Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7 ac 8 ar agenda'r cabinet.

 

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd Ddrafft 2023-2028

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

Mynegodd aelodau bryderon ynghylch y strategaeth ddrafft. Nodwyd bod 71 o ymatebion gan Banel y Dinasyddion mewn perthynas â'r holiadur cychwynnol a defnyddiwyd y rhain i baratoi ar gyfer y Strategaeth Ddrafft. Mae 500 o aelodau ar Banel y Dinasyddion, felly mae hyn yn adlewyrchu ymateb isel iawn i'r ymgynghoriad. Mynegodd aelodau eu pryder ymhellach mewn perthynas â'r ymgynghoriad ehangach, lle'r oedd cyfradd ymateb o 0.35% o boblogaeth Castell-nedd Port Talbot.

Holodd aelodau a dylai'r ymgynghoriad fandadu bod holl gwestiynau'r ymgynghoriad yn cael eu hateb, fel bod data cymeradwy ar gael.

Amlinellodd aelodau, os caiff y strategaeth ei chymeradwyo gan y Cabinet, dylai bod gofyniad am fonitro llym o'r strategaeth a gwelliannau ym maes ymgysylltu â'r cyhoedd.

Dywedodd swyddogion fod y 71 o ymatebion gan Banel y Dinasyddion yn ymatebion manwl a ddefnyddiwyd i lywio'r strategaeth. Cydnabu swyddogion, gyda'r ymgynghoriad ehangach, efallai bod y nifer llai o ymatebion o ganlyniad i flinder ymgynghori. Fodd bynnag, dywedodd swyddogion fod yr ymatebion a dderbyniwyd yn fanwl. Cadarnhaodd swyddogion fyddai'r strategaeth yn cael ei monitro bob chwe mis.

Nododd swyddogion awgrymiadau gan aelodau ynghylch gwella cyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd a chytunwyd i drafod hyn â'u cydweithwyr fel y bo'n briodol. Rhoddwyd gwybod i aelodau bod dolen i'r adran 'Dweud eich dweud' ar y wefan ar hafan bresennol wefan y cyngor.

Cytunodd swyddogion fod y pwyntiau sy'n berthnasol i adborth gwasanaeth cwsmeriaid yn werthfawr, fodd bynnag, dywedwyd eu bod y tu allan i gylch gwaith yr eitem hon. Ymdrinnir â'r pwyntiau a godwyd yn yr adolygiad o wasanaethau cwsmeriaid a strategaethau eraill.

Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd gael adborth gan aelodau'r cyhoedd gan mai nhw yw'r bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan wasanaethau'r cyngor. Gofynnodd aelodau hefyd sut y gall aelodau'r cyhoedd canmol y cyngor, oherwydd ffurflen gwyno yn unig sydd ar gael ar y wefan.

Sefydlwyd Panel y Dinasyddion ychydig cyn y pandemig a dyluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth oedolion y fwrdeistref. Y bwriad oedd i'w ddefnyddio i gael canlyniadau a oedd yn ddilys yn ystadegol. Nid yw'n ddilys ar lefel fwrdd unigol. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn debygol bod angen i'r panel gael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y cyfranogwyr. Bydd y syniadau amrywiol a gyflwynwyd gan aelodau yn ystod y cyfarfod yn cael eu hystyried yn fanylach.

Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Cynllun Corfforaethol - Rhaglen Newid Strategol ar gyfer y cyfnod o 2023-2024

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

Cyfeiriodd aelodau at dudalen 160 o becyn yr agenda sy'n cyfeirio at deithio llesol ac annog rhagor o bobl i gerdded a beicio. Fodd bynnag, tynnwyd y cyfeiriad at leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat oddi ar y cynllun arfaethedig. Dywedodd swyddogion fod angen i'r broses o leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat fod yn gyfiawn. Cydnabuwyd wrth gynyddu teithio llesol, dylai hyn leihau'r ddibyniaeth ar gerbydau preifat.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 405 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem hon.

 

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.