Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 5ed Chwefror, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o fuddiant gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Steven Phillips, parthed trefniadau'r dyfodol mewn perthynas â chyfranddaliad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng nghwmnïau Baglan Bay Company Limited a Coed Darcy Limited, gan ei fod yn Gyfarwyddwr y cwmnïau dan sylw. Gan fod ei fuddiant yn rhagfarnol, gadawodd yntau'r ystafell yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio am hynny.

 

 

2.

Dewis eitemau priodol o agenda'r Cabinet (Adroddiadau'r Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Cynllun Gweithredu'r Cymoedd - Adroddiad Cynnydd

 

Trafododd yr aelodau'r diffyg cludiant ar hyn o bryd i wasanaethu cymunedau'r cymoedd. Nodwyd bod Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig wedi  sefydlu Is-bwyllgor Trafnidiaeth cysgodol yn ddiweddar, gyda chytundeb Llywodraeth Cymru, i fynd i'r afael â blaenoriaethau'r dyfodol. Er bod angen gwneud llawer o waith yn yr ardal hon, roedd y blociau adeiladau'n cael eu rhoi yn eu lle i wella'r sefyllfa gyfredol.

 

Trafodwyd deiliadaeth uchel unedau busnes bach yng nghymunedau'r cymoedd, a nododd aelodau'r dyraniad ychwanegol a wnaed yn y rhaglen gyfalaf adfywio er mwyn gallu manteisio ar gyfleoedd ariannu posib.

 

Trafodwyd enghreifftiau o fentrau cymdeithasol, gan gynnwys y gwasanaeth gofal cartref yn y dyfodol. Byddai'r gwasanaeth yn fwy daearyddol yn y dyfodol, ac yn darparu swyddi lleol i bobl leol. Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng y gwasanaeth cymorth cartref (gofal personol lefel isel) a'r gwasanaeth gofal cartref (lefel uwch a pheth gofal meddygol).

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Trefniadau'r Dyfodol mewn perthynas â Chyfranddaliadau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng nghwmïau Baglan Bay Company Limited a Coed Darcy Limited.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, eglurodd swyddogion mai pris y cyfranddaliadau a ddaliwyd gan y cyngor mewn perthynas â Coed Darcy Limited oedd £1.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

3.

Blaenraglen Waith 2019-2020 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/2020.