Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 17eg Mai, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Karen Jones       -         Parthed Eitem 5 o bapurau'r Cabinet - Rhoi Indemniad Swyddog i Karen Jones mewn perthynas ag Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru - gan mai hi yw'r swyddog sy'n cael ei drafod yn yr adroddiad. Datganodd Karen Jones fudd rhagfarnol yn y cyfarfod a gadawodd y cyfarfod pan drafodwyd yr eitem.

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 381 KB

·        10/03/2023

·        05/04/2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd y cofnodion canlynol fel cofnod cywir:

 

        10 Mawrth 2023

        5 Ebrill 2023

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Rhoi Indemniad Swyddog i Karen Jones mewn perthynas ag Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru

 

(Ailddatganodd Karen Jones ei budd a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig)

 

Diweddarwyd yr aelodau ar y cais i roi indemniad swyddog i'r Prif Weithredwr yng ngoleuni ei rôl fel cyfarwyddwr Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru.

 

Gofynnodd yr aelodau a fyddai'r swydd yn derbyn tâl am y gwaith sydd ynghlwm wrthi Esboniodd swyddogion na fyddai tâl yn cael ei roi ar gyfer y swydd ac y byddai'r Prif Weithredwr yn cyflawni'r rôl ar sail wirfoddol oherwydd ei harbenigedd.

 

Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad gefnogaeth i fynd gerbron y Cabinet.

 

Archwilio Cymru - Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol Sicrwydd ac Asesu Risgiau

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd gan y pwyllgor craffu gyfres o ymholiadau ar gyfer yr eitem hon, fodd bynnag, nodwyd bod yr Aelod Cabinet perthnasol yn dymuno cyflwyno'r adroddiad ar lafar i'r pwyllgor.

 

Diweddariad mewn perthynas â chyflwyno

Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot

 

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau mewn perthynas â chyflwyno

Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd Katie Cook o Gymru Gynnes yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch cysyniad cychwynnol y Cynllun Cymorth Caledi. Nodwyd bod aelodau wedi gofyn am y cynllun yn wreiddiol i gefnogi'r cyhoedd a oedd yn derbyn budd-daliadau a hefyd etholwyr sy'n gweithio y mae'r argyfwng costau byw cyfredol yn effeithio arnynt. Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd rhoi ystyriaeth i gael ymagwedd helaethach o ran y meini prawf i sicrhau bod mwy o gwmpas mewn perthynas â'r rheini y byddai angen mwy o gefnogaeth arnynt.

Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd iddynt dderbyn dadansoddiad fesul ward o'r rheini sydd wedi gofyn am y cyllid.

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd a ellid darparu taflenni Cymru Gynnes i aelodau i'w rhannu â'u hetholwyr.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

5.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.