Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Gwener, 10fed Mawrth, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penderfynu arfer y pwerau a nodir yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sef y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y’i cymeradwywyd gan y Cyngor Mai 2015.

Cofnodion:

Penderfynwyd: Arfer y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y cymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mai 2015.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Cynllun Llesiant Drafft 2023-2028 pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i aelodau ar ymgynghoriad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot ar y Cynllun Lles Drafft.

 

Darparwyd crynodeb i aelodau o ddyletswyddau sy'n codi o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i baratoi a chyhoeddi asesiad lles yn ei ardal ac yna i baratoi a chyhoeddi cynllun lles lleol sy'n amlinellu ei amcanion lleol i wella lles yn yr ardal a'r camau gweithredu mae'n ei gynnig er mwyn eu bodloni. Dyma'r ail gynllun lles lleol y mae'r BGC yn ymgynghori arno.

 

Mae gofyn i'r BGC weithio yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae gweithio yn y ffordd hon yn rhoi'r cyfle i sefydliadau fod yn fwy blaengar. Mae'r BGC wedi defnyddio'r data a gasglwyd o'r ymgyrch Dewch i Siarad a gynhaliwyd yr haf diwethaf er mwyn helpu gyda llywio'r asesiad lles.

 

Tynnwyd themâu allweddol o'r asesiad lles, sydd wedi cael eu trosglwyddo i'r cynllun drafft. Mae dyletswydd ar y BGC i ymgynghori'n gyhoeddus ar y cynllun am o leiaf 12 wythnos. Mae Pwyllgor Craffu'r Cabinet yn ymgynghorai statudol ac mae gan y pwyllgor ddyletswydd i graffu ar waith y BGC. Unwaith caiff y cynllun ei gyhoeddi, bydd y BGC yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol a fydd yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor craffu.

 

Fel rhan o gynhyrchu'r cynllun, bydd angen i'r BGC gynnig cyfres o gamau gweithredu fydd y bwrdd yn eu cymryd i'w helpu i gyflawni eu hamcanion. Amlinellodd y swyddogion yr amcanion a'r camau gweithredu.

 

Amlinellodd y BGC ei fwriad i weithio gyda phartneriaid Castell-nedd Port Talbot i gefnogi buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol a mwyafu'r buddion ar gyfer pobl leol.

 

Holodd aelodau pam yr oedd y dyfyniadau a ddefnyddiwyd o fewn yr adroddiad o gymunedau'r cymoedd ac nid ardaloedd eraill. Cadarnhawyd bod y dyfyniadau a ddefnyddiwyd o adroddiadau terfynol ymgyrch Dewch i Siarad. Cynhyrchwyd crynodeb o'r Asesiad Lles gan Brifysgol Abertawe. Mae dyfyniadau o ardaloedd eraill o fewn Castell-nedd Port Talbot a chaiff y rhain eu mewnbynnu i'r cynllun drafft.

 

Nododd aelodau fod yr adroddiad yn cyfeirio at wella'r ddarpariaeth o fannau gwyrdd o fewn ardaloedd trefol, ond nid oes manylion am y gwaith sydd i'w wneud er mwyn gwella'r darpariaeth. Hefyd, nid yw'r adroddiad yn cyfeirio at randiroedd, a'u manteision lles posib. Holodd aelodau a oedd unrhyw gyfle i'w cynnwys o fewn y cynllun. Cadarnhaodd swyddogion fod angen datblygu llawer o fanylion o hyd ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd wrth symud ymlaen a chaiff hyn ei adrodd yn ôl i aelodau.

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau am yr wybodaeth a gynhwysir o fewn yr asesiad lles ar-lein a byddai dolen yn cael ei dosbarthu er mwyn i aelodau gael mynediad ati. Ers cynhaliwyd yr asesiad, comisiynwyd Strategaeth Ddiwylliant a Threftadaeth gan y cyngor. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltiad â grwpiau cymunedol amrywiol. Caiff y BGC ei annog i gyfrannu at y strategaeth hon yn hytrach na sefydlu darn o waith eu hunain ar wahân.

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.