Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd S Reynolds Parthed: Eitem 5 ar yr agenda - Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau - Cynrychiolydd y Porth gan ei bod yn ymddiriedolwr Canolfan Maerdy

 

Y Cynghorydd N Hunt Parthed: Eitem 4 ar yr agenda - Parcio Ceir dros y Nadolig gan ei fod yn gweithio yng Nghanol Tref Port Talbot.

 

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 62 KB

·        30 Medi 2020

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2020.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau – Cynrychiolydd y Porth

 

Canmolodd yr aelodau'r cynllun a thrafodwyd cwmpas a hyblygrwydd cymhwysedd y cynllun. Gofynnwyd a fyddai gan bobl ifanc nad oeddent ar gredyd cynhwysol ond yn ennill cyflog bach hawl i'r cynllun hwn. Esboniodd Swyddogion fod y meini prawf yn llym iawn, fodd bynnag pe bai gan yr aelod unrhyw unigolion penodol yr oedd angen cymorth arnynt, gallai Swyddogion eu cynghori ymhellach.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r materion a gynhwysir yng Nghofnod Rhif 5 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rheswm dros y Mater Brys

Oherwydd yr elfen amser.

 

 

 

 

5.

Parhad cymorth i'r Diwydiant Bysus yn ystod COVID-19.

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am y cytundebau Cymorth i'r Diwydiant Bysus yn ystod COVID-19 gyda Gweithredwyr Trafnidiaeth Teithwyr.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch hysbysebu ar fysus gwasanaeth gan nad yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn hyrwyddo hyn ar hyn o bryd.

 

Diwygiodd Swyddogion yr argymhelliad yn y cyfarfod, fel a ganlyn:

 

1.   Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, y Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth a'r swyddogion hynny a ddynodwyd ganddynt i roi canllawiau Llywodraeth Cymru ar weinyddu'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ar waith wrth i’r mecanwaith hwn barhau i gefnogi'r diwydiant bysus.

 

2.   Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio a’r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth i ymrwymo i Gytundebau Indemniad COVID-19 gyda Gweithredwyr Trafnidiaeth Teithwyr yn unol â'r canllawiau a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru, Cymorth i'r Diwydiant Bysus yn ystod COVID-19 Llywodraeth Cymru mis Ebrill 2020 ac unrhyw ganllawiau dilynol y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi.

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion diwygiedig i'r Cabinet. 

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

7.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Ailfodelu Gorsaf Drosglwyddo Twyni Crymlyn – Penodi

Ymgynghorwyr

 

Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad preifat ar benodi ymgynghorwyr i gefnogi’r gwaith i Ailfodelu Gorsaf Drosglwyddo Twyni Crymlyn.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet

 

Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol

 

Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad preifat yn ymwneud â'r broses cynnal Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol mewn perthynas ag eiddo yng nghyffiniau Hwb Trafnidiaeth arfaethedig Castell-nedd.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet