Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Dewis eitemau priodol o agenda y Cabinet (Adroddiadau y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu) Cofnodion: Craffodd y pwyllgor yr eitemau cabinet
canlynol: Model Amgen – Cyngor Pobl Hŷn Nid yw’r Cyngor Pobl Hŷn (CPH)
wedi cael ei adolygu ers ei sefydlu yn 2005. Gyda phoblogaeth gynyddol
hŷn, ynghyd â materion cyfnewidiol sy’n effeithio ar fywydau pobl
hŷn, a newidiadau mawr i ofal cymdeithasol i oedolion, roedd yn amserol
sefydlu math o fodel gwahanol. Pwysleisiodd y Cynghorwyr mor bwysig
oedd hi i leisiau pobl hŷn gael eu clywed yn glir o fewn Castell-nedd Port
Talbot. Roedd trafodaethau wedi’u cynnal yn ystod y 2 flynedd diwethaf gydag
aelodau o’r CPH, yn ogystal â chydag amrywiol grwpiau eraill yn y gymuned leol
sy’n ymgysylltu â phobl hŷn. Y bwriad oedd cynnal symposiwm tua mis Ebrill
2020 i siarad â phobl hŷn am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau.
Byddai cyfuniad o ddulliau ychwanegol yn cael eu defnyddio i gasglu barn pobl
hŷn, gan gynnwys drwy’r rhyngrwyd ac wyneb yn wyneb. Cafwyd canmoliaeth gan y Cynghorwyr i
waith y CPH presennol, a nodwyd y gallai’r un aelodau fod yn rhan o’r fforwm
newydd wedi’i ailfodelu, os dyna’u dymuniad. Pwysleisiodd y Cynghorwyr
bwysigrwydd casglu barn cynrychiolwyr pobl hŷn, fel gofalwyr er
enghraifft. Nodwyd na fyddai unrhyw newid i’r meini
prawf oedran presennol, ac y byddai pobl hŷn yn cael ymuno o hanner cant
oed. Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn
cefnogi’r cynigion i’r cabinet eu hystyried. |
|
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 81 KB Cofnodion: Cynghorodd y swyddog craffu’r
Cynghorwyr fod nifer o ddyddiadau wedi’u newid oherwydd Etholiad Seneddol y DU
a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer 12 Rhagfyr 2019. Roedd y flaenraglen waith
wedi’i diweddaru yn unol â hynny. Nododd y pwyllgor y Flaenraglen Waith
ar gyfer 2019/20. |