd Swyddogion fod yr epidemioleg yn dangos ei bod yn ymddangos yn gyson bod mwy o gysylltiadau'n gysylltiedig â phob achos yn ardal Castell-nedd Port Talbot nag yn Abertawe.

Ffigurau Cenedlaethol

O ran ffigurau cenedlaethol, nodwyd bod y ffigur saith niwrnod o achosion yn nodi mai Castell-nedd Port Talbot oedd yr uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd gyda 697.1 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth; Merthyr Tudful oedd yr uchaf ond un gyda 668 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth ac roedd Abertawe yn bumed yng Nghymru gyda 549.8 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth.  

Ffigurau Profion Positif

Hysbyswyd yr Aelodau mai Castell-nedd Port Talbot oedd yr ail uchaf yng Nghymru ar gyfer nifer y profion y nodwyd eu bod yn bositif, ar 25.5%; Merthyr Tudful oedd y cyntaf gyda chyfradd bositif o 28.7% ac roedd Abertawe yn 23%.

Dadansoddiad Grŵp Oedran

Dywedwyd bod yr achosion positif yn bennaf o fewn y boblogaeth oedran gweithio (pobl 40-49 oed a 50-59 oed); fodd bynnag, yn yr wythnosau diwethaf, bu cynnydd yn nifer yr achosion positif o fewn y grwpiau oedran iau (pobl ifanc 10-19 oed a phobl 20-29 oed) a oedd yn cael ei fonitro'n agos a'i ddadansoddi.

Clystyrau a Lleoliadau Cyswllt

Hysbyswyd y Pwyllgor fod 22 o gartrefi gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd ag achosion parhaus a bod lefel uchel o bryder ynghylch sefydlogrwydd y sector cartrefi gofal a gofal cymunedol yn gyffredinol; oherwydd hyn roedd problemau parhad busnes yn cael eu profi ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod nifer o glystyrau mewn gweithleoedd agored a chaeëdig ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Ysgolion

Amlygwyd bod 27 o ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi adrodd mwy nag un achos yn y 14 diwrnod diwethaf. Fodd bynnag, roedd hyn yn fwy tebygol o fod o ganlyniad i'r cynnydd yn ymlediad y feirws mewn aelwydydd; roedd y dystiolaeth yn parhau i ddangos nad oedd ymlediad eang yn amgylchedd yr ysgol a bod llawer o'r achosion yn yr ystod oedran ysgol o ganlyniad i'r hyn a oedd yn digwydd gartref ac yn ystod gweithgareddau y tu allan i'r ysgol megis partïon pen-blwydd a hyfforddiant chwaraeon. Ychwanegwyd, er bod y feirws yn cael ei drosglwyddo mewn ysgolion, eu bod, yn gyffredinol, yn darparu amgylchedd diogel a reolir o ran COVID-19.

Hysbyswyd yr Aelodau fod y Gwasanaeth POD wedi datblygu perthnasoedd gwaith  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Diweddariad am Banel Aelodau COVID-19 - Cam Adfer pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru mewn perthynas â Phanel Aelodau COVID-19 – Y Cyfnod Adfer a oedd yn cynnwys crynodeb o'r busnes a gynhaliwyd gan y Panel hyd yma.

Amlygwyd bod enw'r Panel wedi newid yn ddiweddar i 'Coronafeirws – Panel Aelodau' gan fod yr amgylchiadau wedi newid ers ei sefydlu gyntaf.

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â'r broses adfer o'r pandemig ac os rhagwelwyd y byddai cyfnod adfer yn dechrau yn ystod misoedd cyntaf 2021. Yn flaenorol, dechreuodd y cyngor feddwl rhywfaint am y broses adfer yn ystod haf 2020, pan oedd cyfraddau heintiau yn isel iawn, ond ymhen ychydig wythnosau, newidiodd y sefyllfa yn sylweddol. Dywedodd Swyddogion eu bod yn gobeithio y byddai'r cynllunio ar gyfer adferiad yn ailddechrau erbyn y Pasg pan fyddai'r rhaglen frechu wedi gwneud cynnydd sylweddol, fel y gellid cynnal trafodaethau gydag Aelodau a'r cymunedau dros yr haf ynghylch sut y bydd yr adferiad yn datblygu. Ychwanegwyd nad oedd y broses adfer yn un linol ac roedd gweithgareddau eisoes yn cael eu cynnal gydag adferiad mewn golwg gan gynnwys datblygu'r gwaith o gwmpas y gwersi a ddysgwyd dros y 9 mis diwethaf i sicrhau na chollwyd hyn; cafwyd rhai effeithiau uniongyrchol hefyd, er enghraifft y gwaith a oedd yn ymwneud â digartrefedd a cheisio datblygu rhai modelau ar gyfer symud y bobl a oedd mewn tai dros dro ar hyn o bryd, i drefniadau mwy parhaol.

Diolchodd yr Aelodau i bawb a fu'n ymwneud â chyfrannu at waith y Panel a'r Grŵp Ffocws.

Yn dilyn y broses graffu, nodwyd y diweddariad.

 

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Cyflwynwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 i'r Pwyllgor gyda'r camau gweithredu i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb.

Gofynnodd yr Aelodau faint o staff yr oedd y cyngor wedi'u cyflogi a oedd ar gontractau dim oriau a'r rhesymu y tu ôl i pam yr oeddent ar y math hwn o gontract. O ran y rheswm, nodwyd bod yr unigolion wedi dewis ymgymryd â chontractau achlysurol ar gyfer gwaith, er enghraifft yn y Tîm Arolygu yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, roedd nifer cymharol fach o staff a oedd â rhesymau penodol dros fod ar y math hwnnw o gontract ac mae'r unigolion hyn yn sicrhau eu bod ar gael ac yn gallu gwrthod gwaith os yw'n addas iddynt; nid oedd patrwm gwaith penodol y gellid ei gynllunio ymlaen llaw ar eu cyfer. Cadarnhawyd y byddai Swyddogion yn dosbarthu union nifer y staff ar gontractau dim oriau i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

Nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd na chafwyd unrhyw adborth o ddigwyddiad a gynhaliwyd gyda'r Gymuned Arfer ar gyfer Cynnwys a Chyfranogiad er mwyn cael cipolwg ar yr hyn a oedd yn bwysig i'r grwpiau y maent yn ymgysylltu â nhw'n rheolaidd; gofynnwyd pwy oedd yn rhan o'r digwyddiad a pham na chafwyd unrhyw adborth. Esboniwyd y gofynnwyd i Swyddogion Cyfranogiad y cyngor ar draws gwahanol feysydd y cyngor (gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi'r cyngor ieuenctid, fersiwn plant sy'n derbyn gofal y cyngor ieuenctid a'r cyn-filwyr cymunedol) fwydo unrhyw farn neu dystiolaeth a allai gefnogi datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol; wrth i'r amcanion cydraddoldeb gael eu drafftio, gofynnwyd i'r Swyddogion hyn ystyried a oedd yr amcanion cywir wedi'u dewis ai peidio. Fodd bynnag, oherwydd amseru'r pandemig, amharwyd ar y gwaith cynnwys â'r rhwydwaith hwn o Swyddogion. Amlygwyd pwysigrwydd eu mewnbwn a'r angen i barhau â'r gwaith hwn fel rhan o'r gweithredu. 

Gofynnwyd a oedd y gwaith o wella mynediad corfforol i gyfleusterau'r Pwyllgor yng nghanolfannau dinesig Castell-nedd a Phort Talbot yn ddichonadwy o hyd ac, os felly, pryd y byddai'n cael ei wneud; y cynllun o hyd oedd gwella'r trefniadau mynediad i Aelodau, yn enwedig yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot gan fod rhai anawsterau o ran mynediad, yn enwedig yn Siambr y Cyngor. Nodwyd bod llawer o waith yn cael ei wneud cyn y pandemig, ac un o'r prif ddarnau o waith a ystyriwyd oedd clirio hen ardal y gegin nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach a'i throi'n ystafell gyfarfod gan ei bod yn lle hygyrch iawn; byddai cael ystafell gyfarfod i lawr y grisiau yn fuddiol gan mai un o'r problemau o ran cynnal cyfarfodydd ar y lloriau uchaf oedd y byddai'n rhaid i rywun yn y cyfarfod hwnnw fod yn gyfrifol am weithdrefnau ymarfer gadael yr adeilad a chael ei hyfforddi i wneud hynny, pe bai tân er enghraifft.

Mewn perthynas â datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r cyngor yn gwneud ffactorau fel oedran, rhyw,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290,

gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

6.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol:

 

Rhwydwaith Cymorthdaledig Cludiant i Deithwyr

 

Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad preifat ar y Rhwydwaith Cymorthdaledig Cludiant i Deithwyr.

 

Yn dilyn y broses graffu, nododd y Pwyllgor yr adroddiad.