Agenda a Chofnodion

Speical, Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 10fed Mai, 2023 1.30 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Cafodd yr aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad Cystadleuaeth Porthladdoedd Rhydd Cymru a gyhoeddwyd gan lywodraethau Cymru a'r DU a’r cais i fwrw ymlaen â’r gwaith sy’n gysylltiedig â chyflwyno Achos Busnes Amlinellol, sef cam nesaf y broses polisi Porthladd Rhydd, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Dywedodd y swyddogion wrth y pwyllgor fod camgymeriad yn argymhelliad (e) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.Nodwyd bod argymhelliad (e) yn darllen:

 

·        ‘Cymeradwyo’r ymrwymiad o £250,000 o refeniw i baratoi’r Achos Busnes Amlinellol a’r Achos Busnes Ariannol ac yn nodi y bydd unrhyw geisiadau am ymrwymiad ariannol ychwanegol yn cael eu dwyn yn ôl i’r Cabinet i’w cymeradwyo ymhellach;’ – 200,000 ac nid 250,000.

 

Nodwyd y dylai £250,000 ddarllen fel £200,000 ac nid £250,000 fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd David Gwynne o Eurus Consulting yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y manylion ariannol a nodwyd yn yr adroddiad.Nodwyd bod risg ariannol o £150,000 i £250,000.Roedd yr aelodau'n bryderus a fyddai hyn yn cael effaith ar y cronfeydd wrth gefn y gyllideb sydd i ddod pe na bai'r arian yn cael ei adennill o fewn y flwyddyn ariannol hon.Rhoddodd swyddogion sicrwydd i'r aelodau y byddai'r cronfeydd wrth gefn yn ddigon cyfforddus i ymdrin â'r risg hon.

 

Rhannodd yr aelodau bryderon mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu gyda'r paneli ychwanegol.Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr aelodau y byddent yn cael cyfle i graffu a gwahodd cynrychiolwyr o’r Panel Buddsoddi yn ogystal ag ystyried eu Cylch Gorchwyl.

 

Holodd yr aelodau ynghylch ym mha portffolio y bydd y Porthladdoedd Rhydd yn berthyn iddo yn y dyfodol at ddibenion llywodraethu.Dywedodd swyddogion y byddai Porthladdoedd Rhydd yn cael eu cynnwys ym mhortffolio Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ar gyfer craffu yn y dyfodol.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch ardrethi busnes ac archwilio cynllun budd cymunedol yn y dyfodol.Nodwyd nad oedd swyddogion wedi derbyn arweiniad eto ynglŷn â’r disgwyliadau ar yr hyn sydd ei angen o ran yr achos busnes, ond nodwyd bod trafodaethau wedi cychwyn ar sefydlu’r achos busnes i sicrhau buddion economaidd ehangach.Byddai hyn yn arwain at y budd mwyaf o ran swyddi ac felly'r angen am dai ychwanegol.

 

Holodd yr Aelodau o ran addysg mewn colegau i sicrhau bod y sgiliau priodol ar gael i'r rheini yng nghymuned Castell-nedd Port Talbot i gael y swyddi posib hyn.Sicrhaodd swyddogion fod sgyrsiau'n cael eu cynnal â'r swyddogion perthnasol a phartïon allanol a byddai diweddariadau ar uwchsgilio o fewn colegau yn cael eu darparu i aelodau maes o law.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion (gan gynnwys diwygiad technegol swyddogion i Argymhelliad (e)) i'w cyflwyno i’r Cabinet.

 

 

4.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.